BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012193w.html

[New search] [Help]

2001 Rhif 2193 (Cy.155)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 12 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 1 Awst 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol - 



RHAN I

TEITL, CYCHWYN, DEHONGLI A DIDDYMU

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

Dehongli a diddymu
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    mae i "archwilio" yr un ystyr ag "examination" yn adran 28(2) o'r Ddeddf Diogelwch Bwyd[3];

    ystyr "awdurdod gorfodi" ("enforcement authority") yw - 

    (a) y Comisiynwyr neu'r Bwrdd Safonau Gwin;

    (b) y Cynulliad Cenedlaethol;

    (c) mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol, yr awdurdod lleol;

    ystyr "awdurdod gorfodi priodol" ("appropriate enforcement authority"), mewn perthynas ag unrhyw ran o Gymru, yw awdurdod gorfodi mewn perthynas â'r rhan honno;

    ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

    ystyr "y Bwrdd Safonau Gwin" ("the Wine Standards Board") yw Bwrdd Safonau Gwin Cwmni'r Gwinyddion;

    ystyr "y Comisiynwyr" ("the Commissioners" ) yw Comisiynwyr y Tollau Tramor a Chartref;

    ystyr "cynnyrch sector gwin a reolir" ("controlled wine-sector product") yw unrhyw gynnyrch o'r sector gwin y gwaharddwyd ei symud am y tro yn unol â rheoliad 8;

    ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    mae i "Cytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd" ("the European Economic Area Agreement") yr un ystyr ag sydd i "the Agreement" yn adran 6(1) o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993[4];

    mae "dadansoddi" ("analysis") yn cynnwys profion microbiolegol ac unrhyw dechneg ar gyfer darganfod cyfansoddiad bwyd;

    ystyr "dadansoddydd bwyd" ("food analyst") ac "archwilydd bwyd" ("food examiner"), mewn perthynas â Chymru, yw person sy'n ddadansoddydd bwyd ac yn archwilydd bwyd, yn ôl fel y digwydd, at ddibenion adran 30 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

    ystyr "darpariaeth Gymunedol" ("Community provision") yw unrhyw un o ddarpariaethau unrhyw un o Reoliadau, Penderfyniadau neu Ddeddfau'r Cymunedau Ewropeaidd y cyfeirir ati yn Atodlen 1, neu o'r Cytuniadau sy'n ymwneud â derbyn i'r Cymunedau Ewropeaidd, yn eu tro, Weriniaeth Groeg a lofnodwyd yn Athen ar 28 Mai 1979[5], Teyrnas Sbaen a Gweriniaeth Portiwgal a lofnodwyd, yn eu tro, ym Madrid a Lisbon ar 12 Mehefin 1985[6], a Theyrnas Sweden, Gweriniaeth Awstria a Gweriniaeth y Ffindir a lofnodwyd yn eu tro yn Stockholm, Vienna a Helsinki ar 24 Mehefin 1994[7]), ac os oes unrhyw ddarpariaeth o'r fath wedi'i haddasu gan Gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, mae'n cynnwys yr addasiad iddi a weithredwyd drwy hynny;

    ystyr "darpariaeth Gymunedol berthnasol" ("relevant Community provision") yw unrhyw ddarpariaeth Gymunedol y cyfeirir ati yng ngholofn 1 neu golofn 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, y disgrifir ei phwnc yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno;

    ystyr "gweithgynhyrchu" ("manufacturing") yw defnyddio gwin neu gynhyrchion eraill y sector gwin at ddibenion masnach neu fusnes (heblaw busnes arlwyo), i gyfansoddi, gweithgynhyrchu neu baratoi unrhyw gynnyrch;

    mae i "gwinoedd o safon psr" yr ystyr a roddir i "quality wines psr" gan Erthygl 54 o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin[8];

    ystyr "manwerthu" ("retail sale") yw unrhyw werthu i berson sy'n prynu heblaw er mwyn ailwerthu ond nid yw'n cynnwys gwerthu i arlwywr yng nghwrs ei fusnes arlwyo nac i weithgynhyrchydd yng nghwrs ei fusnes gweithgynhyrchu;

    ystyr "rhanbarthau penodedig" ("specified regions") yw'r rhanbarthau a ddiffinnir yn rheoliad 13;

    ystyr "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer") yw urhyw berson (p'un a yw'n swyddog i'r awdurdod hwnnw neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi at ddibenion y Rheoliadau hyn gan awdurdod gorfodi priodol neu mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth benodol yn y Rheoliadau hyn, unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan awdurdod gorfodi priodol at ddibenion y ddarpariaeth honno;

    ystyr "trydedd wlad" ("third country") yw unrhyw wlad neu diriogaeth nad yw'n ffurfio rhan o'r Deyrnas Unigol.

    (2) I'r graddau y mae'r cyd-destun yn caniatáu hynny, mae i'r ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyron ag yn Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ac, mewn perthynas â gwinoedd wedi'u persawru, yn Rheoliad y Cyngor (EEC) 1601/91, fel y'i diwygiwyd, sy'n nodi rheolau cyffredinol ar ddisgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd sydd wedi'u seilio ar winoedd wedi'u persawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru[9].

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at reoliad neu Atodlen â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

    (4) Mae Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1996[10], Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Diwygio) 1997[11]), Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Diwygio) 1998[12], a Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Diwygio) 1999[13]) drwy hyn yn cael eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

    (5) Wrth gymhwyso Rhan III o'r Rheoliadau hyn, rhaid darllen Atodlen 3 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag amrywogaethau o winwydd ar gyfer darparu gwinoedd o safon psr), ac Atodlenni 4 a 5, y Rhan honno a'r Atodlenni hynny mewn perthynas ag unrhyw win a gynhyrchwyd - 

    (a) o rawnwin a gynaeafwyd cyn 1 Medi 1993, fel pe bai eu cynnwys yr un fath yn union â'r Rhan gyfatebol o Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1993[14] a'r Atodlenni cyfatebol iddynt;

    (b) o rawnwin a gynaeafwyd ar neu ar ôl 1 Medi 1993 a chyn 1 Medi 1994, fel pe bai eu cynnwys yr un fath yn union â'r Rhan gyfatebol o Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1994[15] a'r Atodlenni cyfatebol iddynt;

    (c) o rawnwin a gynaeafwyd ar neu ar ôl 1 Medi 1994 a chyn 1 Medi 1995, fel pe bai eu cynnwys yr un fath yn union â'r Rhan gyfatebol o Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1995[16] a'r Atodlenni cyfatebol iddynt;

    (ch) o rawnwin a gynaeafwyd ar neu ar ôl 1 Medi 1995 a chyn 1 Medi 1999, fel pe bai eu cynnwys yr un fath yn union â'r Rhan gyfatebol o Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1996 a'r Atodlenni cyfatebol iddynt.



RHAN II

DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Swyddogaethau swyddogol a gorfodi
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, mae'r awdurdodau lleol, y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr a'r Bwrdd Safonau Gwin drwy hyn yn cael eu dynodi fel yr awdurdodau sy'n gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â'r darpariaethau Cymunedol.

    (2) Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau bod y darpariaethau Cymunedol perthnasol yn cael eu gorfodi a'u gweithredu i'r graddau y maent yn ymwneud â manwerthu cynhyrchion yn ei ardal.

    (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr a'r Bwrdd Safonau Gwin sicrhau bod y darpariaethau Cymunedol perthnasol yn cael eu gorfodi a'u gweithredu i'r graddau y maent yn ymwneud â mewnforio unrhyw un o gynhyrchion y sector gwin i Gymru o drydedd wlad neu ei allforio o Gymru i drydedd wlad.

