British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) (Ffioedd) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013511w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 3511 (Cy.282)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) (Ffioedd) 2001
|
Wedi'u gwneud |
29 Hydref 2001 | |
|
Yn dod i rym |
30 Hydref 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob p
![](/wales/legis/num_reg/2001/images/wcirc.gif)
er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dod i ben
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) (Ffioedd) 2001; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 30 Hydref 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys tan ganol nos ar 31 Rhagfyr 2001.
Ffioedd
2.
Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, godi ffi resymol mewn perthynas â chostau a dynnir yn rhesymol ganddo neu ganddi neu ar ei ran ef neu ar ei rhan hi ar ddeiliad unrhyw safle (gan gynnwys daliad) lle gwneir gwaith goruchwylio neu arolygu er mwyn penderfynu bod cynhyrchion yn gymwys i'w hanfon o dan Reoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) 2001[
3].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]
Jane E. Hutt
Ysgrifennydd Cynulliad
29 Hydref 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd godi ffi resymol am waith goruchwylio neu arolygu a wneir er mwyn i gynhyrchion gael eu hanfon o dan Reoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) 2001 (O.S. 2001/3459 (Cy.279)).
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972 p. 68.back
[3]
O.S. 2001/3459 (Cy.279).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090361 7
|
Prepared
12 November 2001