British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020156w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 156 (Cy.22)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
29 Ionawr 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 314(4) o Ddeddf Addysg 1996[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2]:
Enwi
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002.
2.
1 Ebrill 2002 yw'r diwrnod a benodir i'r Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru[
3] a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 314(4) o Ddeddf Addysg 1996 ddod yn effeithiol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4])
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 313 o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi Cod Ymarfer sy'n rhoi canllawiau ymarferol ynghylch sut y dylai awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gyflawni eu swyddogaethau o dan y Ddeddf honno mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig, ac yn caniatáu iddo ddiwygio'r Cod o dro i dro. Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi Cod o dan y teitl Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 1 Ebrill 2002 yn ddyddiad i'r Cod ddod i rym.
Gellir cael copïau o'r Cod oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Gellir ei gael ar y Rhyngrwyd hefyd yn www.cymru.gov.uk
Mae'r Cod, mewn perthynas â Chymru, yn disodli Rhestr Argymhellion gynharach a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ar y cyd, ar 25 Mai 1994.
Notes:
[1]
1996 p.56.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)back
[3]
ISBN 0 7504 27574 Gellir cael copïau o'r Cod (sy'n gymwys i Gymru yn unig) oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Gellir ei gael ar y Rhyngrwyd hefyd yn www.cymru.gov.uk.back
[4]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090419 2
|
Prepared
11 February 2002