    (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Bwrdd Safonau Gwin sicrhau bod y darpariaethau Cymunedol perthnasol yn cael eu gorfodi a'u gweithredu i'r graddau y maent yn ymwneud ag unrhyw fater sydd heb ei grybwyll ym mharagraffau (2) neu (3) uchod.

    (5) Rhaid peidio â chymryd dim yn y rheoliad hwn fel pe bai'n awdurdodi'r Bwrdd Safonau Gwin neu'r Comisiynwyr i ddwyn achos yngln â thramgwydd.

Diffinio "medium dry"
    
4. At ddibenion Erthygl 14(7)(b) o Reoliad y Comisiwn (EEC) 3201/90, fel y'i diwygiwyd, sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer disgrifio a chyflwyno gwinoedd a mystau grawnwin[17], gall gwin gael ei labelu a'i ddisgrifio fel "medium dry " os oes iddo gynnwys siwgr gweddilliol nad yw'n fwy na 18 gram am bob litr pan nad yw cyfanswm cynnwys asidedd y gwin hwnnw, o'i fynegi fel gramau o asid tartarig am bob litr, yn fwy na 10 gram am bob litr islaw ei gynnwys siwgr gweddilliol.

Amrywogaethau o winwydd
     5. At ddibenion Erthygl 19(1) a (2) o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ac Erthygl 20 o Reoliad y Comisiwn (EC) 1227/2000 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, o ran y potensial ar gyfer cynhyrchu[18], yr amrywogaethau o winwydd sydd wedi'u dosbarthu ar gyfer cynhyrchu gwin yng Nghymru yw'r rhai a bennir yn Atodlen 3, ac ymhlith y rheiny mae'r rhai na chaniateir mohonynt ar gyfer cynhyrchu gwin o safon psr yn y rhanbarthau penodedig wedi'u dynodi â seren.

Mynegiadau daearyddol ar gyfer gwin i'r bwrdd
     6.  - (1) Yn unol ag Erthygl 51(3) o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999, mae defnyddio mynegiad daearyddol i ddynodi gwin i'r bwrdd sydd wedi'i gynhyrchu mewn unrhyw ran o Gymru wedi'i wahardd oni bai bod y gwin bwrdd hwnnw wedi'i gynhyrchu - 

    (a) yn gyfan gwbl o un neu ragor o'r amrywogaethau o winwydd a bennir yn Atodlen 3, a

    (b) o rawnwin sydd wedi'u cynaeafu yn yr uned ddaearyddol y defnyddir ei henw i ddynodi'r gwin bwrdd hwnnw yn unig.

    (2) Er gwaethaf paragraff (1)(b) uchod, gall mynegiad daearyddol gael ei ddefnyddio i ddynodi gwin bwrdd a geir drwy gyfuno gwinoedd fel y'i caniateir gan Erthygl 51(2) o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 a enwyd.

    (3) Ym mharagraff (1)(b) uchod ystyr "uned ddaearyddol" yw ardal y mae ei ffiniau wedi'u nodi'n fanwl gywir sydd - 

    (a) yn rhan o Gymru; a

    (b) yn dod o fewn y diffiniad o "geographical unit which is smaller than the Member State" yn Erthygl 51(1) o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 a enwyd.

    (4) Yn ddarostyngedig i Bwynt A, paragraff 2 o Atodiad VII i Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999, rhaid peidio â defnyddio unrhyw fynegiad daearyddol heblaw enw uned ddaearyddol fel y'i pennir yn y rheoliad hwn wrth labelu neu wrth hysbysebu gwin i'r bwrdd a gynhyrchir mewn unrhyw ran o Gymru.

Pwerau swyddogion awdurdodedig
    
7.  - (1) Ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, caiff swyddog awdurdodedig fynd ar unrhyw adeg resymol i unrhyw dir neu gerbyd (heblaw unrhyw dir neu gerbyd sy'n cael eu defnyddio yn annedd yn unig), er mwyn darganfod a oes unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael neu wedi cael ei gyflawni neu a oes unrhyw dramgwydd o dan Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1993, 1994, 1995 neu 1996 wedi'i gyflawni.

    (2) Caiff swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i unrhyw dir neu gerbyd yn unol â pharagraff (1) uchod, at y diben a bennir yn y paragraff hwnnw neu er mwyn sicrhau tystiolaeth o unrhyw dramgwydd o'r fath y mae ganddo reswm dros gredu ei fod yn cael ei gyflawni, y gall fod yn cael ei gyflawni, neu ei fod wedi'i gyflawni neu y gall fod wedi'i gyflawni - 

    (a) archwilio unrhyw ddeunyddiau neu eitemau y deuir o hyd iddynt yn y tir neu'r cerbyd hwnnw neu arnynt;

    (b) yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, archwilio unrhyw gofrestr, cofnod neu ddogfen briodol - 

      (i) y mae'n ofynnol i unrhyw berson eu cadw o dan unrhyw ddarpariaeth Gymunedol berthnasol, neu

      (ii) sydd ym meddiant neu o dan reolaeth unrhyw berson,

    a chaiff gymryd copïau o unrhyw gofrestr, cofnod neu ddogfen o'r fath, neu o unrhyw eitem mewn unrhyw gofrestr, cofnod neu ddogfen o'r fath ac os oes unrhyw gofrestr, cofnod neu ddogfen o'r fath yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r gofrestr honno, y cofnod hwnnw neu'r ddogfen honno, a'u harchwilio ac edrych i weld sut y maent yn gweithio, a'i gwneud yn ofynnol i gofrestr, cofnod, dogfen neu eitem o'r fath gael eu cyflwyno mewn ffurf a all gael ei chymryd i ffwrdd;

    (c) yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, cipio a chadw unrhyw gofrestr, cofnod, dogfen neu eitem o'r fath y mae ganddo reswm dros gredu y gall fod eu hangen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn;

    (ch) llunio rhestr o gynhyrchion ac o unrhyw beth a all gael ei ddefnyddio i baratoi cynhyrchion; a

    (d) prynu unrhyw gynnyrch ac unrhyw beth a all gael eu defnyddio i baratoi unrhyw gynnyrch neu gymryd samplau ohonynt.

    (3) Caiff swyddog awdurdodedig sydd wedi sicrhau sampl o unrhyw gynnyrch ddadansoddi neu archwilio'r sampl honno neu drefnu ei dadansoddi neu ei harchwilio.

    (4) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i unrhyw dir neu gerbyd yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw bersonau eraill gydag ef y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol.

    (5) Ni fydd gan swyddog awdurdodedig hawl o dan baragraff (2)(b) neu (c) uchod i archwilio, copïo, cipio neu gadw unrhyw gofnod neu ddogfen i'r graddau y mae'r cofnod neu'r ddogfen - 

    (a) yn eitem sy'n destun braint gyfreithiol o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 [19],

    (b) yn ddeunydd eithriedig o fewn ystyr adran 11 o'r Ddeddf honno, neu

    (c) yn ddeunydd gweithdrefn arbennig o fewn ystyr adran 14 o'r Ddeddf honno.

Rheoli symud
     8.  - (1) Pan fydd swyddog awdurdodedig yn archwilio unrhyw gynnyrch sector gwin, caiff wahardd ei symud os oes ganddo reswm dros gredu bod tramgwydd wedi'i gyflawni, wrthi'n cael ei gyflawni neu'n debyg o gael ei gyflawni mewn perthynas ag ef drwy dorri unrhyw ddarpariaeth Gymunedol berthnasol y cyfeirir ati yng ngholofnau 1 neu 2 o Ran I, II, III, V neu IX o Atodlen 2, neu drwy fethu â chydymffurfio â hi, a bod yna risg neu ei bod yn debyg y bydd yna risg i iechyd y cyhoedd mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw neu fod y cynnyrch hwnnw wedi'i drin yn dwyllodrus neu'n debyg o gael ei drin yn dwyllodrus.

