British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020074w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 74 (Cy.8) (C.1)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn) (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
17 Ionawr 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwer a roddwyd iddo gan adran gan adran 43(6) a (7) o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, Cymhwyso a Dehongli
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn) (Cymru) 2002.
2.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
3.
Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'n dweud fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 ac Atodlenni iddi.
Y diwrnodau penodedig
4.
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 21 Ionawr 2002.
5.
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Ebrill 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Ionawr 2002
YR ATODLENErthyglau 4 a 5
RHAN
I
Y DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 21 IONAWR 2002
Y DDARPARIAETH
|
Y PWNC
|
Adran 1 (i'r graddau y mae ei hangen er mwyn gwneud unrhyw reoliadau y mae'n darparu ar eu cyfer) |
Addysgu plant ag anghenion addysgol arbennig yn ysgolion y brif ffrwd |
Adran 8 (i'r graddau y mae ei hangen er mwyn gwneud unrhyw reoliadau y mae'n darparu ar eu cyfer) |
Adolygiad neu asesiad o anghenion addysgol arbennig ar gais corff cyfrifol |
Adran 42(1) (i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 8 a nodir yn y tabl hwn) |
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Paragraffau 17 a 18 o Atodlen 8 (i'r graddau y mae eu hangen er mwyn gwneud unrhyw reoliadau y mae'n darparu ar eu cyfer) |
Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 |
RHAN
II
Y DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2002
Y DDARPARIAETH
|
Y PWNC
|
Adran 1 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
Addysgu plant ag anghenion addysgol arbennig yn ysgolion y brif ffrwd |
Adran 2 |
Cyngor a gwybodaeth i rieni |
Adran 3 |
Datrys anghydfodau |
Adran 7 |
Dyletswydd i roi gwybod i riant pan wneir darpariaeth addysgol arbennig |
Adran 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
Adolygiad neu asesiad o anghenion addysgol arbennig ar gais corff cyfrifol |
Adran 9 |
Dyletswydd i bennu ysgol a enwir |
Adran 42(1) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 8 a bennir isod.
Adran 42(6) i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 9 a bennir isod.
|
Mân ddiwygiadau a diddymiadau |
Yn Atodlen 8, paragraffau 1, 5 i 12, 14, 16 i 18 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) |
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Yn Atodlen 9 y diddymiadau canlynol i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru -
yn Neddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986, adran 5(1)[3];
yn Neddf Addysg 1996[4] -
yn adran 325(1), y geiriau ", and of the effect of subsection (2) below";
yn Atodlen 27, paragraff 3(4), paragraff 8(1)(b)(iii), ym mharagraff 9(1) y geiriau "amend, or" a "10 or", a pharagraff 10.
|
|
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 yng Nghymru ar 21 Ionawr 2002 er mwyn caniatáu i reoliadau sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig (AAA) gael eu gwneud cyn cychwyn gweddill darpariaethau'r Ddeddf sy'n ymwneud ag AAA.
Mae hefyd yn darparu ar gyfer dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2002 y darpariaethau eraill yn y Ddeddf sy'n ymwneud ag AAA, gan gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud ag addysgu plant ag AAA yn ysgolion y brif ffrwd, darparu cyngor a gwybodaeth i rieni plant ag AAA, a threfniadau ar gyfer datrys anghydfodau ynghylch materion sy'n ymwneud ag AAA, adnabod ac asesu anghenion addysgol arbennig a diwygio datganiadau AAA.
Notes:
[1]
2001 c.10.back
[2]
1998 p.38.back
[3]
1986 p.33.back
[4]
1996 p.56.back
English
version
ISBN
0 11090409 5
|
Prepared
23 January 2002