British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012354w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2354 (Cy.192) (C.80)
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
29 Mehefin 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1]:
Enwi a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000.
Y diwrnod penodedig
2.
1 Gorffennaf 2001 yw'r diwrnod penodedig i adran 98 o'r Ddeddf (cyllido unigolion sy'n darparu gofal drwy daliadau uniongyrchol) ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Mehefin 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 1 Gorffennaf 2001 yn ddiwrnod pan yw adran 98 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") i ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
Mae adran 98 o'r Ddeddf yn diwygio Deddf Amddiffyn Plant 1999 ("Deddf 1999"). Dyma yw effaith y diwygiadau:
(a) caiff awdurdod lleol yng Nghymru gyfeirio unigolyn sy'n cael ei gyflogi neu wedi cael ei gyflogi i ddarparu gofal i blentyn at yr Ysgrifennydd Gwladol, at ddibenion ei swyddogaethau o dan adran 1 o Ddeddf 1999, pan yw'r awdurdod yn cyllido'r gofal hwnnw o dan adran 17A o Ddeddf Plant 1989 ("Deddf 1989")[3], os ydynt o'r farn bod yr unigolyn yn euog o gamymddwyn a niweidiodd blentyn, neu a roddodd blentyn mewn risg o niwed[4];
(b) os yw person sy'n cyflogi neu'n bwriadu cyflogi unigolyn i ddarparu gofal i blentyn o dan adran 17A o Ddeddf 1989 yn gofyn i'r awdurdod lleol cyllido ddarganfod a yw'r unigolyn wedi'i gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf 1999 (neu mewn rhestrau penodol eraill a grybwyllir yn adran 7 o Ddeddf 1999) rhaid i'r awdurdod lleol ddarganfod a yw'r unigolyn wedi'i gynnwys yn unrhyw un o'r rhestrau hynny;
(c) os gofynnir i awdurdod lleol ddarganfod a yw unigolyn wedi'i gynnwys yn unrhyw un o'r rhestrau a grybwyllir yn (b) uchod mae'n ddigonol i'r awdurdod ei fodloni'i hun fod y corff a gyflenwodd yr unigolyn wedi darganfod, ar ddyddiad o fewn y deuddeg mis diwethaf, a oedd yr unigolyn wedi'i gynnwys felly os bydd yr awdurdod hefyd yn cael cadarnhad ysgrifenedig o'r ffeithiau a ddarganfuwyd gan y corff.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Cafodd darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag "(a)" eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â "(b)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); a chafodd y rhai a ddilynir ag "(c)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152 ) (C.70 ) .
Y ddarpariaeth
|
Y dyddiad cychwyn
|
Adrannau 1 - 5 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 7(7) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 8 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 9(3) - (5) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 11 - 12 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 14 - 15 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 16 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 22 - 23 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 25 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 33 - 35 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 38(c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 40 (yn rhannol) (b) |
1 Chwefror 2001 |
Adran 40 (y gweddill) (b) |
28 Chwefror 2001 |
Adran 41 (b) |
28 Chwefror 2001 |
Adrannau 42 - 43 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 48 - 52 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 54(1), (3) - (7) (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 55 & Atodlen 1 (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 72 & Atodlen 2 (a) |
13 Tachwedd 2000 |
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(3),(4) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 107 - 108 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 112 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 113 (2) - (4) (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (yn rhannol) (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (y gweddill) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 115 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) |
28 Chwefror 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Cafodd darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.
Y ddarpariaeth
|
Y dyddiad cychwyn
|
Adran 80(8) |
2 Hydref 2000 |
Adran 94 |
2 Hydref 2000 |
Adran 96 (yn rhannol) |
15 Medi 2000 |
Adran 96 (y gweddill) |
2 Hydref 2000 |
Adran 99 |
15 Medi 2000 |
Adran 100 |
2 Hydref 2000 |
Adran 101 |
2 Hydref 2000 |
Adran 103 |
2 Hydref 2000 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) |
2 Hydref 2000 |
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) |
2 Hydref 2000 |
Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68).
Notes:
[1]
2000 c.14. Mae'r per yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1). Mewn perthynas â Chymru mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.back
[2]
1998 p.38.back
[3]
Mae adran 17A o Ddeddf 1989 yn caniatáu i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol mewn amgylchiadau penodol wneud taliadau uniongyrchol i berson sydd â gofal rhiant dros blentyn anabl neu i blentyn anabl 16 neu 17 oed mewn perthynas â sicrhau darpariaeth gwasanaethau ar gyfer y plentyn anabl o dan adran 17 o Ddeddf 1989 er mwyn diogelu a hybu eu lles. Mewnosodir adran 17A gan adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 a fydd yn effeithiol o 1 Gorffennaf 2001 ymlaen mewn perthynas â Chymru.back
[4]
O dan adran 1 o Ddeddf 1999 mae'r Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr o bersonau y credir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant.back
English version
ISBN
0 11090335 8
|
Prepared
12 September 2001