British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012917w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2917
PARTNERIAETH
PARTNERIAETHAU ATEBOLRWYDD CYFYNGEDIG
Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001
|
Gwnaed |
13th Awst 2001 | |
|
Gwnaed |
17th Medi 2001 | |
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, o ymarfer â'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 225, 363, 652A a 652D o Ddeddf Cwmnïau 1985[
1], fel y'i hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr laith Gymraeg 1993[
2], ynghyd â phob p
![](/wales/legis/num_reg/2001/images/wcirc.gif)
er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.
- (1) Gellir dyfynnu'r rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001, a deuant i rym ar 17th Medi 2001.
(2) Yn y rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at adran neu adran rifog yn cyfeirio at adran o Ddeddf Cwmnïau 1985 fel y'i cymhwysir at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliadau 3 a 4 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001[
3].
2.
Mae ffurflenni LLP 225 cym (Newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig), LLP 363 cym (Ffurflen flynyddol Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig, LLP 652a cym (Cair am ddileu enw Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig o'r gofrestr) ac LLP 652c cym (Tynnu'n ôl gais am ddileu enw Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig o'r gofrestr yn wirfoddol), a welir yn yr Atodlen, gyda'r amrywiadau hynny y bydd amgylchiadau'n peri bod eu hangen, yn ffurflenni ychwanegol sydd wedi eu pennu at ddibenion adrannau 225, 363, 652A a 652D o Ddeddf Cwmnïau 1985 i'w defnyddio gan bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig y dywed ei dogfen gorffori fod ei swyddfa gofrestredig i'w lleoli yng Nghymru.
3.
Y manylion neu'r wybodaeth a gynhwysir yn ffurflen LLP 652a cym yw'r manylion neu'r wybodaeth a bennir at ddibenion adran 652A o Ddeddf Cwmnïau 1985.
J. S. Holden,
ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Adran Masnach a Diwydiant
13th Awst 2001
ATODLEN
Form 04/01 - 1 of 9
Form 04/01 - 2 of 9
Form 04/01 - 3 of 9
Form 04/01 - 4 of 9
Form 04/01 - 5 of 9
Form 04/01 - 6 of 9
Form 04/01 - 7 of 9
Form 04/01 - 8 of 9
Form 04/01 - 9 of 9
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ffurflenni newydd LLP225 cym, LLP363 cym, LLP652a cym ac LLP652c cym. Mae'r ffurflenni hyn yn cyfateb i ffurflenni LLP225, LLP363, LLP652a ac LLP652c a bennwyd gan Reoliadau (Ffurflenni) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001 (O.S. 2001/927), ac mae'r ffurflenni newydd wedi cael eu pennu'n ychwanegol at y ffurflenni olaf a enwyd. Mae'r ffurflenni yn Gymraeg ac yn Saesneg, a deuant i rym ar 17th Medi 2001. Caiff unrhyw un o'r ffurflenni eirhoi gan y Cofrestrydd Cwmnïau i unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd â dogfen gorffori yn nodi bod ei swyddfa gofrestredig i'w lleoli yng Nghymru ac sy'n hysbysu'r Cofrestrydd ei bod am dderbyn ffurflen Gymraeg yn lle ffurflenni LLP225, LLP363, LLP652a ac LLP652c.
Notes:
[1]
1985 c. 6.back
[2]
1993 c. 38.back
[3]
O.S. 2001/1090.back
English version
ISBN
0 11 515485 X
|
Prepared
28 August 2001