Wedi'u gwneud | 13 Rhagfyr 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Ionawr 2002 |
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.
(3) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod o ddyddiad a roddir, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud unrhyw beth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn wyl banc neu'n ddiwrnod sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, bernir bod y gofyniad yn ymwneud â'r dydd cyntaf ar ôl hynny nad yw'n un o'r dyddiau uchod.
Paratoi map drafft
3.
- (1) Gall map drafft sy'n cael ei baratoi gan y Cyngor ymwneud ag unrhyw ardal a benderfynnir gan y Cyngor, o ystyried ffiniau awdurdodau lleol, yr ardaloedd y mae fforymau mynediad lleol wedi'u sefydlu ar eu cyfer, ffiniau Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a lleoliad nodweddion naturiol a nodweddion daearyddol eraill, gan gynnwys mynyddoedd, afonydd a phriffyrdd.
(2) Gall sylfaen y map y mae map drafft yn cael ei dynnu arni gynnwys ardaloedd y bwriedir dangos tir adran 4(2) mewn perthynas â hwy fel tir o'r fath ar fap drafft arall ond yn yr achos hwnnw rhaid i sylfaen y map nodi'n glir ffiniau'r ardal y mae'n fap drafft ohoni.
(3) Rhaid paratoi map drafft ar raddfa nad yw'n llai na 1:10,000 neu, os nad yw'n bosibl sicrhau'r raddfa honno drwy ddefnyddio'r dechnoleg mapiau sylfaen sydd ar gael yn rhesymol i'r Cyngor, y raddfa fwyaf sy'n ymarferol drwy ddefnyddio'r dechnoleg mapiau sylfaen honno, ond os yw'n angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn dangos rhan o ffin unrhyw dir adran 4(2) yn gywir fod map drafft, neu fap mewnosod, yn cael ei baratoi ar raddfa fwy, rhaid i'r Cyngor wneud hynny naill ai drwy baratoi map drafft ar y raddfa fwy honno neu drwy gynnwys map mewnosod ar y raddfa fwy honno ar fap drafft o'r ardal gyffredinol neu drwy ei atodi iddo ac, os nad oes map mewnosod wedi'i gynnwys ar y map drafft ei hun, drwy nodi ar yr ardal perthnasol o'r map drafft y ffaith fod map mewnosod o'r ardal honno wedi'i baratoi a sut y gellir cael gafael ar y map mewnosod hwnnw.
(4) Os yw ffin darn o dir adran 4(2) yn cael ei dangos ar y map drafft o'r ardal gyffredinol ac ar fap mewnosod ar raddfa fwy a baratowyd yn unol â pharagraff (3) mae'r ffordd y mae'r ffin honno wedi'i dynodi ar y map mewnosod i'w chymryd fel y ffordd y mae wedi'i dynodi ar y map drafft.
(5) Ac eithrio os nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid paratoi map drafft, ac unrhyw fap mewnosod, ar ffurf electronig ond rhaid ei fod yn medru cael ei atgynhyrchu ar ffurf printiedig a rhaid i'r Cyngor sicrhau bod modd rhwydd o adnabod y map drafft ac unrhyw fap mewnosod sy'n ymwneud ag ef fel y cyfryw bob amser.
(6) Rhaid i fap drafft nodi ar wahân y darnau hynny o dir adran 4(2) sy'n cynnwys tir agored, a'r rhai sy'n cynnwys tir comin cofrestredig, a gall nodi unrhyw nodweddion perthnasol eraill, drwy ddefnyddio unrhyw liwiau, cysgodiad, llinellau a symbolau gwahanol y gwêl y Cyngor yn dda ond rhaid i bob map drafft ac unrhyw gopïau o fapiau drafft a gynhyrchir o dan baragraff (7) ddangos pob dosbarth felly ar dir adran 4(2) a phob nodwedd arall o'r fath drwy ddefnyddio'r lliwiau, y cysgodiad, y llinellau neu'r symbolau cyfatebol eraill yn ôl fel y digwydd.
(7) At ddibenion cyflawni ei ddyletswydd i ddyroddi map drafft o dan adran 5(a) o'r Ddeddf, neu at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig â hynny, gall y Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi copïau o'r map drafft ar unrhyw ffurf, gan gynnwys ffurff electronig, y mae'n penderfynu arni a bernir bod unrhyw gopi o'r fath a gyhoeddir gan y Cyngor neu gyda'i awdurdod yn union yr un fath â'r map drafft oni ddangosir i'r gwrthwyneb.
