British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012275w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2275 (Cy. 165 )
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001
|
Wedi'u gwneud |
21 Mehefin 2001 | |
|
Yn dod i rym |
28 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 68(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
1].
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "Deddf 1974" ("the 1974 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1974[2];
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
(4) Onid yw'n ymddangos bod yna fwriad i'r gwrthwyneb, bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr ystyr a roddir iddynt yn Neddf 1974 neu yn Neddf 2000 (yn ôl fel y digwydd).
Cymhwyso darpariaethau Rhan III o Ddeddf 1974 at Swyddogaethau Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 2000
2.
At ddibenion adran 23(11) o Ddeddf 1974, bydd swyddogaethau Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 1974 yn cynnwys swyddogaethau'r Comisiynydd o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Cymhwyso darpariaethau Rhan III o Ddeddf 1974 at Swyddogaethau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 2000
3.At ddibenion adrannau 23(12), (12A), (12B) a (13), a 23A o Ddeddf 1974 ac Atoden 4 iddi, bydd swyddogaethau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru yn cynnwys ei swyddogaethau o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Treuliau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru neu Gomisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 1974 i gynnwys treuliau o dan Ran III o Ddeddf 2000
4.
At ddibenion paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 1974, bydd treuliau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 1974 yn cynnwys treuliau'r Comisiwn, neu dreuliau Comisiynydd Lleol yng Nghymru, o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
O dan adran 68(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Deddf 2000), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â thrin swyddogaethau Comisiynydd Lleol yng Nghymru a'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (Deddf 1974) fel pe baent yn cynnwys swyddogaethau penodedig o dan Ran III o Ddeddf 2000. Hefyd caiff y rheoliadau ddarparu i dreuliau'r Comisiwn o dan Ddeddf 1974 gynnwys treuliau Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Yn y rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adran 68(3), mae rheoliad 2 yn cymhwyso adran 23(11) (gofyniad i Gomisiynydd Lleol gynhyrchu adroddiad blynyddol ynghylch cyflawni swyddogaethau) o Ddeddf 1974 at swyddogaethau Comisiynydd Lleol o dan Ran II o Ddeddf 2000.
Mae Rheoliad 3 yn cymhwyso adrannau 23(12) (gofyniad i'r Comisiwn gynnal adolygiad bob tair blynedd o weithrediad Rhan III), (12A) (disgresiwn i'r Comisiwn roi cyngor a chanllawiau ynghylch Rhan III), (12B) (y personau y mae'n rhaid ymgynghori â hwy mewn perthynas â chanllawiau adran 23(12A)), (13) (cymhwyso Atodlen 4 at y Comisiwn), adran 23A (Adroddiadau Blynyddol o'r Comisiwn) ac Atodlen 4 (Y Comisiynau) at swyddogaethau'r Comisiwn o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Mae rheoliad 4 yn cymhwyso paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 1974 fel bod treuliau'r Comisiwn o dan y Ddeddf honno yn cynnwys treuliau'r Comisiwn neu dreuliau Comisiynydd o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Notes:
[1]
2000 p.22.back
[2]
1974 p.7.back
[3]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11 090279 3
|
Prepared
26 July 2001