British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012504w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2504 (Cy.205) (C.82)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU DEINTYDDION, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
3 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 118(4), (6), (7) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1]:
Enwi a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "Deddf 1984" ("the 1984 Act") yw Deddf Cartrefi Cofrestredig 1984[2];
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y diwrnodau penodedig
2.
- (1) At ddibenion galluogi ceisiadau am gofrestru i gael eu gwneud o dan adran 23(3) o Ddeddf 1984 (cofrestru cartrefi nyrsio) yn unig, 31 Gorffennaf 2001 yw'r diwrnod penodedig i adran 39 o Ddeddf 2000 (estyn ystyr cartref nyrsio dros dro) ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
(2) 31 Awst 2001 yw'r diwrnod penodedig i weddill adran 39 o Ddeddf 2000 ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
Darpariaethau trosiannol
3.
- (1) Os oes person ("y ceisydd") wedi gwneud cais yn briodol cyn 31 Awst 2001 o dan adran 23(3) o Ddeddf 1984 mewn perthynas â safle yng Nghymru sy'n dod o fewn y disgrifiad yn adran 21(3B) o Ddeddf 1984 (ystyr cartref nyrsio) bydd paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys.
(2) Ni fydd adran 23(1) o Ddeddf 1984 (tramgwydd rhedeg cartref nyrsio heb ei gofrestru) yn gymwys i'r ceisydd -
(a) nes yr amser y caniateir y cais, neu
(b) os caiff y cais ei wrthod -
(i) os na ddygir apêl, nes bod 28 diwrnod wedi dod i ben ar ôl i benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol gael ei gyflwyno[3]); neu
(ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Gorffennaf 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 39 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('Deddf 2000') i rym mewn perthynas â Chymru. Mae adran 39 o Ddeddf 2000 yn diwygio adran 21 o Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984 ('Deddf 1984') er mwyn estyn ystyr "nursing home" ('cartref nyrsio'). Effaith y diwygiad yw ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n rhedeg safle a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio gan ymarferydd deintyddol er mwyn trin cleifion o dan anaesthesia gyffredinol gofrestru'r safle hwnnw yn gartref nyrsio o dan Ran II o Ddeddf 1984, oni bai bod yr esemptiad yn gymwys. Mae'r esemptiad yn gymwys os yw'r safle yn cael ei ddefnyddio gan ymarferydd deintyddol er mwyn trin cleifion o dan anaesthesia gyffredinol ar ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae adran 39 yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2001, i alluogi ceisiadau am gofrestru i gael eu gwneud mewn perthynas â safleoedd sy'n dod yn gofrestradwy o'r newydd yn unig. Ar 31 Awst 2001 y daw gweddill adran 39 i rym.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol. Gall safleoedd sy'n gofrestradwy o'r newydd barhau i weithredu heb gofrestru ar ôl 31 Awst 2001, tra bydd y broses gofrestru yn mynd yn ei blaen, cyhyd â'u bod wedi gwneud cais am gofrestru cyn y dyddiad hwnnw.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag '(
a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â '(
b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir ag '(
c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70) ; a chafodd y rhai a ddilynir ag '(
ch)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy.192) (C.80).
Y ddarpariaeth
|
Y dyddiad cychwyn
|
Adrannau 1-5 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 7(7) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 8 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 9(3)-(5) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 11-12 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 14-15 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 16 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 22-23 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 25 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 33-35 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 38(c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 40 (yn rhannol) (b) |
1 Chwefror 2001 |
Adran 40 (y gweddill) (b) |
28 Chwefror 2001 |
Adran 41 (b) |
28 Chwefror 2001 |
Adrannau 42-43 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 48-52 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 54(1), (3)-(7) (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 55 ac Atodlen 1 (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 72 ac Atodlen 2 (a) |
13 Tachwedd 2000 |
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(3),(4) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 98 (ch) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 107-108 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 112 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 113 (2)-(4) (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (yn rhannol) (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (y gweddill) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 115 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) |
28 Chwefror 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.
Y ddarpariaeth
|
Y dyddiad cychwyn
|
Adran 80(8) |
2 Hydref 2000 |
Adran 94 |
2 Hydref 2000 |
Adran 96 (yn rhannol) |
15 Medi 2000 |
Adran 96 (y gweddill) |
2 Hydref 2000 |
Adran 99 |
15 Medi 2000 |
Adran 100 |
2 Hydref 2000 |
Adran 101 |
2 Hydref 2000 |
Adran 103 |
2 Hydref 2000 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) |
2 Hydref 2000 |
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) |
2 Hydref 2000 |
Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68).
Notes:
[1]
2000 p.14. Mae'r p
er yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1). Mewn perthynas â Chymru mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.back
[2]
1984 p.23.back
[3]
Mae swyddogaethau cofrestru'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o Ddeddf 1984 wedi'u dirprwyo i awdurdodau iechyd yng Nghymru. Rhoddwyd y swyddogaethau hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Ddeddf 1984 ond cawsant eu gwneud yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Dirprwyodd Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddol) 1996 (O.S.1996/708)) swyddogaethau cofrestru'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran II o Ddeddf 1984 i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru. Mae O.S. 1996/708 yn effeithiol mewn perthynas â Chymru fel pe bai'r swyddogaethau hynny o dan Ddeddf 1984 a wnaed yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol gan OS 1999/672 ac a oedd wedi'u dirprwyo o'r blaen i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru gan O.S. 1996/70 wedi cael eu dirprwyo i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru gan y Cynulliad Cenedlaethol: gweler adrannau 23(3) a 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090313 7
|
Prepared
9 August 2001