British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd 1995 (Cychwyn a Darpariaeth Arbed Tir Halogedig) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012351w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2351 (Cy. 191) (C. 79)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD,CYMRU
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd 1995 (Cychwyn a Darpariaeth Arbed Tir Halogedig) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
12 Mehefin 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 125(3) a (4) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[
1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd 1995 (Cychwyn a Darpariaeth Arbed Tir Halogedig) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr "Deddf 1990 " ("the 1990 Act") yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[3]
ystyr "Deddf 1995 " ("the 1995 Act") yw Deddf yr Amgylchedd 1995;
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at adran neu Atodlen a rifwyd yn gyfeiriad at yr adran neu Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Neddf 1995 onibai bod datganiad pendant i'r gwrthwyneb.
(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2.
- Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bydd darpariaethau canlynol Deddf 1995 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001: -
(a) adran 57;
(b) adran 120(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 79, 89, 91 a 92 o Atodlen 22; ac
(c) adran 120(3) i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adrannau 61 a 143 o Ddeddf 1990 yn Atodlen 24.
Darpariaeth arbed
3.
Os oes, cyn 1 Gorffennaf 2001, -
(a) hysbysiad atal niwsans wedi'i gyflwyno o dan adran 80(1) o Ddeddf 1990; neu
(b) c
yn wedi'i chyflwyno i lys ynadon o dan adran 82(1) o Ddeddf 1990 neu os oes gorchymyn wedi'i wneud o dan adran 82(2) o'r Ddeddf honno,
cyn 1 Gorffennaf 2001, bydd yr hysbysiad, y g
yn neu'r gorchymyn ac unrhyw achos sy'n dilyn yn eu sgil yn parhau'n effeithiol er gwaethaf y diwygiadau a wnaed i adran 79 o Ddeddf 1990 gan baragraff 89 o Atodlen 22 i Ddeddf 1995.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mehefin 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dod ag amryfal ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd 1995 ("Deddf 1995") i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Gorffennaf 2001.
Mae Erthygl 2(a) yn dod ag adran 57 o Ddeddf 1995 i rym, sef adran sy'n mewnosod Rhan IIA yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990").
Mae Erthygl 2(b) yn dod ag adran 120(1) o Ddeddf 1995 i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau canlynol yn Atodlen 22 -
(a) paragraff 79, sy'n darparu i effaith adran 61 o Ddeddf 1990 (dyletswydd awdurdodau rheoleiddio gwastraff mewn perthynas â safleoedd tirlenwi a gaewyd) ddarfod;
(b) paragraff 89, sy'n diwygio adran 79 o Ddeddf 1990 (niwsansau statudol ac archwiliadau ar eu cyfer);
(c) paragraff 91, sy'n darparu i effaith adran 143 o Ddeddf 1990 (cofrestrau cyhoeddus tir a all fod wedi'i halogi) ddarfod; ac (ch) paragraff 92, sy'n diwygio adran 161(4) o Ddeddf 1990 (rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddiadau).
Mae Erthygl 2(c) yn dod ag adran 120(3) o Ddeddf 1995 i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adrannau 61 a 143 o Ddeddf 1990 yn Atodlen 24.
Mae Erthygl 3 yn gwneud darpariaeth eithrio mewn cysylltiad â chychwyn paragraff 89 o Atodlen 22 i Ddeddf 1995.
Notes:
[1]
1995 p.25back
[2]
Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[3]
1990 p.43back
[4]
1998 p. 38back
English version
ISBN
0 11090255 6
|
Prepared
6 July 2001