Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012536w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2536 (Cy.211)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
10 Gorffennaf 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 50 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986[
1], ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
mae i "addysg bellach" yr ystyr a roddir i "further education" gan adran 2 o Ddeddf Addysg 1996[3];
ystyr "athro neu athrawes gymwysedig" ("qualified teacher") yw person sydd -
(a) yn athro neu athrawes gymwysedig yn unol â darpariaeth a wnaed gan neu o dan reoliadau a wnaed ar gyfer naill ai Cymru neu Loegr o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[4]; neu
(b) yn athro neu athrawes gymwysedig yn ôl penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol neu benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed felly;
ystyr "cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach" ("post-graduate FE teacher training course") yw cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol i athrawon sydd -
(a) yn cael ei ddarparu mewn sefydliad achrededig yng Nghymru; a
(b) wedi'i ddylunio'n benodol i baratoi personau sy'n dilyn y cwrs i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "sefydliad achrededig" ("accredited institution") yw sefydliad sydd wedi'i achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ddarparydd cyrsiau sy'n bodloni unrhyw ddarpariaethau ynghylch cwricwla a meini prawf eraill a bennir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol[5].
Cymhellion i bersonau ddilyn hyfforddiant athrawon addysg bellach
3.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau o dan y rheoliad hwn yn gymhellion i bersonau cymwys ddilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach.
(2) Mae'r p er i dalu grant i berson cymwys os yw'r person hwnnw -
(a) wedi cwblhau cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus mewn sefydliad yn Lloegr sydd wedi'i ddylunio'n benodol i baratoi personau sy'n dilyn y cwrs i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach;
(b) wedi cael swm llawn unrhyw randaliadau grant a oedd yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod pryd yr oedd yn dilyn y cwrs o dan unrhyw drefniadau a oedd yn gymwys yn Lloegr y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni eu bod yn cyfateb i'r trefniadau a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn; ac
(c) wedi ymgymryd â swydd addysgu mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach ac sydd wedi'i leoli yng Nghymru.
(3) Ym mharagraffau (1) a (2), ystyr "cymwys" yw cymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[6].
Amodau
4.
- (1) Rhaid peidio â thalu unrhyw daliad o dan reoliad 3 i berson -
(a) sydd wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon cyn 1 Medi 2001 o fath sydd wedi'i ddylunio'n benodol i alluogi personau sy'n dilyn y cwrs i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach;
(b) sydd wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon cyn 1 Medi 2001 o fath sy'n arwain person sy'n ei gwblhau'n llwyddiannus i ddod yn athro neu athrawes gymwysedig; neu
(c) sy'n dilyn (ond nad yw wedi cwblhau) cwrs o fath y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b) a ddechreuodd cyn 1 Medi 2001.
(2) Rhaid peidio â thalu unrhyw grant o dan reoliad 3 i berson oni bai ei fod wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw bryd a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol a chan gynnwys unrhyw fanylion a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid peidio â chymryd bod dim yn y rheoliad hwn yn cyfyngu p er y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu meini prawf cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3.
Amodau Pellach
5.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion y bydd grant a delir yn unol â rheoliad 3 yn ad-daladwy odanynt.
(2) Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gellir gosod gofyniad o dan baragraff (1) -
(a) os yw'n ofyniad sydd â'r nod o sicrhau bod diben rhoi'r grant yn cael ei gyflawni;
(b) os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu'r grant os yw'r derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad grant, yn methu â bodloni unrhyw un o'r meini prawf cymhwyster a fabwysiedir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu
(c) os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu grant os yw'r derbynnydd wedi rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu yn sylweddol gamarweiniol yn ei gais am grant neu mewn perthynas ag ef.
Swm y grant a thaliadau grant
6.
- (1) Rhaid i grantiau o dan reoliad 3 beidio â bod yn fwy nag unrhyw symiau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Gellir penderfynu ar wahanol symiau o dan baragraff (1) ar gyfer gwahanol achosion ac amgylchiadau.