    (2) Rhaid i swyddog sy'n arfer y p er a roddir gan baragraff (1) uchod, heb oedi, roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal y cynnyrch sector gwin o dan sylw - 

    (a) yn pennu'r cynnyrch sector gwin y mae'r p er wedi'i arfer mewn perthynas ag ef;

    (b) yn datgan na ellir symud y cynnyrch sector gwin heb gydsyniad ysgrifenedig swyddog awdurdodedig;

    (c) yn pennu'r ddarpariaeth Gymunedol y mae ganddo reswm dros gredu bod tramgwydd wedi'i gyflawni, wrthi'n cael ei gyflawni neu'n debyg o gael ei gyflawni mewn perthynas â hi; ac

    (ch) yn pennu a yw o'r farn y byddai'n ymarferol cymryd camau i'w berswadio nad oes ganddo reswm dros y gred honno mwyach ac, os felly, beth ddylai'r camau hynny fod.

    (3) Pan fydd hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) uchod yn cael ei roi gan swyddog awdurdodedig o'r Bwrdd Safonau Gwin, rhaid i'r hysbysiad hwnnw gynnwys gwybodaeth hefyd am hawl y derbynnydd, a roddir gan reoliad 10, i gael adolygu rhoi'r hysbysiad hwnnw, ac ynghylch sut y gellir arfer yr hawl honno, ac effaith arfer yr hawl honno.

    (4) Os nad yw'n ymddangos i'r swyddog mai'r person y mae'n rhoi'r hysbysiad iddo yw perchennog y cynnyrch sector gwin o dan sylw nac ychwaith ei fod yn asiant, yn gontractiwr neu'n gyflogai i'r perchennog, rhaid i'r swyddog wneud ei orau glas i dynnu sylw person o'r fath at gynnwys yr hysbysiad hefyd cyn gynted â phosibl.

    (5) Caiff swyddog awdurdodedig osod labeli sy'n rhybuddio bod y p er a roddir gan baragraff(1) uchod wedi'i arfer mewn perthynas ag ef, neu ar unrhyw gynhwysydd y mae'r cynnyrch sector gwin wedi'i bacio ynddo.

    (6) Rhaid i swyddog awdurdodedig sydd wedi'i fodloni bod y camau a bennir yn yr hysbysiad o dan baragraff 2(ch) uchod wedi'u cymryd ddileu'r gwaharddiad ar symud a roddwyd yn unol â pharagraff (1) uchod ar unwaith.

Cydsyniad ar gyfer symud
    
9.  - (1) Caiff swyddog awdurdodedig roi cydsyniad ysgrifenedig, ar unrhyw adeg, i symud cynnyrch sector gwin a reolir.

    (2) Pan wneir cais, rhaid i swyddog awdurdodedig roi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer symud cynnyrch sector gwin a reolir os yw ef, neu swyddog awdurdodedig arall, wedi cael ymrwymiad ysgrifenedig i'r perwyl - 

    (a) y caiff y cynnyrch sector gwin ei symud i le a gymeradwywyd gan swyddog awdurdodedig; a

    (b) na chaiff y cynnyrch sector gwin ei symud o'r lle hwnnw heb gydsyniad ysgrifenedig swyddog awdurdodedig.

    (3) Rhaid i gydsyniad a roddir gan swyddog awdurdodedig o dan y rheoliad hwn - 

    (a) pennu'r cynnyrch sector gwin y mae'n ymwneud ag ef; a

    (b) datgan bod y cynnyrch sector gwin yn parhau i fod o dan reolaeth.

    (4) Rhaid i swyddog awdurdodedig o'r Bwrdd Safonau Gwin y gofynnwyd iddo roi cydsyniad o dan y rheoliad hwn, ac sy'n gwrthod gwneud hynny, gyfleu'r gwrthodiad hwnnw yn ysgrifenedig ynghyd â hysbysiad ysgrifenedig o'r hawl, a roddir gan reoliad 10, i gael adolygu'r gwrthodiad hwnnw, ac esboniad ynghylch sut y gellir arfer yr hawl honno ac effaith arfer yr hawl honno.

Adolygu hysbysiadau a gwrthodiadau ar symud cynhyrchion sector gwin
    
10.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os oes swyddog awdurdodedig o'r Bwrdd Safonau Gwin - 

    (a) wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 8(2) i berson y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal cynnyrch sector gwin; neu

    (b) wedi gwrthod rhoi cydsyniad o dan reoliad 9 ar gyfer symud cynnyrch sector gwin a reolir.

    (2) Caiff person y mae'r hysbysiad neu'r gwrthodiad wedi'i roi iddo wneud cais ysgrifenedig i Brif Weithredwr y Bwrdd Safonau Gwin iddo yntau adolygu rhoi'r hysbysiad neu'r gwrthodiad.

    (3) Pan gaiff Prif Weithredwr y Bwrdd Safonau Gwin gais am adolygu hysbysiad neu wrthodiad, rhaid iddo adolygu'r hysbysiad neu'r gwrthodiad a chyfleu ei benderfyniad ar yr adolygiad o fewn 14 diwrnod ar ôl cael y cais.

    (4) Os bydd person yn anfodlon ar benderfyniad Prif Weithredwr y Bwrdd Safonau Gwin ar adolygiad caiff wneud cais ysgrifenedig i Gadeirydd y Bwrdd Safonau Gwin am adolygiad pellach gan y Bwrdd Safonau Gwin o roi'r hysbysiad neu o'r gwrthodiad.

    (5) Pan gaiff gais o'r fath, os yw wedi'i fodloni nad oes modd cyfiawnhau penderfyniad y swyddog awdurdodedig i roi'r hysbysiad neu i wrthod y cydsyniad, rhaid i'r Bwrdd Safonau Gwin beri tynnu'r hysbysiad yn ôl neu, yn ôl fel y digwydd, roi cydsyniad ar gyfer symud y cynnyrch sector gwin a reolir o dan sylw.

    (6) Bydd y weithdrefn a'r cworwm ar gyfer cyfarfod o'r Bwrdd Safonau Gwin sy'n ystyried cais o dan y rheoliad hwn yn gyfryw ag y bydd yn penderfynu arnynt.

Swyddog awdurdodedig yn gweithredu'n ddidwyll
    
11.  - (1) Ni fydd swyddog awdurdodedig yn atebol yn bersonol mewn perthynas ag unrhyw weithred a gyflawnir wrth arfer neu drwy arfer honedig o'r Rheoliadau hyn ac o fewn cwmpas ei gyflogaeth - 

    (a) os bu iddo, mewn perthynas â gweithred a gyflawnwyd ganddo, gyflawni'r weithred honno gan gredu'n onest fod y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo ei chyflawni neu'n rhoi p er iddo ei chyflawni, a

    (b) os oedd yn credu'n onest, mewn perthynas â gweithred gan berson a oedd yn cyd-fynd ag ef ac yn gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau, fod y Rheoliadau hyn yn rhoi p er iddo gyfarwyddo'r person hwnnw i'w chyflawni.

