British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012550w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2550 (Cy.215)
YR IAITH GYMRAEG
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001
|
Wedi'i wneud |
12 Gorffennaf 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2001 | |
Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;
Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[
1], a phob p
![](/wales/legis/num_reg/2001/images/wcirc.gif)
er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 a daw i rym ar 1 Awst 2001.
Pennu Cyrff Cyhoeddus
2.
Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Gorffennaf 2001
YR ATODLEN
ENW CYMRAEG NEU GYFIEITHIAD O'R ENW
Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol
Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd Addysg Uwch
Awdurdod Cwynion yr Heddlu
Yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol
Yr Awdurdod Radio
Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr
Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol
Y Bwrdd Marchnata Gwlân
Byrddau Prawf Lleol yng Nghymru
Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol
Y Comisiwn Gwella Iechyd
Y Comisiwn Hawliau Anabledd
Y Comisiwn Safonau Darlledu
Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol
Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr
Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
Y Cyngor Ffilm
Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol
Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol
Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau
Panel Asesu Rhenti i Gymru
Syniad
UFI Cyf.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ("y Ddeddf") gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.
Mae dau Orchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (1996/1898); a
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (1999/1100).
Notes:
[1]
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. (O.S. 1999/672).back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090297 1
|
Prepared
6 August 2001