British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012679w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2679 (Cy. 220)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
17 Gorffennaf 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2001 | |
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[
1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Awst 2001 a byddant yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995[3].
Diwygio'r prif Reoliadau
3.
- (1) Caiff y prif Reoliadau eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraff (2) isod.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 95/31/EC" ychwanegir y geiriau ", and by Directive 2000/51/EC insofar as it relates to E965 (ii) syrup maltitol "[4] ar y diwedd.
Diwygiad canlyniadol
4.
- (1) I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth a bennir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) 1999[5] yn gymwys i Gymru, bydd effaith paragraff 3(1) o'r rheoliad hwnnw yn peidio mewn perthynas â'r ddarpariaeth honno.
(2) Yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at y prif Reoliadau fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y maent wedi'u diwygio hyd at a chan gynnwys y diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn.
(3) Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (2) uchod yn cyfeirio atynt -
(a) diffiniad "permitted sweetener" yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1991[6];
(b) diffiniad "additive" yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984[7];
(c) diffiniad "sweetener" yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992[8];
(ch) diffiniad "sweetener" yn rheoliad 2(1) (dehnogli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[9]; a
(d) Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[10] -
(i) paragraff (1) o reoliad 34 (bwydydd sy'n cynnwys melysyddion, siwgr ychwanegol a melysyddion, aspartame neu bolyolau); a
(ii) yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol) Rhan I (cyffredinol), yr amod yng ngholofn 2 gyferbyn â'r disgrifiad "ice cream" yng ngholofn 1.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Gorffennaf 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123), a hynny drwy ddiweddaru cyfeiriad at Gyfarwyddeb 95/31/EC ynghylch meini prawf purdeb penodol er mwyn ymdrin â diwygiad i'r cyfeiriad a wnaed gan Gyfarwyddeb 2000/51/EC i'r graddau yr amnewidiodd y Gyfarwyddeb honno fanylebau newydd ar gyfer syrop maltitol a thrwy ddiweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill.
Notes:
[1]
1990 p.16.back
[2]
Cafodd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1995/3123: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1996/1477, 1997/814 a 1999/982.back
[4]
Y cyfeiriad ar gyfer Cyfarwyddeb 2000/51/EC yw OJ Rhif L198, 4.8.2000, t.41.back
[5]
OS 1999 /982.back
[6]
OS 1981/1063: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1983/1211 a 1995/3123.back
[7]
OS 1984/1566: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1995/3123, 1995/3124 a 1995/3187.back
[8]
OS 1992/1978, yr offeryn diwygio perthnasol yw OS 1995/3123.back
[9]
OS 1995/3187, y ceir diwygiad iddo nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[10]
OS 1996/1499 y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[11]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090300 5
|
Prepared
6 August 2001