    (2) Ni fydd person sy'n cyd-fynd â swyddog awdurdodedig yn atebol yn bersonol mewn perthynas ag unrhyw weithred a gyflawnir ganddo wrth arfer neu drwy arfer honedig i'r Rheoliadau hyn - 

    (a) os cyflawnodd y weithred honno ar gyfarwyddiadau'r swyddog awdurdodedig, a

    (b) os oedd yn credu'n onest fod y Rheoliadau hyn yn rhoi p er i'r swyddog awdurdodedig roi'r cyfarwyddiadau hynny iddo.

    (3) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1) uchod fel pe bai'n rhyddhau awdurdod gorfodi rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion awdurdodedig.

    (4) Os oes achos wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog awdurdodedig mewn perthynas â gweithred a gyflawnwyd ganddo wrth arfer neu drwy arfer honedig o'r Rheoliadau hyn a bod yr amgylchiadau'n golygu nad oes ganddo hawl gyfreithiol i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gorfodi ei indemnio, er hynny, fe gaiff yr awdurdod ei indemnio yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal a chostau, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni ei fod yn credu'n onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth a bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo ei chyflawni neu'n rhoi hawl iddo ei chyflawni.

Y p er i fynnu dadansoddiad neu archwiliad
    
12.  - (1) Os yw'n credu bod hynny'n addas at ddibenion yr achos, caiff y llys y dygir unrhyw achos ger ei fron ynglyn â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn beri i unrhyw eitem sy'n destun yr achos, ac sydd, os yw eisoes wedi'i dadansoddi neu wedi'i harchwilio, yn gallu cael ei dadansoddi neu ei harchwilio ymhellach, gael ei hanfon at ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd, a fydd yn gwneud unrhyw ddadansoddi neu archwilio sy'n briodol gan drosglwyddo i'r llys dystysgrif o ganlyniad y dadansoddi neu'r archwilio, a chaiff costau'r dadansoddi neu'r archwilio eu talu gan yr erlynydd neu gan y person a gyhuddir yn unol â gorchymyn y llys.

    (2) Mewn achos y dygir apêl ynddo, os nad oes camau wedi'u cymryd o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwn mewn perthynas ag eitem benodol, bydd darpariaethau paragraff (1) yn gymwys yngln â'r eitem honno mewn perthynas â'r llys sy'n gwrando'r apêl.

    (3) Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniadau dadansoddiad neu archwiliad sydd, yng nghwrs achos, yn cael ei throsglwyddo gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan y rheoliad hwn, gael ei llofnodi gan y dadansoddydd bwyd hwnnw neu'r archwilydd bwyd hwnnw, ond gall y dadansoddi neu'r archwilio gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan gyfarwyddwyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.

    (4) Mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn, bydd trosglwyddo - 

    (a) dogfen sy'n ymhonni bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd; neu

    (b) dogfen a roddwyd i un o'r partïon gan y parti arall fel pe bai'n gopi o dystysgrif o'r fath, i'r llys o dan y rheoliad hwn, neu ei chyflwyno gan un o'r partïon yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau a ddatgenir ynddi oni bai bod unrhyw barti i'r achos yn ei gwneud yn ofynnol i'r person a lofnododd y dystysgrif gael ei alw yn dyst.



RHAN III

GWINOEDD O SAFON A GYNHYRCHIR MEWN RHANBARTHAU PENODEDIG

Y rhanbarthau penodedig
    
13.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, y rhanbarthau a ddisgrifir yn Atodlen 4, yw'r rhanbarthau penodedig yng Nghymru at ddibenion Pwynt A o Atodiad VI i Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999.

    (2) Hepgorir o'r ardaloedd a ddisgrifir yn Atodlen 4 unrhyw dir sydd wedi'i leoli ar uchder o fwy na 220 metr uwchlaw lefel y môr.

Cryfder alcoholaidd naturiol gofynnol
    
14. Chwech y cant fydd cryfder alcoholaidd naturiol gofynnol gwinoedd o safon psr a gynhyrchir yn y rhanbarthau penodedig.

Awdurdodiad o dan Bwynt D, paragraff 3, o Atodiad VI i Reoliad 1493/1999
    
15. Er gwaethaf darpariaethau Pwynt D, paragraff 1(b), o Atodiad VI i Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999, sy'n ei gwneud yn ofynnol bod grawnwin yn cael eu prosesu'n fwst a bod y mwst hwnnw'n cael ei brosesu'n win yn ogystal â bod y gwin hwnnw'n cael ei gynhyrchu o fewn y rhanbarth penodedig lle cafodd y grawnwin a ddefnyddiwyd eu cynaeafu, gall gwin o safon psr gael ei gynhyrchu mewn ardal sydd yn union gyfagos at ranbarth penodedig.

Uchafswm cynnyrch
    
16. At ddibenion Pwynt I, paragraff 1, o Atodiad VI i Reoliad 1493/1999, 100 hectolitr fydd yr uchafswm cynnyrch am bob hectar o dir y tyfir gwinwydd arno i gynhyrchu gwinoedd o safon psr yn y rhanbarthau penodedig.

Prawf dadansoddol
    
17. At ddibenion Pwynt J, paragraff 1(a), o Atodiad VI i Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 - 

    (a) mesuriad o bob un o'r ffactorau a bennir yn Atodlen 5 mewn perthynas â'r gwin hwnnw fydd y prawf dadansoddol i ddarganfod a yw unrhyw win yn gymwys i'w ddynodi yn win o safon psr; a

    (b) dim ond os yw'n bodloni pob safon a bennir yn yr Atodlen honno y bydd gwin yn gymwys fel hyn.

Dynodi corff cymwys
    
18. At ddibenion Erthygl 56 o Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 10 a 12 o Reoliad y Comisiwn (EC) 1607/2000 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd -drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol y Teitl sy'n ymwneud â gwin o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig[20], mae'r Bwrdd Safonau Gwin drwy hyn yn cael ei ddynodi fel y corff cymwys y cyfeirir ato yn yr Erthyglau hynny.



RHAN IV

TRAMGWYDDO A CHOSBI

Tramgwyddo a chosbi
     19.  - (1) Os bydd unrhyw berson yn torri rheoliad 6 neu unrhyw rwymedigaeth a gynhwysir mewn unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol perthnasol y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 neu 2 o Rannau I, II, III, V neu IX o Atodlen 2, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored - 

    (a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol; neu

    (b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

    (2) Os bydd unrhyw berson - 

    (a) yn torri unrhyw rwymedigaeth neu amod a gynhwysir mewn unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol perthnasol y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 neu 2 o Rannau IV, VI, VII neu VIII o Atodlen 2, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, neu

    (b) yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth a gafwyd ganddo yn unol â'i ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn, oni bai bod y datgelu'n cael ei wneud wrth iddo ef neu unrhyw berson arall gyflawni unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, at ddibenion hynny, neu yn unol â rhwymedigaeth Gymunedol,bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Symud cynnyrch sector gwin a reolir
    
20.  - (1) Bydd unrhyw berson sydd, gan wybod bod cynnyrch sector gwin yn gynnyrch sector gwin a reolir - 

    (a) yn ei symud, neu

    (b) yn peri ei symud, heb gydsyniad ysgrifenedig swyddog awdurdodedig, yn euog o dramgwydd.

    (2) Bydd unrhyw berson sydd, gan wybod bod cynnyrch sector gwin yn gynnyrch sector gwin a reolir - 

    (a) yn tynnu label oddi arno, neu

    (b) yn peri tynnu label oddi arno, a hwnnw'n label sydd wedi'i osod o dan reoliad 8(5), yn euog o dramgwydd.

    (3) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag ymrwymiad a roddwyd ganddo at ddibenion rheoliad 9(2) yn euog o dramgwydd.

