British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013907w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 3907 (Cy.320)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001
|
Wedi'i wneud |
4 Rhagfyr 2001 | |
|
Yn dod i rym |
31 Rhagfyr 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 24(3) a 30(1) o Ddeddf Addysg 1997[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2].
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2001.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "ACCAC" ("ACCAC") yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru[3]; ac
ystyr "Deddf 1997" ("the 1997 Act") yw Deddf Addysg 1997.
Rhoi swyddogaeth
3.
- (1) Mewn perthynas â chymwysterau o'r fath a bennir ym mharagraff (2) isod, rhoir y swyddogaeth o fewn paragraff (gg) o adran 24(2) o Ddeddf 1997 i ACCAC.
(2) Y cymwysterau hynny yw pob cymhwyster allanol ar wahân i Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol.
(3) Mae'r swyddogaeth a roddir gan yr erthygl hon yn cael ei rhoi i fod yn arferadwy gan ACCAC yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Rhagfyr 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi i Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru ("ACCAC") y swyddogaeth, sydd i'w harfer gan ACCAC yn unig, o wneud trefniadau ar gyfer datblygu, gosod a gweinyddu profion sydd i'w sefyll gyda golwg ar ennill pob cymhwyster allanol (ac eithrio Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol).
Notes:
[1]
1997 p.44. Mewnosodwyd paragraff newydd (gg) yn is-adran (2) o adran 24 o'r Ddeddf honno gan is-adran (2) o adran 103 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) a diwygiwyd adran 30(2) o Ddeddf 1997 gan adran 103(3) o Ddeddf 2000 i gynnwys cyfeiriad at yr adran 24(2)(gg) newydd yn Neddf 1997.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 150 o Dddeddf Dysgu a Medrau 2000.back
[3]
Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090391 9
|
Prepared
27 December 2001