British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013811w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 3811 (Cy.316)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
CYLLID
Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001
|
Wedi'u gwneud |
29 Tachwedd 2001 | |
|
Yn dod i rym |
30 Tachwedd 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 74(2) a (3) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[
1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2001.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "y Cynghorau Cyfansoddol" ("the Constituent Councils") yw Cyngor Sir Abertawe, Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a;
ystyr "y Gorchymyn" ("the Order") yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 [2];
ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cyrff Ardolli (Cyffredinol) 1992 [3];
ystyr "y Pwyllgor" ("the Committee") yw Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 [4]; ac
ystyr "Rhondda Cynon Taf" ("Rhondda Cynon Taff") yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Tâf.
Cymhwyso
3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r Pwyllgor, i'r Cynghorau Cyfansoddol ac i Rondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol yn cychwyn ar 1 Ebrill 2001.
Ardollau a amnewidiwyd
4.
- (1) Er gwaethaf rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau, awdurdodir y Pwyllgor gan y Rheoliadau hyn i gyflwyno:
(a) ardollau wedi'u hamnewid (yr ardollau newydd) i'r Cynghorau Cyfansoddol i gymryd lle'r ardollau hynny a gyflwynwyd ganddo ar 8 Chwefror 2001 (yr hen ardollau); a
(b) ardoll wedi'i hamnewid am ddim punnoedd i Rhondda Cynon Taf i gymryd lle'r ardoll a gyflwynwyd ar 8 Chwefror 2001;
erbyn 14 Chwefror 2002 fan bellaf i alluogi'r Pwyllgor, y Cynghorau Cyfansoddol a Rhondda Cynon Taf i gydymffurfio â'r Gorchymyn.
(2) Os bydd y Pwyllgor yn cyflwyno ardollau newydd yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid i unrhyw symiau a dalwyd iddo mewn perthynas â'r hen ardollau gael eu trin fel petaent wedi'u talu mewn perthynas â'r ardollau newydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Tachwedd 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y p
er i wneud Rheoliadau mewn perthynas â chyrff ardolli sydd yn cynnwys y Pwyllgor ar gyfer Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 74 a 143 o Ddeddf 1988.
Tynnodd Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 (O.S. Rhif 2001/1338 (Cy.84)) (y Gorchymyn) Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o'r Pwyllgor hwnnw ar 31 Mawrth 2001. Roedd y Pwyllgor ar y dyddiad hwnnw eisioes wedi cyflwyno ardollau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2001-2002.
Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gyflwyno ardollau a amnewidiwyd i'w Gynghorau Cyfansoddol ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol honno. Fe fydd yr ardollau newydd hyn yn cymeryd lle'r rhai a gyflwynwyd yn gynharach. Yn achos Rhondda Cynon Taf, fe fydd yr ardoll a amnewidiwyd yn ddim tra bydd y ffigurau ar gyfer y cynghorau eraill yn cael eu haddasu'n unol â'r Gorchymyn.
Notes:
[1]
1988 p.41. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladaol o dan adrannau 74 a 143 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosgwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[2]
O.S. 2001/1338 (Cy. 84).back
[3]
O.S. 1992/2903.back
[4]
1966 p.38.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090377 3
|
Prepared
5 December 2001