British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020186w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 186 (Cy.25)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
31 Ionawr 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Chwefror 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1] a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("
the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[
2].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 1 o'r prif Reoliadau
2.
Ym mharagraff (2) o Reoliad 1 o'r prif Reoliadau (dehongli), yn y diffiniad o "NHS sight test fee", yn lle'r swm "£42.85" rhowch "£44.39" ac yn lle'r swm "£15.52" rhowch y swm "£16.08".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y prif Reoliadau"), sy'n darparu cynllun ar gyfer taliadau i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol, drwy system dalebau, tuag at y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o berson mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.
Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o "NHS sight test fee" yn rheoliad 1(2) o'r prif Reoliadau i adlewyrchu gwerthoedd y ddwy lefel o ffioedd am brofion golwg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n daladwy i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym. Mae'r symiau hyn yn berthnasol wrth pwy sy'n gymwys i gael taleb at dalu costau prawf golwg, a phenderfynu ei gwerth adbrynu.
Notes:
[1]
1977 p.49 ("Deddf 1977"); gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(5). Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 4 gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 1, paragraff 3 a'i diwygio gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.48). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4)o Ddeddf 1977 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'u diwygiwyd gan adran 66(5) o Deddf 1999.back
[2]
O.S. 1997/818. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978(Cy.48), 2000/3119(Cy.198) a 2001/1423(Cy.98)back
[3]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090421 4
|
Prepared
13 February 2002