British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012278w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2278 (Cy.168)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
21 Mehefin 2001 | |
|
Yn dod i rym |
28 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 82(8) a (9) a 105(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
1].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "athro neu athrawes" ("teacher") yw person a gyflogir fel athro neu athrawes gan Awdurdod Addysg Lleol;
ystyr "awdurdod tân" ("fire authority") yw awdurdod sydd am y tro wedi'i gyfansoddi'n awdurdod tân o dan y Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[2] neu unrhyw gynllun cyfuno a wnaed odani;
ystyr "diffoddwr tân" ("firefighter") yw person sy'n aelod o frigâd dân a gynhelir gan awdurdod tân ac sydd â thelerau gwaith sy'n cynnwys rhwymedigaeth i fynd i'r afael ag ymladd tanau o fewn ystyr adran 38(1) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
Disgrifiadau o gyflogeion
3.
Mae'r disgrifiadau canlynol o gyflogeion yn cael eu pennu at dibenion adran 82(8) o'r Ddeddf -
(a) diffoddwr tân, a
(b) athro neu athrawes.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae adran 82(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, gyhoeddi cod ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cyflogedig penodol mewn awdurdodau perthnasol yng Nghymru ("y cod ymddygiad"). Awdurdodau perthnasol yw cynghorau cymuned, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac awdurdodau Parc Cenedlaethol ond nid awdurdodau'r heddlu.
O dan adran 82(8) o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau sy'n pennu'r disgrifiadau o weithwyr cyflogedig nad yw'r cod ymddygiad yn gymwys iddynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r disgrifiadau hynny o weithwyr cyflogedig, sef athrawon a diffoddwyr tân sy'n weithwyr cyflogedig i awdurdodau perthnasol yng Nghymru.
Notes:
[1]
2000 p.22.back
[2]
1947 p.41.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090285 8
|
Prepared
27 July 2001