British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020046w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 46 (Cy.5)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002
|
Wedi'u gwneud |
14 Ionawr 2002 | |
|
Yn dod i rym |
4 Chwefror 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan nad oes neb yr oedd yn ymddangos iddo y byddai'n ddymunol ymgynghori â hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2].
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 4 Chwefror 2002.
Diwygio Rheoliadau
2.
- (1) Mae Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997[
3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle diffiniadau "NC tests" (yn y ddau le) ac "NC tasks" rhowch -
"
"NC tests" and "NC tasks" mean, respectively, National Curriculum tests and National Curriculum tasks administered to pupils in accordance with the statutory arrangements;".
(3) Yn rheoliad 3(11) hepgorwch "first".
(4) Yn rheoliad 7(2)(a)(ii) hepgorwch "grant-maintained school, a grant-maintained special school or a".
(5) Yn Atodlen 1, yn lle is-baragraff (2) o baragraff 1 rhowch -
"
The results of teacher assessment of the pupil's level in the attainment targets in English entitled 'Speaking and Listening', 'Reading' and 'Writing', and in the attainment targets in Welsh entitled 'Oral (Speaking, Viewing and Listening)', 'Reading' and 'Writing'.".
(6) Yn Atodlen 2, yn is-baragraff (2) o baragraff 1 hepgorwch y geiriau o "and by NC tests" i ddiwedd yr is-baragraff hwnnw, a hepgorwch y cyfan o is-baragraff (5) o'r paragraff hwnnw.
(7) Yn Atodlen 3, yn is-baragraff (1) o baragraff 1 yn lle "Welsh Office" rhowch "National Assembly for Wales".
(8) Yn Atodlen 3, yn is-baragraff (2) o baragraff 1 yn lle "shown (in every case) both as determined by teacher assessment and by NC tests", rhowch "as determined by teacher assessment", a hepgorwch is-baragraff (5) o'r paragraff hwnnw.
Llofndowyd ar ran Cynulliad Cenedlethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Ionawr 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 er mwyn tynnu darpariaethau sy'n ymwneud â phrofion o'r enw "standard task assessments" - gweler rheoliad 2(1) - (3), (5) - (6) ac (8). Arferai'r profion hynny gael eu rhoi i ddisgyblion 7 oed ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ond cawsant eu diddymu o 2002 ymlaen - gweler Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45 (Cy.4)). Maent hefyd yn dileu cyfeiriad at ysgolion a gynhelir â grant ac ysgolion arbennig a gynhelir â grant (nad ydynt yn bodoli mwyach) ac yn rhoi cyfeiriad at "the National Assembly for Wales" yn lle cyfeiriad at "the Welsh Office" - gweler rheoliadau 2(4) a (7).
Notes:
[1]
1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44) a chan baragraff 106 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31); ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). I gael ystyr "regulations" a "prescribed" gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1997/573, fel y'i diwygiwyd gan O.S 1997/2709, O.S. 1998/2705, O.S. 1999/1497 ac O.S. 2001/890 (Cy.41).back
[4]
1998 p.38back
English
version
ISBN
0 11090415 X
|
Prepared
8 February 2002