Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012219w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2219 (Cy.159)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) 2001
|
Wedi'u gwneud |
14 Mehefin 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 [
2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "yr Asiantaeth" ("the Agency") yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd[3];
mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr â "food authority" yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990[4]); a
rhaid dehongli "canolfan gasglu" ("collection centre"), "tanerdy" ("tannery") a "deunydd crai" ("raw material") yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 1999/724/EC sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC sy'n nodi gofynion ar gyfer iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu'r fasnach mewn cynhyrchion yn y Gymuned a mewnforion i'r Gymuned nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion a enwyd sydd wedi'u nodi mewn rheolau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC neu, mewn perthynas â phathogenau, â Chyfarwyddeb 90/425/EEC [5].
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996
3.
Caiff Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996[6] eu diwygio mewn perthynas â Chymru drwy ychwanegu'r cofnod canlynol, yn Atodlen 3, ar ddiwedd paragraff 12 -
"
Commission Decision 1999/724/EC (OJ No. L290, 12.11.99, p.32)".
Awdurdodi canolfannau casglu a thanerdai
4.
- (1) Pan wneir cais o dan y rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi canolfan gasglu neu danerdy os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni -
(a) bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy ystafelloedd storio a chanddynt loriau caled a waliau llyfn y mae'n hawdd eu glanhau a'u diheintio;
(b) bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy gyfleusterau oergell, os yw hynny'n briodol;
(c) bod ystafelloedd storio'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy yn cael eu cadw mewn cyflwr boddhaol o ran glendid ac adeiladwaith, fel nad ydynt yn creu ffynhonnell i halogi'r deunyddiau crai;
(ch) bod, neu, yn ôl fel y digwydd, y bydd unrhyw ddeunydd crai nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 sy'n gymwys iddo, os yw'n cael neu os bydd yn cael ei storio neu ei brosesu ar y safle, wedi'i wahanu oddi wrth ddeunydd crai sy'n cydymffurfio felly drwy gydol y cyfnod derbyn, storio, prosesu ac anfon;
(d) bod gan yr awdurdod bwyd yr holl wybodaeth y mae arno ei angen er mwyn hysbysu'r Asiantaeth am yr awdurdodiad o dan reoliad 8(2)(a) o'r Rheoliadau hyn.
(2) Wrth ganiatáu unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi rhif penodol i'r safle.
Atal awdurdodiadau a'u tynnu'n ôl
5.
- (1) Caiff awdurdod bwyd atal awdurdodiad o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn neu ei dynnu'n ôl os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni nad yw'r safle y caniatawyd yr awdurdodiad mewn perthynas ag ef yn bodloni'r gofynion a bennir yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i awdurdod bwyd beidio ag atal awdurdodiad neu ei dynnu'n ôl o dan y rheoliad hwn oni bai -
(a) ei fod wedi cyflwyno hysbysiad sy'n cydymffurfio â pharagraff (3) o'r rheoliad hwn i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle; a
(b) ei fod wedi'i fodloni, ar ôl i'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad ddod i ben, nad yw'r safle'n cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn -
(a) datgan bod yr awdurdod bwyd yn bwriadu atal yr awdurdodiad neu, yn ôl fel y digwydd, ei dynnu'n ôl;
(b) nodi pob gofyniad a bennir yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn y mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd ag ef mewn perthynas â'r safle;
(c) mewn perthynas â phob gofyniad a bennir o dan is-baragraff (b) uchod, rhoi'r rhesymau pam y mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd â'r gofyniad; ac
(ch) datgan y gall yr awdurdodiad gael ei atal neu, yn ôl fel y digwydd, ei dynnu'n ôl oni bai bod perchennog y busnes yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad o fewn unrhyw amser rhesymol a nodir yn yr hysbysiad.
Yr hawl i apelio
6.
- (1) Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad gan awdurdod bwyd i wrthod awdurdodiad neu i atal awdurdodiad neu i dynnu awdurdodiad yn ôl apelio i lys ynadon.
(2) Bydd adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn effeithiol mewn perthynas ag apelau o dan y rheoliad hwn fel y maent yn effeithiol mewn perthynas ag apêl o dan yr adran honno.
