British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012356w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2356 (Cy.194)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
26 Mehefin 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, gan weithredu i arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio)(Cymru) 2001, byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001
Diwygio Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998
2.
- (1) Caiff Rheoliadau Tatws sy'n deillio o'r Aifft 1998[
3] eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniad o "the Decision" rhoddir -
"
"the Decision" means Commission Decision 96/301/EC authorising Member States temporarily to take additional measures against the dissemination of Pseudomanas solanacearum (Smith) Smith as regards Egypt[4]) as amended by the instruments listed in the Schedule to these Regulations;".
(2) Ar ôl rheoliad 6, mewnosodir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mehefin 2001
YR ATODLENRheoliad 2(3)
Atodlen Newydd i Reoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998
"
SCHEDULERegulation 2
Instruments amending Commission Decision 96/301/EC
Instrument
|
Reference
|
Commission Decision 98/105/EC |
OJ No. L25, 31.1.98, p.101 |
Commission Decision 98/503/EC |
OJ No. L225, 12.8.98, p.34 |
Commission Decision 99/842/EC |
OJ No. L326, 18.12.99, p.68 |
Commission Decision 2000/568/EC |
OJ No. L238, 22.9.00, p.59" |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig ac yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2000/568/EC sy'n diwygio Penderfyniad 96/301/EC sy'n awdurdodi'r Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd mesurau brys yn erbyn lledaenu
Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith mewn perthynas â'r Aifft (OJ Rhif L238, 22.9.2000, t.59).
Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r diffiniad o "the Decision" yn Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 (rheoliad 2(2)). Mae Penderfyniad y Comisiwn 2000/568/EC yn adnewyddu'r fframwaith y gellir mewnforio tatws o'r Aifft i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd o'i fewn.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972. p.68.back
[3]
O.S. 1998/201, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3167 ac O.S. 2000/350 (Cy.8).back
[4]
OJ Rhif L115, 9.5.96, t.47.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090316 1
|
Prepared
9 August 2001