    (4) Bydd yn amddiffyniad i berson a gyhuddir o unrhyw dramgwydd o dan y rheoliad hwn brofi - 

    (a) nad oedd dim tramgwydd wedi'i gyflawni, wrthi'n cael ei gyflawni neu'n debyg o gael ei gyflawni mewn perthynas â'r cynnyrch sector gwin o dan sylw pan arferwyd y p er a roddir gan reoliad 8(1); a

    (b) bod yna esgus rhesymol dros y weithred neu'r diffyg gweithred y mae'r person wedi'i gyhuddo mewn perthynas â hwy.

    (5) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Rhwystro
    
21. Bydd unrhyw berson sydd - 

    (a) yn fwriadol yn rhwystro swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu i arfer y Rheoliadau hyn; neu

    (b) yn methu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i unrhyw swyddog o'r fath neu â darparu unrhyw gyfleusterau y mae'n rhesymol i'r swyddog hwnnw ofyn iddo eu darparu at ddibenion ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Tramgwyddau gan swyddogion cyrff corfforaethol
    
22.  - (1) Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu unhryw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

    (2) Pan fydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys i weithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr i'r corff corfforaethol.

Amddiffyniad diwydrwydd dyladwy
    
23. Mewn unrhyw achos ynglyn â thramgwydd o dan reoliad 19 neu 21(b), bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ganddo ef ei hun neu gan berson o dan ei reolaeth.

Tramgwyddau o dan Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1993, 1994, 1995 neu 1996
    
24. Os oes tramgwydd o dan unrhyw un o Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1993, 1994, 1995 neu 1996 wedi'i gyflawni, er bod y Rheoliadau hynny wedi'u diddymu, bydd modd ei gosbi yn unol â thelerau'r Rheoliadau hynny.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
21].


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2001



ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)


Y DARPARIAETHAU CYMUNEDOL


Y mesurau sy'n cynnwys y darpariaethau Cymunedol Cofnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd: Y cyfeiriad
     1. Rheoliad y Comisiwn (EEC) 1135/70 ynghylch hysbysu plannu ac ailblannu gwinwydd er mwyn rheoli datblygu plannu

OJ Rhif L134, 17.6.70, t.2 (OJ/SE 1970(II)t.379)
     2. Rheoliad y Cyngor (EEC) 357/79 ynghylch yr arwynebeddau ystadegol sydd o dan winwydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) 2329/98 (OJ Rhif L291, 31.10.98, t.2)

OJ Rhif L54, 5.3.79, t.124
     3. Deddf ynghylch amodau derbyn Gweriniaeth Groeg a'r addasiadau i'r Cytuniadau yn diwygio amrywiol Reoliadau ynghylch gwin yn sgil derbyn Groeg, a lofnodwyd ar 28 Mai 1979

OJ Rhif L291, 19.11.79, t.17
     4. Rheoliad y Comisiwn (EEC) 3388/81 yn nodi rheolau manwl arbennig mewn perthynas â thrwyddedau mewnforio ac allforio yn y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1351/97 (OJ Rhif L186, 16.7.97, t.5)

OJ Rhif L341, 28.11.81, t.19
     5. Rheoliad y Comisiwn (EEC) 1907/85 ar y rhestr o amrywogaethau o winwydd a'r rhanbarthau sy'n darparu gwin wedi'i fewnforio ar gyfer gwneud gwinoedd pefriol yn y Gymuned

OJ Rhif L179, 11.7.85, t.21
     6. Deddf ynghylch amodau ymuno Teyrnas Sbaen a Gweriniaeth Portiwgal a'r addasiadau i'r Cytuniadau, a lofnodwyd ar 12 Mehefin 1985

OJ Rhif L302, 15.11.85, t.23
     7. Rheoliad y Comisiwn (EEC) 3590/85 ar y dystysgrif a'r adroddiad ar y dadansoddiad sy'n angenrheidiol ar gyfer mewnforio gwin, sudd grawnwin a mwst grawnwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 960/98 (OJ Rhif L135, 8.5.98, t.4)

OJ Rhif L343, 20.12.85, t.20
     8. Rheoliad y Cyngor (EEC) 3805/85 yn addasu Rheoliadau penodol ynghylch y sector gwin, oherwydd ymuno Sbaen a Phortiwgal

OJ Rhif L367, 31.12.85, t.39
     9. Rheoliad y Cyngor (EEC) 2392/86 yn sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) 1631/98 (OJ Rhif L210, 28.7.98, t.14)[22].

OJ Rhif L208, 31.7.86, t.1
     10. Rheoliad y Comisiwn (EEC) 649/87 yn nodi rheolau manwl ar gyfer sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EEC) 1097/89 (OJ Rhif L116, 28.4.89, t.20)

OJ Rhif L62, 5.3.87, t.10
     11. Rheoliad y Comisiwn (EEC) 2676/90 yn pennu dulliau Cymunedol ar gyfer dadansoddi gwinoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1622/2000 (OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.1)

OJ Rhif L272, 3.10.90, t.1
     12. Rheoliad y Comisiwn (EEC) 3201/90 yn nodi rheolau manwl ar gyfer disgrifio a chyflwyno gwinoedd a mystau grawnwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 2770/98 (OJ Rhif L346, 22.12.98, t.25)

OJ Rhif L309, 8.11.90, t.1
     13. Rheoliad y Cyngor (EEC) 1601/91 yn nodi rheolau cyffredinol ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) 2061/96 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L277, 30.10.96, t.1)

OJ Rhif L149, 14.6.91, t.1
     14. Rheoliad y Comisiwn (EEC) 3901/91 yn nodi rheolau manwl penodol ar ddisgrifio a chyflwyno gwinoedd arbennig

OJ Rhif L368, 31.12.91, t.15
     15. Rheoliad y Comisiwn (EEC) 2009/92 yn pennu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer ethyl alcohol o darddiad amaethyddol a ddefnyddir i baratoi diodydd gwirodydd, gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru

OJ Rhif L203, 21.7.92, t.10
     16. Penderfyniad y Cyngor 93/722/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd

OJ Rhif L337, 31.12.93, t.11
     17. Penderfyniad y Cyngor 93/723/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Hwngari ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd

OJ Rhif L337, 31.12.93, t.83
     18. Penderfyniad y Cyngor 93/726/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Romania ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd

OJ Rhif L337, 31.12.93, t.177
     19. Rheoliad y Comisiwn (EEC) 2238/93 ar y dogfennau sydd i gyd-fynd â chynhyrchion gwin wrth iddynt gael eu cludo ac ar y cofnodion perthnasol sydd i gael eu cadw

OJ Rhif L200, 10.8.93, t.10; cywiriad yn OJ Rhif L301, 8.12.93, t.29
     20. Rheoliad y Comisiwn (EC) 122/94 yn nodi rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) 1601/91 ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru, a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru

OJ Rhif L21, 26.1.94, t.7
     21. Penderfyniad y Cyngor 94/184/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Awstralia ar gyd- ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd

OJ Rhif L86, 24.1.94, t.1
     22. Rheoliad y Comisiwn (EC) 554/95 yn nodi rheolau manwl ar gyfer disgrifio gwinoedd pefriol a gwinoedd pefriol awyredig, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1915/96 (OJ Rhif L252, 4.10.96, t.10)

OJ Rhif L56, 14.3.95, t.3
     23. Rheoliad y Comisiwn (EC) 1294/96 yn nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) 822/87 o ran cynaeafu, cynhyrchu a datganiadau stoc ynghylch cynhyrchion sector gwin, fel y'i cywirwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) 2050/96 (OJ Rhif L274, 26.10.96, t.17, ac fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) 225/97 (OJ Rhif L37, 7.2.97, t.1)

OJ Rhif L166, 5.7.96, t.14
     24. Rheoliad y Comisiwn (EC) 881/98 yn nodi rheolau manwl ar gyfer diogelu termau ychwanegol a ddefnyddir i ddynodi mathau penodol o win o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodol (gwin o safon psr), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1608/2000 (OJ Rhif L185, 25.7.2000, t.24) a ddiwigiwyd ei hunan gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 491/2001.

