British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012286w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2286 (Cy. 174 )
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001
|
Wedi'i wneud |
21 Mehefin 2001 | |
|
Yn dod i rym |
28 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 70(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
1].
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys yng Nghymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "Deddf 1974" ("the 1974 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1974[2],
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
Cymhwyso darpariaethau Deddf 2000
2.
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny -
(a) at swyddog safonau moesegol yn gyfeiriad at Gomisiynydd Lleol yng Nghymru;
(b) at Fwrdd Safonau Lloegr yn gyfeiriad at y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru;
(c) at Loegr yn gyfeiriad at Gymru;
(ch) at adran 59 yn gyfeiriad at adran 69; a
(d) at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2000 gydag addasiadau
3.
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a welir yn yr Atodlen honno.
Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 1974 gydag addasiadau
4.
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau Deddf 1974 fel y'u rhestrir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a welir yn yr Atodlen honno.
Y Gyfraith Ddifenwi
5.
- (1) At ddibenion y gyfraith ddifenwi, bydd gan unrhyw ddatganiad (boed mewn ysgrifen neu ar lafar) a wneir gan swyddog dynodedig mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan Ran III o Ddeddf 2000 fraint absoliwt.
(2) Ystyr "swyddog dynodedig" ym mharagraff (1) yw unrhyw berson a ddynodwyd yn ysgrifenedig gan Gomisiynydd Lleol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001
Atodlen 1Erthygl 2
Cymhwyso Darpariaethau Deddf 2000
Yr adran neu'r paragraff
|
Y pwnc
|
adran 60(1), (4) a (5 |
Ymchwilio |
adran 61 |
Y weithdrefn mewn perthynas ag ymchwiliadau |
adran 62(1), (2), (3), (5), (6), (8), (9), (10), (11) |
Darpariaethau pellach mewn perthynas ag ymchwiliadau |
adran 63(3) |
Cyfyngiadau ar datgelu gwybodaeth |
Atodlen 2Erthygl 3
Cymhwyso Darpariaethau yn Neddf 2000 gydag Addasiadau
Adran 60(6)
1.
Bydd adran 60(6) o Ddeddf 2000 (Cynnal Ymchwiliadau) yn gymwys fel pe bai -
(a) y geiriau "an ethical standards officer" wedi'u disodli gan y geiriau "a Local Commissioner in Wales"; a
(b) y geiriau "or paragraph 3(2) of Schedule 4 or any breach falling within paragraph 3(3) of that Schedule." wedi'u disodli gan y geiriau "paragraph 1(1) and (2) of Schedule 4 of the Local Government Act 1974.".
Adran 62(4)
2.
Bydd Adran 62(4) o Ddeddf 2000 (Ymchwiliadau: darpariaethau pellach) yn gymwys fel pe bai -
(a) y geiriau "An ethical standards officer" wedi'u disodli gan y geiriau "A Local Commissioner in Wales"; a
(b) y geiriau "the National Assembly for Wales or" wedi'u mewnosod ar ôl "the authority concerned and" ym mharagraff (a).
Adran 63(2)
3.
Bydd adran 63(2) o Ddeddf 2000 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai -
(a) y geiriau "The Secretary of State" wedi'u disodli gan y geiriau "The National Assembly for Wales";
(b) y gair "England" wedi'i ddisodli gan y gair "Wales";
(c) y geiriau "any ethical standards officer" wedi'u disodli gan y geiriau "a Local Commissioner in Wales"; ac
(ch) y geiriau "his or (as the case may be)" wedi'u dileu.
Atodlen 3Erthygl 4
Cymhwyso Darpariaethau yn Neddf 2000 gydag addasiadau
Adran 32(2)
Bydd adran 32(2) o Ddeddf 1974 (Y gyfraith ddifenwi a datgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai'r is-baragraff canlynol wedi'i ychwanegu -
"
(d) for the purposes of the investigation and of any report to be made under section 69 of the Local Government Act 2000.".
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
O dan adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Deddf 2000), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas ag ymchwiliadau safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru. Ymwneud y mae'r ymchwiliadau hyn ag ymddygiad aelodau neu aelodau cyfetholedig o awdurdod perthnasol yng Nghymru os oes honiad wedi'i wneud neu os gallai fod yna achos o fethu ag ymdrin â chod ymddygiad awdurdod.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymhwyso adrannau 60 (Cynnal ymchwiliadau), 61 (Y weithdrefn mewn perthynas ag ymchwiliadau), 62 (Ymchwiliadau: darpariaethau pellach) a 63 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) at ymchwiliadau safonau. Mae'n cymhwyso'r adrannau hyn (gydag addasiadau mewn rhai achosion) at waith Comisiynydd Lleol yng Nghymru.
Mae Erthygl 2 (drwy gyfeirio at Atodlen 1 o'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(1), (4) a (5), 61, 62(1), (2), (3), (5), (6), (8), (9), (10) ac (11) a 63(3) o Ddeddf 2000 at ymchwiliadau Comisiynydd o dan adran 69.
Mae Erthygl 3 (drwy gyfeirio at Atodlen 2 i'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(6), 62(4) a 63(2) at ymchwiliadau Comisiynydd o dan adran 69 yn y ffurf wedi'i haddasu a restrir yn Atodlen 2. Mae'r addasiadau'n ymwneud â sut y caiff y darpariaethau eu cymhwyso at Gymru.
Mae Erthygl 4, drwy addasu darpariaethau adran 32(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, sy'n gysylltiedig â datgeliadau gan Gomisiynydd Lleol, yn datgymhwyso'r adran honno mewn perthynas ag ymchwiliad safonau o dan adran 69 o Ddeddf 2000.
Yn rhinwedd Erthygl 5, mae braint absoliwt, at ddibenion y gyfraith ddifenwi, yn cael ei hestyn i ddatganiadau personau a ddynodir gan Gomisiynydd Lleol mewn perthynas â swyddogaethau o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Notes:
[1]
2000 p.22.back
[2]
1974 p.7.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090280 7
|
Prepared
26 July 2001