British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013708w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 3708 (Cy.304)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
15 Tachwedd 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ionawr 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(7) a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[
1] ac adrannau 544 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[
2] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad[
3].
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2002.
(2) Maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
2.
Diwygir Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989[
4]) fel a ganlyn -
(a) yn rheoliad 4(1)(a) yn lle'r geiriau ", a special school not so maintained or a grant-maintained school" rhowch y geiriau "or a special school not so maintained"; a
(b) diddymir rheoliad 8.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989 ("Rheoliadau 1989") mewn perthynas â Chymru.
Diwygir
Rheoliad 4 o Reoliadau 1989 er mwyn tynnu'r cyfeiriad at ysgol a gynhelir â grant (sef categori o ysgol nad yw'n bod mwyach).
Diddymir
Rheoliad 8 fel nad oes gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mwyach gymeradwyo darparu tir ac adeiladau newydd sy'n golygu gwaith adeiladu neu newidiadau i dir ac adeiladau presennol mewn ysgol, sefydliad addysg bellach neu uwch neu hostel ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.
Mae'r diddymiad yn tynnu'r angen am gymeradwyaeth o dan y Rheoliadau yn unig ac nid yr angen am unrhyw gymeradwyaeth neu gydsyniad arall o dan unrhyw ddeddfiad arall.
Gwnaed diwygiadau tebyg ar gyfer Lloegr gan Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Lloegr) 2001 (O.S. 2001/692).
Notes:
[1]
1988 p.40. Diwygiwyd adran 218(7) gan Ddeddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 38, Rhan I. Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14(4) o Ddeddf Addysg 1994 (p.30).back
[2]
1996 p. 56; diwygiwyd adran 544 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), Atodlen 30, paragraff 160. I gael y diffiniad o "regulations" gweler adran 579(1).back
[3]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[4]
(ch) O.S. 1989/351, fel y'i diwygiwyd mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2001/692. Mae'r Rheoliadau yn parhau i fod yn effeithiol (mewn perthynas â Chymru) yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 39 i Ddeddf Addysg 1996.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090375 7
|
Prepared
3 December 2001