OJ Rhif L124, 25.4.98, t.22
     25. Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd drefniadaeth y farchnad mewn gwin

OJ Rhif L179, 14.7.1999, t.1
     26. Rheoliad y Comisiwn (EC) 1227/2000 yn nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol ar y potensial ar gyfer cynhyrchu

OJ Rhif L143, 16.6.2000, t.1
     27. Rheoliad y Comisiwn (EC) 1607/2000 yn nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol y Teitl sy'n ymwneud â gwin o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig

OJ Rhif L185, 25.7.2000, t.17
     28. Rheoliad y Comisiwn (EC) 1622/2000 yn nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin ac yn sefydlu côd Cymunedol o arferion a phrosesau gwinyddol

OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.1
     29. Rheoliad y Comisiwn (EC) 1623/2000 yn nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin o ran mecanweithiau'r farchnad fel y diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 545/2001.

OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.45
     30. Rheoliad y Comisiwn (EC) 2729/2000 yn nodi rheolau manwl ar ddulliau rheoli yn y sector gwin

OJ Rhif L316, 15.12.2000, t. 16



ATODLEN 2
Rheoliadau 2(1) a 19


Y DARPARIAETHAU CYMUNEDOL PERTHNASOL




RHAN I

DOGFENNAU A CHOFNODION

(1) (2) (3)
Y darpariaethau Cymunedol perthnasol Darpariaethau ategol Y pwnc
     1. Rheoliad 1493/99: Erthyglau 68(1) a 70

Rheoliad 3590/85: Erthyglau 3, 4 a 5; Rheoliad 2238/93: pob Erthgl ac eithrio 3(3), 7(1), 7(2), 7(3), 7(5), 7(6), 9, 18, 20, 21 a 22 Gofynion sy'n ymwneud â dogfennau a chofnodion sydd i gyd-fynd â chynhyrchion gwin
     2. Rheoliad 1623/2000: Erthygl 7(3)(a), (4), (5), (6) a (7)

     Gofynion sy'n ymwneud ag anfon dogfennau a chadw cyfrifon stoc ayb. gan ddefnyddwyr sudd grawnwin



RHAN II

GWINOEDD O SAFON A GYNHYRCHIR MEWN RHANBARTHAU PENODEDIG

(1) (2) (3)
Y darpariaethau Cymunedol perthnasol Darpariaethau ategol Y pwnc
     1. Rheoliad 1493/1999: Erthyglau 19(3), (4) a (5) a 42(5) ac Atodiad VI, pwynt B

     Cyfyngiadau ar ddefnyddio amrywogaethau penodol o winwydd
     2. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VI, pwynt C

     Darpariaethau sy'n ymwneud â dulliau tyfu gwin a dyfrio
     3. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VI, pwynt D

Rheoliad 1607/2000: Erthygl 2 Gofyniad bod gwin o safon psr yn cael ei gynhyrchu o amrywogaethau penodedig o winwydd ac mewn rhanbarthau penodedig; gofynion sy'n ymwneud â phrosesau ar wahân ar gyfer gwneud gwin o safon psr a'i storio
     4. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VI, pwynt E

     Cryfder alcoholaidd naturiol gofynnol ar gyfer gwin o safon psr
     5. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VI, pwynt F

Rheoliad 1607/2000: Erthygl 3 ac Atodiad I Y dulliau gwinwyddo a gweithgynhyrchu a chyfoethogi a ganiateir; cyfanswm gofynnol cryfder alcoholaidd gwin o safon psr
     6. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VI, pwynt G

     Amodau ar gyfer asideiddio, dad -  asideiddio a melysu gwin o safon psr
     7. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VI, pwynt H

     Amodau ar gyfer cyflawni prosesau awdurdodedig
     8. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VI, pwynt I

     Gwahardd defnyddio dynodiad os eir y tu hwnt i'r cynnyrch rhagnodedig am bob hectar
     9. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VI, pwynt J

     Gofyniad i gyflwyno gwin o safon psr ar gyfer profion dadansoddol a gwinwyddol
     10. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VI, pwynt K

Rheoliad 1607/2000: Erthygl 7 ac Atodiad IV Amodau ar gyfer gwin pefriol o safon psr
     11. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VI, pwynt L

Deddf Ymuno Teyrnas Sbaen a Gweriniaeth Portiwgal: Erthygl 129 Rheoliad 1607/2000: Erthyglau 4, 5 a 6 ac Atodiad II ac Atodiad Darpariaethau cyffredinol sy'n ymwneud â defnyddio ymadroddion a thermau a ddefnyddir yn draddodiadol gan yr Aelod -  wladwriaethau i ddynodi gwinoedd penodol o safon



RHAN III

DISGRIFIO A CHYFLWYNO

(1) (2) (3)
Y darpariaethau Cymunedol perthnasol Darpariaethau ategol Y pwnc
     1. Rheoliad 1493/1999: Erthyglau 48 a 49 ac Atodiad VII

Rheoliad 3201/90: pob Erthygl ac eithrio 28 a 29; fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 2770/98 Rheolau cyffredinol a gofynion penodol sy'n ymwneud â disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol heblaw gwinoedd pefriol heblaw
     2. Rheoliad 1493/1999: Erthyglau 48 a 49 ac Atodiad VIII

Rheoliad 554/95: pob Erthygl ac eithrio 11 a 12; fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1915/96 Rheolau cyffredinol a gofynion penodol sy'n ymwneud â disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu gwinoedd pefriol
     3. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 51

     Rheolau cyffredinol sy'n ymwneud â defnyddio mynegiadau daearyddol ar gyfer gwin i'r bwrdd
     4. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VIII, pwynt G

     Gwahardd defnyddio capsiwlau neu ffoiliau sydd wedi'u seilio ar blwm ar winoedd pefriol neu winoedd pefriol awyredig



RHAN IV

CYNHYRCHU A RHEOLI PLANNU

(1) (2) (3)
Y darpariaethau Cymunedol perthnasol Darpariaethau ategol Y pwnc
     1. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 18

Rheoliad 1294/96; fel y'i cywirwyd gan Reoliad 2050/96 ac fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 225/97 Cynaeafu, cynhyrchu a datganiadau stoc
     2. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 19(3)

     Cyfyngiadau ar ddefnyddio amrywogaethau penodol o winwydd
     3. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 19(4)

     Gofyniad i ddiwreiddio amrywogaethau diddosbarth o winwydd



RHAN V

PROSESAU A GWEITHDREFNAU GWINYDDOL , A'R AMODAU AR GYFER RHYDDHAU I'R FARCHNAD

(1) (2) (3)
Y darpariaethau Cymunedol perthnasol Darpariaethau ategol Y pwnc
     1. Rheoliad 3590/85: Erthygl 8(1)

     Amodau ar gyfer rhyddhau cynhyrchion sy'n tarddu o drydydd gwledydd i bobl eu hyfed
     2. Rheoliad 1493/1999: Atodiad V, pwyntiau C a D