(3) Yn achos grant sy'n daladwy i berson yn rhinwedd rheoliad 3(2), rhaid i'r cyfanswm sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol beidio â bod yn fwy na'r gwahaniaeth rhwng swm y grant y mae wedi'i gael oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y trefniadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr a'r swm y penderfynir arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) uchod fel yr uchafswm sy'n daladwy i berson sydd -
(a) yn cwblhau yn llwyddiannus, mewn sefydliad achrededig, gwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach o'r un disgrifiad â'r cwrs yn y sefydliad yn Lloegr;
(b) yn bodloni'r holl amodau perthnasol a geir yn y Rheoliadau hyn; ac
(c) yn bodloni unrhyw feini prawf perthnasol ar gyfer cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3 a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Gall grantiau o dan reoliad 3 gael eu talu mewn cyfandaliad neu mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn benodol fod rhandaliadau yn daladwy ar ddyddiadau ar ôl i'r person ymgymryd â swydd addysgu mewn sefydliad neu mewn man arall yng Nghymru sy'n darparu addysg bellach.
(5) Yn achos unrhyw grant sy'n daladwy tra bydd person yn dilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi arian i sefydliad achrededig i'w dalu i'r person hwnnw ar unrhyw adegau a gyfarwyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
John Marek
Dirpwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Gorffennaf 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan y Rheoliadau hyn caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau fel cymhellion i annog mwy o bobl i ddilyn cyrsiau ôl-raddedig o hyfforddiant sy'n seiliedig mewn colegau ac sydd wedi'u dylunio'n unswydd i'w paratoi i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliadau addysg bellach neu mewn mannau eraill.
O dan y Rheoliadau, caiff y Cynulliad Cenedlalaethol dalu'r grant i gyd tra bod y derbynnydd yn dilyn yr hyfforddiant neu, ar y llaw arall, dalu rhan o'r grant tra bod y derbynnydd yn dilyn yr hyfforddiant a thalu rhan ar ôl iddo neu iddi gwblhau'r hyfforddiant ac ymgymryd â swydd addysgu. Yn yr achos olaf, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, mewn achos person sy'n cael rhandaliadau grant mewn perthynas â chwrs mewn sefydliad yn Lloegr y mae grantiau tebyg yn daladwy ar ei gyfer o dan drefniadau cyfochrog, dalu unrhyw randaliadau sy'n weddill y byddai gan y person hwnnw hawl iddynt o dan y Rheoliadau hyn pe bai wedi cwblhau cwrs yng Nghymru y byddai grant wedi'i dalu ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn.
Mae
Rheoliad 2 yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.
Mae
Rheoliad 3 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i dalu grantiau fel cymhellion i bersonau sy'n gymwys ar gyfer cymorth i fyfyrwyr i ddilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon o'r math y cyfeirir atynt uchod.
Mae
Rheoliad 4 yn nodi nifer o achosion lle na ellir talu grantiau o dan Reoliad 3, ond yn darparu nad yw hyn yn cyfyngu ar b
er y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu meini prawf cymhwyster ar gyfer grantiau o'r fath.
Mae
Rheoliad 5 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu grant o dan Reoliad 3 ar yr amod ei bod yn ofynnol ei ad-dalu o dan amgylchiadau penodedig.
Mae
Rheoliad 6 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu swm y grant, y gellir ei dalu naill ai mewn cyfandaliad neu mewn rhandaliadau (y gellir gohirio rhai ohonynt hyd nes bod y person wedi cwblhau'r cwrs ac wedi ymgymryd â swydd addysgu). Mae hefyd yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfeirio taliadau'r grant drwy'r sefydliad sydd o dan sylw.
Notes:
[1]
1986 p.61. Diwygiwyd adran 63(3) gan baragraff 107(a) o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 (p.35).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1996 p.56.back
[4]
1988 p.40. Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)) a Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166) yw'r Rheoliadau cyfredol.back
[5]
Gellir cael rhestr o'r sefydliadau achrededig cyfredol oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn Linden Court, The Orchards, Ty Glas Avenue, Llanisien, Caerdydd, CF4 5DZ.back
[6]
1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001 (O.S. 2001/951) yw'r Rheoliadau cyfredol.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090331 5
|
Prepared
3 September 2001