British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012222w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2222 (Cy. 160)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001
|
Wedi'u gwneud |
14 Mehefin 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1), (2), a (4), 64(3) a 65(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[
1], sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[
2].
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
Diwygio Rheoliadau 1999
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Rhestr Ardrethhu Canolog (Cymru) 1999[
3] fel a ganlyn.
(2) Ar ôl Rheoliad 5 mewnosodwch -
"
Cludwyr Nwy Annibynnol
5A.
- (1) Trinnir hereditamentau (heblaw hereditamentau a eithrir) a feddiennir, neu os nas meddiennir hwy a berchnogir, gan berson a ddynodwyd drwy ei enwi yn Rhan 3A o'r Atodlen ac sy'n cael eu defnyddio, neu a fyddai'n cael eu defnyddio pe baent wedi'u meddiannu, yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion y person hwnnw wrth weithredu fel cludwr nwy cyhoeddus ac a fyddai, heblaw am y Rheoliad hwn, yn fwy nag un hereditament, fel un hereditament.
(2) Ym mharagraff (1) -
(a) ystyr "hereditament a eithrir" yw hereditament sy'n cynnwys safle a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn safle swyddfa lle nad yw'r safle hwnnw wedi'i leoli ar dir gweithredol y person dynodedig, neu a ffurfir gan safle felly; a
(b) mae i "cludwr nwy cyhoeddus" yr un ystyr â "public gas transporter" yn Rhan I o Ddeddf Nwy 1986. [4]
(3) Trinnir yr hereditament a ddisgrifir ym mharagraff (1) fel pe bai wedi'i feddiannu gan y person dynodedig."
(3) Yn yr Atodlen, ar ôl Rhan 3, mewnosodwch -
"
Rhan 3A
Cludwyr Nwy Annibynnol
Person dynodedig
British Gas Connections Limited
TotalFinaElf Pipelines Limited
The Gas Transportation Company Limited
SSE Pipelines Limited
ScottishPower Gas Limited
East Midlands Pipelines Limited
GTC Pipelines Limited
Energi Link Limited
Hyder Gas Networks Limited
E.S. Pipelines Limited
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditamentau a ddisgrifir yn Rheoliad 5A.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gyda golwg ar sicrhau bod hereditamentau penodol yn cael eu hardrethu yn ganolog
en bloc, gall rheoliadau gael eu gwneud o dan adran 53(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 sy'n dynodi person ac yn rhagnodi mewn perthynas â'r person hwnnw un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditament annomestig.
Y prif Reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan y p
er hwn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 sy'n effeithiol mewn perthynas ag unrhyw restr ardrethu canolog ar gyfer Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu wedi hynny.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy ddynodi gr
p o gwmnïau cludo nwy a darparu bod yr hereditamentau rhagnodedig y mae pob un ohonynt yn eu defnyddio er mwyn gweithredu fel cludwr nwy cyhoeddus yn cael eu trin fel un hereditament.
Notes:
[1]
1988 p.41; diwygiwyd adran 53 gan baragraff 29 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Gweler adran 146(6) o Ddeddf 1988 i gael y diffiniad o "prescribed".back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1999/3453.back
[4]
1986 p.44. Mewnosodwyd adran 7, y mae'r diffiniad yn ymddangos ynddi, ganadran 5 o Ddeddf Nwy 1995 (p.45).back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090302 1
|
Prepared
6 August 2001