British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 9) (Diwygio) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012628w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2628 (Cy. 217 )
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 9) (Diwygio) 2001
|
Wedi'u gwneud |
19 Gorffennaf 2001 | |
|
Yn dod i rym |
20 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 9) (Diwygio) 2001; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 20 Gorffennaf 2001.
Diwygiad i Reoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 9) 2001
2.
Mae rheoliad 1(2) o Reoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 9) 2001[
3] yn cael ei ddiwygio drwy roi'r geiriau "30th September 2001" yn lle'r geiriau "20th July 2001".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedaethol Cymru
19 Gorffennaf 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi Penderfyniad y Comisiwn 2001/547/EC ar waith gan ddiwygio Penderfyniad 2001/356/EC ynghylch mesurau diogelu penodol mewn perthynas â chlwy'r traed a'r genau yn y Deyrnas Unedig, a hynny am y chweched tro (OJ Rhif L 195, 19.7.2001, t.61). Mae'r Rheoliadau'n gymwys i Gymru yn unig. Maent yn estyn y dyddiad y daw Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 9) 2001 i ben o 20 Gorffennaf tan 30 Medi.
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 2001/2529 (Cy.207).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090290 4
|
Prepared
30 July 2001