Rheoliad 1622/2000: Erthyglau 22, 23, 25, 27, 28 a 29 ac Atodiad XVI Amodau ar gyfer cynyddu cryfder alcoholaidd
     3. Rheoliad 1493/1999: Atodiad V, pwynt E; Atodiad VI, pwyntiau G ac H

Rheoliad 1622/2000: Erthyglau 26, 27, 28 a 29 ac Atodiad XVI Amodau ar gyfer asideiddio a dadasideiddio gwin
     4. Rheoliad 1493/1999: Atodiad V, pwynt F; Atodiad VI, pwyntiau G ac H

Rheoliad 1622/2000: Erthyglau 30, 31 a 32 Amodau ar gyfer melysu gwin
     5. Rheoliad 1493/1999: Atodiad V, pwynt G

Rheoliad 1622/2000: Erthyglau 25, 26, 28 a 29 ac Atodiad XVI Amodau ar gyfer cyflawni prosesau awdurdodedig (gan gynnwys hysbysu a
     6. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 44(12)

     Cyfyngiad ar droi cynhyrchion penodol yn win neu eu hychwanegu at win
     7. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 27(1) a (2)

     Gwahardd gorwasgu grawnwin a gwasgu gwaddod gwin
     8. Rheoliad 1493/1999: Erthyglau 42(3) a 67

Rheoliad 1622/2000: Erthygl 39 Ychwanegu alcohol
     9. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 42(5)

Rheoliad 1622/2000: Erthygl 2 Yr amrywogaethau o rawnwin sydd i'w defnyddio wrth wneud gwin
     10. Rheoliad 1493/1999: Erthyglau 42(6) a 44(14)

Rheoliad 1622/2000: Erthyglau 34, 35 a 36 Dulliau a ganiateir ar gyfer cynhyrchu gwin drwy gyfuno
     11. Rheoliad 1493/1999: Atodiad V, pwynt A

Rheoliad 1622/2000: Erthygl 19 ac Atodiad XII Uchafswm y sylffwr diocsid y caniateir ei gynnwys mewn gwin
     12. Rheoliad 1493/2000: Atodiad V, pwynt B

Rheoliad 1622/2000: Erthygl 20 ac Atodiad XIII Uchafswm yr asid anweddol y caniateir ei gynnwys
     13. Rheoliad 1493/1999: Erthyglau 42(1), (2) a (3) a 43 ac Atodiad IV ac Atodiad V

Rheoliad 1622/2000: Erthygl 5 ac Atodiad IV

Erthygl 6 ac Atodiad V

Erthygl 7 ac Atodiad VI

Erthyglau 8 a 9

Erthygl 10 ac Atodiad VII

Erthygl 11 ac Atodiad VIII

Erthygl 12 ac Atodiad IX

Erthyglau 13, 14 a 15

Erthygl 16 ac Atodiad X

Erthygl 17 ac Atodiad XI

Erthygl 18

Arferion a phrosesau gwinyddol awdurdodedig
     14. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 44(1)

Rheoliad 1622/2000: Erthygl 43 Gwin y gellir ei gynnig neu ei ddanfon i bobl ei yfed yn uniongyrchol
     15. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 44(2) - (11)

Rheoliad 1622/2000: Erthygl 3 ac Atodiad II Cyfyngiadau sy'n ymwneud â gwinoedd penodol a chynhyrchion eraill sy'n tarddu o'r Gymuned
     16. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 44(12) a (13)

     Cyfyngiad ar ddefnyddio cynhyrchion sy'n tarddu o drydydd gwledydd
     17. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 45(1)

     Rheolau cyffredinol sy'n ymwneud â chynnig neu waredu cynnyrch penodol i bobl eu hyfed yn uniongyrchol
     18. Rheoliad 1493/1999: Erthygl 46(3)

Rheoliad 2676/90; fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1622/2000 Dulliau Cymunedol ar gyfer dadansoddi gwinoedd
     19. Rheoliad 1493/1999: Atodiad V, pwyntiau H ac I; Atodiad VI, Pwynt K

Rheoliad 1622/2000: Erthygl 4 ac Atodiad III

Erthygl 24

Rheolau ar gyfer cynhyrchu gwinoedd pefriol a'u marchnata
     20. Rheoliad 1493/1999: Atodiad IV

Rheoliad 1622/2000: Erthygl 5 ac Atodiad IV

Erthygl 43

Gyfyngiadau sy'n ymwneud â dal gwinoedd an-ffit a defnyddio sylweddau gwinyddol
     21. Rheoliad 1493/1999: Atodiad V, pwynt J; Atodiad VI, pwynt L

Rheoliad 1622/2000: Erthygl 33

Erthygl 37 ac Atodiad XVII

Erthygl 38 ac Atodiad XVIII

Rheolau ar gyfer paratoi gwinoedd licar sy'n cael eu cynhyrchu yn y Gymuned a'u marchnata



RHAN VI

MANYLEB

(1) (2) (3)
Y darpariaethau Cymunedol perthnasol Darpariaethau ategol Y pwnc
     1. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VII, pwynt C, paragraff 1(b)

     Defnyddio'r term "table wine"
     2. Rheoliad 1493/1999: Atodiad VII, pwynt C, paragraff 1(a)

     Defnyddio'r term "wine"



RHAN VII

COFRESTR GWINLLAN

(1) (2) (3)
Y darpariaethau Cymunedol perthnasol Darpariaethau ategol Y pwnc
     1. Rheoliad 2392/86: Erthygl 3(2)

Rheoliad 649/87 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1097/89 Sefydlu cofrestr gwinllannoedd



RHAN VIII

AROLYGIAD CYMUNEDOL

(1) (2) (3)
Y darpariaethau Cymunedol perthnasol Darpariaethau ategol Y pwnc
     1. Rheoliad 2729/2000: Erthyglau 6, 7(4) a 19

Rheoliad 2009/92 Hwyluso dulliau rheoli gan swyddogion a'u pwerau gan gynnwys dadansoddi at ddibenion Cymunedol



RHAN IX

GWINOEDD WEDI'U PERSAWRU

(1) (2) (3)
Y darpariaethau Cymunedol perthnasol Darpariaethau ategol Y pwnc
     1. Rheoliad 1601/91: Erthyglau 2, 3 a 4 fel y'u diwygiwyd gan Reoliad 3279/92:

Rheoliad 2009/92

Rheoliad 122/94

Rheolau cyffredinol a gofynion penodol sy'n ymwneud â disgrifio, cyflwyno a pharatoi gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru
     2. Rheoliad 1601/91: Erthygl 5

     Arferion a phrosesau gwinyddol a ganiateir
     3. Rheoliad 1601/91: Erthygl 6

     Cyfyngiadau ar ddefnyddio disgrifiadau
     4. Rheoliad 1601/91: Erthygl 7

     Cyfyngiadau ar ddisgrifio a gwerthu diodydd wedi'u persawru
     5. Rheoliad 1601/91: Erthygl 8

     Rheolau cyffredinol sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru
     6. Rheoliad 1601/91: Erthygl 10

     Goruchwylio a diogelu diodydd wedi'u persawru sy'n tarddu o drydydd gwledydd
     7. Rheoliad 1601/91: Erthygl 11

     Allforio gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru



ATODLEN 3
Rheoliadau 5 a 6(1)(a)


