Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020120w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 120 (Cy.14)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
25 Ionawr 2002 | |
|
Yn dod i rym |
18 Chwefror 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, ac yn gweithredu drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2002, byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 18 February 2002.
Diwygio Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998[
3] fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) i (4) isod.
(2) Yn lle rheoliad 5 (Pwerau Arolygydd) rhoddir:
"
Powers of an Inspector
5.
- (1) The Provisions of this regulation are without prejudice to the circumstances in which an inspector may by virtue of the Order exercise the powers conferred by the Order.
(2) On having reasonable grounds for suspecting a contravention or likely contravention of regulation 3, an inspector may, for the purpose of these Regulations, exercise -
(a) the power conferred by article 22(1) of the Order as read with article 24(1) to (3) of the Order, as if a potato originating in Egypt were a plant landed or likely to be landed in contravention of the Order; and
(b) the power conferred by article 22(2) of the Order as read with article 24(1) to (3) of the Order, as if a potato originating in Egypt kept on or moved from premises, or likely to be so, were a plant kept on or moved from the premises in contravention of the Order.
(3) On having reasonable grounds for suspecting a contravention or likely contravention of regulation 4, an inspector may, for the purpose of these Regulations, exercise the power conferred by article 22(2) of the Order as read with article 24(1) to (3) of the Order, as if a potato originating in Egypt processed at any premises in breach of these Regulations were a plant kept on or moved from the premises in contravention of the Order.
(4) An inspector may, for the purposes of checking compliance with these Regulations, exercise the powers conferred by article 25 of the Order, as if checking compliance with the Order.
(5) Any notice served by virtue of this regulation in exercise of a power conferred by article 22(1) or (2) of the Order shall have effect as if served under article 22(1) or (2) of the Order, and articles 24(4) to (6), 26 to 28, 32 and (2) and (6) of the Order shall apply accordingly.
(6) Any power conferred by article 25 of the Order which is exercised by virtue of this regulation shall be treated as if that power had been exercised under the Order, and the provisions of the Order (including article 33(1)(a) and (c), (2) and (6) (offences)) shall apply accordingly.".
(3) Ym mharagraff (1) o reoliad 5A (Ffioedd ar gyfer samplu mewnforion tatws) yn lle "a fee of £35," rhoddir "a fee of £37.50,".
(4) Yn yr Atodlen, o dan y golofn gyda'r pennawd "Instrument", ar ôl "Commission Decision 2000/568/EC", ychwanegir "Commission Decision 2001/664/EC"[4], ac o dan y golofn gyda'r pennawd "Reference", ar ôl "OJ No. L238, 22.9.00, p.59", ychwanegir "OJ No. L233, 31.8.01. p.49".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
J. E. Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad
25 Ionawr 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2001/664/EC[
6] sy'n diwygio Penderfyniad y Comisiwn 96/301/EC[
7] ("y Penderfyniad") sy'n awdurdodi'r Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd mesurau brys yn erbyn lledaenu
Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith mewn perthynas â'r Aifft. Maent yn gwneud hynny drwy ychwanegu at y rhestr o offerynnau sy'n diwygio'r Penderfyniad sydd wedi'i gynnwys yn yr Atodlen i Reoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 (O.S. 1998/201) ("y Rheoliadau") (rheoliad 2(4)). Cyfeirir bellach at P
seudomonas solanacearum Smith (Smith) fel
Ralstonia solanacearum Smith (Yabuuchi) et al. (gweler Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC (OJ Rhif L235, 21.9.1998, t. 1)) er nad yw'r cyfeiriad ato yn y Penderfyniad wedi'i ddiwygio eto. Mae Penderfyniad 2001/664/EC yn adnewyddu'r fframwaith y gellir mewnforio tatws o'r Aifft odano i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd yn ystod tymor 2001/2002.
Mae'r Rheoliadau hyn yn egluro hefyd ar ba sail y gellir defnyddio pwerau arolygwyr o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 mewn perthynas â'r Rheoliadau (rheoliad 2(2)), a chynyddu'r ffi sy'n daladwy gan fewnforwyr y mae samplau wedi'u cymryd o'u tatws er mwyn profi i weld a yw
Ralstonia solanacearum Smith (Yabuuchi) et al. yn bresennol (rheoliad 2(3)). Mae'r cynnydd yn y ffi yn adlewyrchu codiad mewn costau labordy ac mae'n gyson â'r cynnydd mewn chwyddiant.
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 1998/201, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3167, O.S. 2000/350 (W.8) ac O.S. 2001/2356 (W.194).back
[4]
OJ Rhif L233, 31.8.2001, t.49.back
[5]
1998 p.38.back
[6]
OJ Rhif L233, 31.8.2001, t. 49.back
[7]
Penderfyniad y Comisiwn 96/301/EC, OJ Rhif L115, 9.5.1996, t. 47back
English
version
ISBN
0 11090438 9
|
Prepared
7 March 2002