British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012359w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2359 (Cy. 196)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
26 Mehefin 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu'n fel arall -
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[2];
ystyr "y Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl" ("the Travelling Expenses and Remission of Charges Regulations") yw Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988[3].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau
2.
- (1) Diwygir rheoliad 10 o'r prif Reoliadau (tystysgrifau rhagdalu) yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff (6) yn lle "pharagraffau (7) ac (8)" rhowch "pharagraffau (13) i (15)".
(3) Yn lle paragraffau (7) ac (8) rhowch y paragraffau canlynol -
"
(7) Os oes swm rhagnodedig wedi'i dalu a bod y person y talwyd ar ei gyfer ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001 -
(a) yn marw; neu
(b) yn dod yn breswylydd mewn ysbyty ac wedyn naill ai -
(i) yn marw; neu
(ii) yn aros yn yr ysbyty
yn ystod y cyfnod perthnasol fel y'i diffinnir gan baragraff (9) gellir gwneud cais am ad-daliad, gan y person hwnnw neu ar ei ran neu gan ei ystâd, yn unol â pharagraffau (13) - (15), mewn perthynas â phob mis cyfan yn dilyn y dyddiad pan fu'r person farw neu pan ddaeth yn breswylydd mewn ysbyty.
(8) Rhaid i'r ad-daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (7) gael ei gyfrifo fel a ganlyn -
(a) yn achos tystysgrif ragdalu sy'n ddilys am bedwar mis, un chwarter o'r swm rhagnodedig sydd wedi'i dalu am bob mis cyfan pryd y mae neu yr oedd y dystysgrif ragdalu yn ddilys;
(b) yn achos tystysgrif ragdalu sy'n ddilys am 12 mis, deuddegfed ran o'r swm rhagnodedig sydd wedi'i dalu am bob mis cyfan pryd y mae neu yr oedd y dystysgrif ragdalu yn ddilys;
ac at ddibenion y cyfrifiadau hyn, ystyr "mis cyfan" yw mis sy'n dechrau union fis ar ôl y dyddiad y daeth y dystysgrif ragdalu yn ddilys ac yn diweddu ar y dyddiad yn union o flaen y dyddiad hwnnw yn y mis canlynol.
(9) Ym mharagraff (7), ystyr "y cyfnod perthnasol" yw cyfnod dilysrwydd y dystysgrif ragdalu heb gynnwys y mis y gellir gwneud cais am ad-daliad mewn perthynas ag ef.
(10) Os oes swm rhagnodedig wedi'i dalu mewn perthynas â thystysgrif ragdalu sy'n ddilys am 12 mis a bod y person y gwnaed y taliad ar ei gyfer ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001 ac yn ystod y cyfnod perthnasol a ddiffinnir ym mharagraff (12) -
(a) yn dod yn berson y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1)(b) i (d) yn gymwys iddo; neu
(b) yn dod yn berson sydd â hawl i beidio â thalu o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988,
gall cais am ad-daliad gael ei wneud, gan neu ar ran y person hwnnw yn unol â pharagraffau (13) i (15).
(11) Swm yr ad-daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (10) fydd y gwahaniaeth rhwng y swm rhagnodedig a dalwyd a'r swm a gafodd ei ragnodi am dystysgrif ragdalu a oedd yn ddilys am bedwar mis ar y dyddiad y talwyd y swm rhagnodedig.
(12) Ym mharagraff (10) ystyr "y cyfnod perthnasol" yw'r cyfnod o dri mis sy'n dilyn yn union ar ôl y mis y gellir gwneud cais o dan baragraff (6) mewn perthynas ag ef.
(13) Rhaid i geisiadau o dan y rheoliad hwn gael eu gwneud i'r Awdurdod Iechyd a gafodd y swm rhagnodedig a chyda hwy rhaid cynnwys y dystysgrif (os cafodd un ei rhoi) a datganiad i ategu'r cais, a rhaid i'r cais ac unrhyw ad-daliad gael ei wneud mewn unrhyw fodd ac o dan unrhyw amodau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(14) Yn ddarostyngedig i baragraff (15) rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gael ei wneud os bydd y person y talwyd y swm rhagnodedig mewn perthynas ag ef -
(a) yn marw neu'n dod yn breswylydd mewn ysbyty ac wedyn yn marw, o fewn 24 mis o ddyddiad ei farwolaeth; neu
(b) â thystysgrif ragdalu ddilys am bedwar mis ac yn dod yn berson -
(i) y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1)(b) i (d) yn gymwys iddo; neu
(ii) â hawl i beidio â thalu o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988
o fewn pedwar mis i'r dyddiad y daw'r dystysgrif ragdalu yn ddilys; neu
(c) â thystysgrif ragdalu ddilys am 12 mis ac yn dod yn berson -
(i) y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1)(b) i (d) yn gymwys iddo; neu
(ii) â hawl i beidio â thalu o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988
o fewn saith mis i'r dyddiad y daw'r dystysgrif ragdalu yn ddilys; neu
(ch) yn dod yn breswylydd mewn ysbyty ac yn aros yno hyd nes y bydd y dystysgrif ragdalu yn dirwyn i ben, o fewn tri mis ar ôl iddi ddirwyn i ben.
(15) Os gwneir cais o dan y rheoliad hwn y tu allan i'r terfynau amser a bennir ym mharagraff (14) mewn perthynas â marwolaeth sy'n digwydd ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001 neu mewn perthynas â pherson sy'n dod yn berson y mae paragraff 14(b) i (ch) yn gymwys iddo ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001, rhaid i'r Awdurdod Iechyd ei dderbyn os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod achos da dros yr oedi wrth gyflwyno'r cais.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Mehefin 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau"), sy'n darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Gwneir darpariaeth ar gyfer ffioedd deintyddol a ffioedd optegol ar wahân.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau (sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer prynu tystysgrifau rhagdalu am ffioedd am gyffuriau a chyfarpar). Mae'r diwygiadau'n ymestyn y cyfnod pryd y gellir hawlio ad-daliad o'r ffi a dalwyd am dystysgrif ragdalu ar farwolaeth y deiliad neu pan dderbynnir y deiliad i ysbyty yn glaf preswyl i nifer y misoedd cyfan sy'n para heb ddirwyn i ben ar ddyddiad y farwolaeth neu ar ddyddiad y derbyn i'r ysbyty.
Mae hefyd yn ymestyn y cyfnod pryd y gellir hawlio ad-daliad pan yw deiliad tystysgrif ragdalu sy'n ddilys am 12 mis yn cael yr hawl i gael esemptiad o ffioedd am gyffuriau a chyfarpar neu ryddhad rhagddynt
Mae'n pennu'r terfynau amser ar gyfer gwneud cais am ad-daliad ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer derbyn cais o'r fath y tu allan i'r terfynau amser penodedig mewn achosion lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i fodloni bod achos da dros yr oedi wrth gyflwyno'r cais.
Notes:
[1]
1977 p.49. Gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (c.19)("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations" Diwygiwyd adran 83A gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), Atodlen 2, paragraff 6; gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(5); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 40 a chan erthygl 2 o O.S.1998/2385. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y pwerau uchod eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2]
O.S.2001/1358 (Cy.86)back
[3]
O.S.1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 1661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 3252, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/2417, 1999/767, 2507 a 2840, 2001/1397 (Cy.92).back
[4]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11090272 6
|
Prepared
18 July 2001