(8) Rhaid i'r Cyngor, er mwyn darlunio bodolaeth a maint y tir adran 4(2) a ddangosir ar un neu ragor o fapiau drafft, ac er mwyn trefnu bod copïau archwilio o'r map drafft ar gael yn unol â rheoliad 4(1)(a) a 4(1)(b), neu er mwyn cydymffurfio â chais o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(dd), gynhyrchu a chyhoeddi copïau o fapiau drafft sy'n dangos y tir adran 4(2) hwnnw, a gallant fod ar raddfa sy'n llai nag 1:10,000 ond heb fod yn llai nag 1:25,000.
(9) Rhaid i gopïau o fapiau drafft a gynhyrchir o dan baragraff (8):
(10) Er mwyn sicrhau bod yr holl mapiau drafft y mae'n eu paratoi mor gywir â phosibl, rhaid i'r Cyngor ddefnyddio unrhyw ddata perthnasol sydd ar gael yn rhesymol iddo.
Dyroddi mapiau drafft
4.
- (1) Cymerir bod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswydd i ddyroddi map drafft yn unol ag adran 5(a) o'r Ddeddf:
(2) Rhaid i hysbysiad sy'n cydymffurfio â gofynion y paragraff hwn:
(3) Gall unrhyw hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (1)(c) neu sy'n cael ei anfon yn unol â pharagraff (1)(ch), yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys o dan baragraff (2), gynnwys unrhyw wybodaeth bellach y gwêl y Cyngor yn dda.
Dyletswydd gyffredinol i roi gwybod i'r cyhoedd am ddarpariaethau mapiau drafft
5.
- (1) Rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw gamau sy'n rhesymol er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am ddarpariaethau mapiau drafft a rhoi'r camau hynny ar waith a rhaid iddo ystyried yn benodol a yw'n ddymunol:
(2) Ni fydd y ddyletswydd sy'n cael ei gosod o dan baragraff (1) yn rhagfarnu dyletswyddau'r Cyngor o dan reoliad 4 ond ni fydd unrhyw fethiant ar ran y Cyngor i gyflawni'r ddyletswydd sy'n cael ei gosod gan baragraff (1) mewn perthynas â map drafft yn annilysu dyroddi'r map drafft hwnnw gan y Cyngor neu unrhyw gamau eraill y mae'n ofynnol i'r Cyngor eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn.
Ystyried sylwadau sy'n ymwneud â mapiau drafft
6.
- (1) Rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw sylw sy'n dod i'w law o fewn y cyfnod ymgynghori mewn perthynas â dangos, neu fethu â dangos, unrhyw ddarn o dir fel tir agored neu dir comin cofrestredig ar fap drafft os yw'r sylw yn cydymffurfio â gofynion paragraff (2).
(2) Mae sylw yn cydymffurfio â gofynion y paragraff hwn yw: -
(3) Heb ragfarnu paragraff (4), gall y Cyngor, os yw'n cael unrhyw sylw nad yw'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) am ei fod wedi hepgor gwybodaeth benodol, ofyn i'r person a gyflwynodd y sylw ddarparu unrhyw wybodaeth a hepgorwyd o fewn unrhyw gyfnod pellach y mae'r Cyngor yn ei ganiatáu a rhaid i'r Cyngor, os yw'r wybodaeth honno yn cael ei darparu o fewn y cyfnod hwnnw, ystyried y sylw hwnnw.
(4) Os yw sylw yn methu â chynnwys digon o fanylion am y tir y mae'n ymwneud ag ef i'w gwneud yn bosibl adnabod y tir hwnnw mae'r wybodaeth y gall y Cyngor ofyn amdani o dan baragraff (3) gynnwys map neu blan y mae ffiniau'r tir o dan sylw wedi'u marcio arno.
(5) Gall y Cyngor, yn ôl ei ddoethineb, ystyried unrhyw sylw nad yw'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) neu gyda chais am wybadeth a wnaed o dan baragraff (3), a gall ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill ag y gwêl yn dda.
Cadarnhau map drafft
7.
- (1) Gall y Cyngor, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau y mae'n ofynnol iddo eu hystyried o dan ddarpariaethau rheoliad 6(1) neu (2) ynghyd ag unrhyw sylwadau pellach y mae'n penderfynu eu hystyried, yn ôl ei ddoethineb, o dan reoliad 6(4), gadarnhau'r map drafft gydag addasiadau neu hebddynt.
(2) Os yw'r Cyngor yn cadarnhau'r map drafft heb addasiadau rhaid iddo nodi'r ffaith ar y map drafft ac ar unrhyw gopi o'r map drafft sy'n cael ei wneud ar ôl y cadarnhad hwnnw.
(3) Os yw'r Cyngor yn cadarnhau'r map drafft gydag addasiadau rhaid iddo:
(4) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at gadarnhau map yn gyfeiriadau at ei gadarnhau yn unol ag adran 5(c) o'r Ddeddf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Rhagfyr 2001
Prepared
22 January 2002