British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013807w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 3807 (Cy.315) (C.124)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
28 Tachwedd 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[
1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "Deddf 1948" ("the 1948 Act") yw Deddf Cymorth Gwladol 1948[2];
ystyr "Deddf 2001" ("the 2001 Act") yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001; ac
mae i "y gyfradd safonol" yr un ystyr â "the standard rate" yn adran 22(2) o Ddeddf 1948 [3].
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 49 o Ddeddf 2001
2.
- (1) 3 Rhagfyr 2001 yw'r diwrnod sydd wedi'i benodi i adran 49 o Ddeddf 2001 ddod i rym i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw berson -
(a) sy'n cael llety gan awdurdod lleol o dan adran 21(1)[4] o Ddeddf 1948 (dyletswyddau awdurdodau lleol i ddarparu llety), a
(b) a fyddai, pe bai'r awdurdod hefyd yn darparu'r gofal nyrsio mewn cysylltiad â'r llety hwnnw, yn gorfod gwneud taliadau o dan adran 22[5] (taliadau sydd i'w talu am lety) neu adran 26[6] o Ddeddf 1948 naill ai ar y gyfradd safonol neu ar gyfradd is nad yw'n llai na'r gyfradd safonol llai £100.
(2) Er y gall person beidio â bod yn bodloni is-baragraff (b) o baragraff (1) uchod, bydd adran 49 o Ddeddf 2001 yn dal yn gymwys i'r person hwnnw.
Diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 50 o Ddeddf 2001
3.
19 Rhagfyr 2001 yw'r diwrnod penodedig i is-adrannau (2) i (10) o adran 50 o Ddeddf 2001 ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [7])
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Tachwedd 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 3 Rhagfyr 2001 fel y diwrnod y daw adran 49 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ("Deddf 2001") i rym a'r 19 Rhagfyr 2001 fel y diwrnod y daw is-adrannau (2) i (10) o adran 50 o Ddeddf 2001 i rym mewn perthynas â Chymru.
Mae adran 49 o Ddeddf 2001 yn tynnu gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig o blith y gwasanaethau a all gael eu darparu gan awdurdodau lleol yn unol â deddfiadau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal cymunedol. Diffiniad adran 49(2) o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig yw unrhyw wasanaethau a ddarperir gan nyrs gofrestredig sy'n golygu darparu gofal neu gynllunio, goruchwylio neu ddirprwyo gwaith i ddarparu gofal. Nid yw'r diffiniad yn cynnwys unrhyw wasanaethau nad oes angen iddynt gael eu darparu gan nyrs gofrestredig, o roi sylw i'w natur ac i amgylchiadau eu darparu.
Mae erthygl 2(1) yn dwyn adran 49 i rym yng Nghymru mewn perthynas â phersonau sy'n cael llety o dan adran 21 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ("Deddf 1948") a lle ceir amgylchiadau penodol. Gyda rhai eithriadau, gall llety felly gael ei ddarparu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd, y mae arnynt angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, oherwydd eu hoedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill. Gall llety felly gael ei ddarparu hefyd ar gyfer mamau sy'n disgwyl a mamau sy'n magu babi y mae arnynt angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall.
Yr amgylchiadau penodol y mae erthygl 2(1) yn gymwys iddynt yw lle byddai personau o'r fath yn gorfod gwneud taliadau am eu llety ac am y gofal nyrsio mewn cysylltiad â'r llety hwnnw (o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf 1948) ar y gyfradd safonol neu ar gyfradd is nad yw'n llai na'r gyfradd safonol llai £100.
Mae erthygl 2(2) yn darparu bod adran 49 yn dal yn gymwys i berson hyd yn oed os bydd yn peidio â bodloni erthygl 2(1)(b).
Mae erthygl 3 yn dwyn is - adrannau (2) i (10) o adran 50 i rym yng Nghymru. Effaith is-adran (1) sy'n cael ei chychwyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol o 8 Ebrill 2002 ymlaen, yw dirwyn i ben effaith adran 26A o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Mae adran 26A yn atal cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru (a chynghorau perthnasol yn Lloegr) rhag darparu llety preswyl ar gyfer personau a oedd mewn llety o'r fath ar 31 Mawrth 1993. Mae effaith y ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer yr Alban hefyd yn dirwyn i ben o 8 Ebrill 2002 ymlaen.
Mae is-adran (2) o adran 50 yn darparu mai person y mae adran 26A o Ddeddf 1948 (neu'r ddarpariaeth gyfatebol yn yr Alban) yn gymwys iddo yn union cyn y diwrnod daw is-adran (1) i rym ("y diwrnod penodedig") yw "person cymwys" at ddibenion yr adran honno. Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol sicrhau gwasanaethau gofal cymunedol i bersonau cymwys o'r diwrnod penodedig ymlaen neu cyn gynted wedyn ag y bydd yn rhesymol ymarferol. Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol nodi ac asesu personau cymwys yn eu hardal. Os oes gwasanaethau gofal cymunedol yn cael eu darparu o dan is-adran (3), mae is-adran (5) yn darparu y bydd trefniadau preifat person gyda'r cartref preswyl o dan sylw yn dod i ben. Mae is-adran (6) yn darparu y bydd rhaid i'r awdurdod lleol perthnasol wneud taliadau os nad oes asesiad wedi'i wneud erbyn y diwrnod penodedig. Mae is-adran (7) yn caniatáu adennill unrhyw daliadau a wneir o dan is-adran (6) a ragnodir drwy gyfrwng rheoliadau. Mae is-adran (8) yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud fel nad yw adran 50 yn gymwys i bersonau o ddisgrifiadau a ragnodir yn y rheoliadau hynny. Mae is-adran (9) yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud ynghylch ystyr "ordinary residence" at ddibenion yr adran ac ynghylch rhagnodi symiau sy'n daladwy o dan is-adran (7). Mae is-adran (10) yn darparu diffiniadau at ddibenion yr adran.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf i'w wneud mewn perthynas â Chymru o dan Ddeddf 2001. Mae amryw byd o ddarpariaethau yn Neddf 2001 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117) ac O.S. 2001/3752(C.122).
Notes:
[1]
2001 p.15.back
[2]
1948 p.29.back
[3]
Diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 44(3).back
[4]
Diwygiwyd adran 21(1) gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) adran 195(6), Atodlen 23, paragraff 2(1); Deddf Tai (Personau Digartref) 1977 (p.48), adran 20(4); Deddf Plant 1989 (p.41), adran 108(5), Atodlen 13, paragraff 11, a Deddf 1990, adran 42(1).back
[5]
Diwygiwyd adran 22(3) gan Ddeddf 1990, adran 44(4).back
[6]
Diwygiwyd adran 26(3) gan Ddeddf 1990, adran 42(4).back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090376 5
|
Prepared
5 December 2001