British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013540w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 3540 (Cy.287)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
29 Hydref 2001 | |
|
Yn dod i rym |
15 Tachwedd 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 87 a 106(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
1]:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymru) 2001 a daw i rym ar 15 Tachwedd 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "Deddf 1972" ("the 1972 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1972[2].
Gohirio etholiadau cyffredin
2.
- (1) Yn adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr prif gynghorau), yn lle "1995" ym mhob lle rhowch "2004".
(2) Yn adran 35 o Ddeddf 1972 (cynghorwyr cymuned), yn lle "1995" rhowch "2004".
(3) Mae tymor swydd y cynghorwyr presennol o dan adran 26(2) neu adran 35(2) yn cael ei estyn felly â blwyddyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
Jane E. Hutt
Ysgrifennydd Cynulliad
29 Hydref 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
O dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth sy'n newid ym mha flwyddyn y mae etholiadau cyffredin cynghorwyr unrhyw awdurdod lleol penodedig i gael eu cynnal (heb newid y cynllun sydd eisoes yn bodoli ar gyfer ethol y cynghorwyr hynny).
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer addasu adran 26(1) (Etholiadau Cynghorwyr) ac adran 35(2) (Cynghorwyr Cymuned) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 er mwyn gohirio etholiadau cynghorwyr i bob cyngor sir, pob cyngor bwrdeistref sirol a phob cyngor cymuned yng Nghymru am flwyddyn. Caiff yr etholiadau eu cynnal yn 2004 a phob pedair blynedd wedyn. Mae tymor swydd y cynghorwyr presennol yn cael ei estyn felly â blwyddyn.
Notes:
[1]
2000 p.22.back
[2]
1972 p.70.back
[3]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11090362 5
|
Prepared
13 November 2001