(3) Ni fydd tynnu awdurdodiad yn ôl neu atal awdurdodiad yn dod yn effeithiol nes i'r amser ar gyfer apelio yn erbyn hynny ddod i ben ac, os gwneir apêl, nes penderfynu ar yr apêl yn derfynol.
Dileu awdurdodiad
7.
Rhaid i awdurdod bwyd ddileu awdurdodiad o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn -
(a) ar gais perchennog y busnes y mae'r safle wedi'i awdurdodi mewn perthynas ag ef; neu
(b) os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni nad yw'r busnes a oedd yn cael ei redeg ar y safle y rhoddwyd yr awdurdodiad ar ei gyfer yn cael ei redeg yno mwyach.
Cofrestru
8.
- (1) Rhaid i'r Asiantaeth gadw cofrestr o safleoedd sydd wedi'u hawdurdodi o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd hysbysu'r Asiantaeth, drwy unrhyw gyfrwng y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth ofyn amdano: -
(a) o bob awdurdodiad a roddir gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn;
(b) o bob awdurdodiad a dynnir yn ôl, a atelir neu a ddilëir gan yr awdurdod bwyd;
(c) o bob hysbysiad a roddir gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 5(2) o'r Rheoliadau hyn;
(ch) o unrhyw newid ym mherchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar safle awdurdodedig;
(d) o unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad sy'n dod i sylw'r awdurdod bwyd yn yr wybodaeth yn y gofrestr ynghylch unrhyw safle a awdurdodwyd gan yr awdurdod bwyd.
(3) Rhaid i bob hysbysiad gan yr awdurdod bwyd i'r Asiantaeth o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth ganlynol -
(a) cyfeiriad y safle;
(b) enw perchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle;
(c) unrhyw enw masnachu neu enw arall (heblaw enw'r perchennog) yr adnabyddir y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle wrtho;
(ch) y rhif adnabod a ddyrannwyd gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 4(2) o'r Rheoliadau hyn;
(d) ai fel canolfan gasglu ynteu fel tanerdy y mae'r safle wedi'i awdurdodi;
(dd) y dyddiad y mae'r awdurdodiad yn dod yn effeithiol a'r dyddiad y daeth unrhyw atal, tynnu'n ôl, neu ddileu ar yr awdurdodiad yn effeithiol.
(4) Rhaid i'r Asiantaeth gymryd mesurau rhesymol i drefnu bod yr wybodaeth ar y gofrestr ar gael i'r cyhoedd ar adegau rhesymol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Benderfyniad y Comisiwn 99/724/EC (OJ Rhif L290, 12.11.99, t.32) - "Penderfyniad y Comisiwn" - i'r graddau y mae'n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd ac yn gosod rhwymedigaethau newydd ar y Deyrnas Unedig neu'n newid y rhwymedigaethau sydd arni.
Mae Penderfyniad y Comisiwn yn diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.49) drwy osod gofynion newydd sy'n ymwneud â gelatin a fwriedir i bobl ei fwyta. Mae darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno sy'n ymwneud â'r fasnach o fewn y Gymuned yn cael eu gweithredu gan Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1996 er mwyn rhoi eu heffaith i'r newidiadau a wneir gan Benderfyniad y Comisiwn.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhoi pwer i'r awdurdodau bwyd yng Nghymru roi, atal, tynnu'n ôl a dileu awdurdodiadau i ganolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer gweithgynhyrchu gelatin yn ddarostyngedig i ofynion Penderfyniad y Comisiwn. Mae'n ofynnol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gadw cofrestr o'r safleoedd a awdurdodir fel hyn.
Mae Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol Cymru 1998 (1998 p.38) a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Cymru), Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EN.
Notes:
[1]
OS 1999/2788.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
A sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back
[4]
1990 p.16. Mae adran 5 yn disgrifio'r awdurdodau sy'n awdurdodau bwyd at ddibenion y Ddeddf.back
[5]
OJ Rhif L290, 12.11.99, t.32.back
[6]
OS 1996/3124, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090298 X
|
Prepared
6 August 2001