AMRYWOGAETHAU O WINWYDD SYDD WEDI'U DOSBARTHU AR GYFER CYNHYRCHU GWIN YNG NGHYMRU


Enw'r amrywogaeth Enw cyfystyr Lliw'r grawnwin
Auxerrois      Gwyn
Bacchus      Gwyn
*Cascade Seibel 13/053 Du
Chardonnay      Gwyn
Chasselas Gutedal Gwyn
Dornfelder      Du
Dunkelfelder      Du
Ehrenfelser      Gwyn
Faberrebe      Gwyn
Findling      Gwyn
Gutenborner      Gwyn
Huxelrebe      Gwyn
Kerner      Gwyn
Kernling      Gwyn
Kanzler      Gwyn
*Léon Millot      Du
Madeleine angevine 7672 Madeleine angevine Gwyn
Madeleine Royale      Gwyn
Madeleine sylvaner III Madeleine sylvaner Gwyn
28/51Mariensteiner      Gwyn
Müller-Thurgau Rivaner Gwyn
Optima      Gwyn
*Orion      Gwyn
Ortega      Gwyn
*Perle of Alzey Perle Gwyn
*Phoenix      Gwyn
Pinot blanc Weissburgunder Gwyn
Pinot meunier Pinot meunier Du
Pinot noir Spatburgunder Du
*Rondo (GM 6494/5) GM 6494/5 Du
Ruländer Pinot gris Gwyn
Scheurebe      Gwyn
Schönburger      Gwyn
Senator      Gwyn
*Seyval blanc Seyve-Villard 5/276 Gwyn
Siegerrebe      Gwyn
*Triomphe      Du
White Elbling      Gwyn
Würzer      Gwyn
Zweigeltrebe Blauer Zweigeltrebe Du

NODYN: Mae seren (*) cyn enw amrywogaeth yn dynodi mai amrywogaeth o winwydden sy'n groesiad neu'n gymysgryw rhwng rhywogaethau yw hi, na chaniateir ei defnyddio i gynhyrchu gwinoedd o safon psr.



ATODLEN 4
Rheoliad 13


RHANBARTHAU PENODEDIG SY'N CYNHYRCHU GWINOEDD O SAFON PSR (RHANBARTH PENODEDIG GWINLLANNOEDD CYMRU)


Siroedd - 

    Caerdydd

    Sir Ceredigion

    Sir Ddinbych

    Sir Fynwy

    Penfro

    Abertawe

    Sir Gaerfyrddin

    Gwynedd

Bwrdeistrefi sirol - 

    Casnewydd

    Rhondda, Cynon, Taf

    Bro Morgannwg

    Wrecsam



ATODLEN 5
Rheoliad 17


PRAWF DADANSODDOL AR GYFER GWINOEDD O SAFON PSR


Rhaid i'r prawf dadansoddol ar gyfer unrhyw win y mae ei gynhyrchydd wedi gofyn iddo gael ei ddynodi'n "quality wine psr" (yn ddarostyngedig i baragraff rhif 5 isod) gynnwys mesur pob ffactor a bennir yn y pennawd i baragraff â rhif yn yr Atodlen hon, a'r safon a bennir yng ngweddill y paragraff hwnnw yw'r safon (os oes un) y mae'n ofynnol ei bodloni mewn perthynas â'r ffactor hwnnw er mwyn i'r gwin gael ei ddynodi felly.

     1. Cryfder Alcoholaidd
Cryfder alcoholaidd o 5.5% o leiaf ar gyfer gwinoedd nad yw eu cryfder alcoholaidd naturiol yn llai na 10%.

Cryfder alcoholaidd o 8.5% o leiaf ar gyfer gwinoedd eraill.

     2. Cyfanswm Echdyniad Sych (a geir drwy ddwysfesureg)
O leiaf 15 g/l.

     3. Rhydwytho Siwgrau
Dim safon y mae'n ofynnol ei bodloni.

     4. Cyfanswm Asidedd
Lleiafswm o 5 g/l wedi'i fynegi fel asid tartarig.

     5. Asidedd Anweddol
Uchafswm cynnwys o ran asid anweddol fel y'i disgrifir ym mhwynt B, paragraff 1(a), (b) neu (c), o Atodiad V i Reoliad 1493/1999, fel y'i darllenir gydag Erthygl 20 o Reoliad 1622/2000, ac Atodiad XIII iddo.

     6. pH
Dim safon y mae'n ofynnol ei bodloni.

     7. Sylffwr Deuocsid Rhydd
Pan fydd technegau gwinyddol effeithiol yn cael eu defnyddio i sicrhau sefydlogrwydd y gwin, dim lleiafswm, ac fel arall 15 mg/l.

Uchafswm o 45 mg/l ar gyfer gwinoedd sych fel y'u diffinnir yn Erthygl 14(7) o Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 3201/90, fel y'i diwygiwyd.

Uchafswm o 60 mg/l ar gyfer gwinoedd eraill.

     8. Cyfanswm y Sylffwr Deuocsid
Uchafswm fel y'i diffinnir ym mhwynt A, paragraffau 1 a 2(a) a (b), o Atodiad V i Reoliad 1493/1999.

     9. Copr
Uchafswm o 0.5 mg/l.

     10. Haearn
Uchafswm o 8 mg/l.

     11. Sterileiddiwch
Rhaid peidio â chael unrhyw arwydd o furumau neu facteria sy'n dueddol o ddifetha'r gwin.

     12. Sefydlogrwydd proteinau
Rhaid i olwg y gwin beidio â newid ar ôl cael ei gadw ar 70°C am 15 munud a'i oeri wedyn i 20°C.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001 yn diddymu Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1996 O.S. 1996/696 (fel y'i diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau, sy'n dod i rym ar 1 Awst 2001, yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau'r CE (fel y'u pennir yn Atodlenni 1 a 2) ynghylch cynhyrchu a marchnata gwin a chynhyrchion cysylltiedig.

Mae'r Rheoliadau - 

      (i) yn dynodi awdurdodau at ddibenion gorfodi Rheoliadau'r CE (rheoliad 3);

      (ii) yn diffinio "medium dry" ("gweddol sych") at ddibenion labelu a disgrifio (rheoliad 4);

      (iii) yn pennu'r amrywogaethau o winwydd sydd wedi'u dosbarthu ar gyfer cynhyrchu gwin (gan gynnwys gwin o safon psr (wedi'i gynhyrchu mewn rhanbarthau penodedig)) yng Nghymru (rheoliad 5);

      (iv) yn pennu'r amodau ar gyfer defnyddio mynegiadau daearyddol i ddynodi gwin i'r bwrdd (rheoliad 6);

      (v) yn darparu ar gyfer pwerau archwilio a gorfodi (rheoliad 7);

      (vi) yn awdurdodi rheolau ar symud cynhyrchion y sector gwin (rheoliadau 8 a 9);

      (vii) yn darparu ar gyfer adolygiadau o waharddiadau etc. ar symud cynhyrchion y sector gwin a hysbysu hawliau er cael adolygiad (rheoliad 10);

      (viii) yn rhyddhau swyddogion awdurdodedig o atebolrwydd personol am weithredoedd a gyflawnir ganddynt wrth weithredu'r Rheoliadau (rheoliad 11);

      (ix) yn rhoi pwerau mewn perthynas â dadansoddi ac archwilio samplau i lysoedd y dygir achosion ger eu bron (rheoliad 12);

      (x) yn pennu'r rhanbarthau yng Nghymru ar gyfer cynhyrchu gwinoedd o safon psr (rheoliad 13);

      (xi) yn pennu'r cryfder alcoholaidd naturiol gofynnol, yr uchafswm y gellir ei gynhyrchu am bob hectar a'r prawf dadansoddol wrth gynhyrchu gwin o safon psr ac yn caniatáu cynhyrchu gwin o'r fath mewn ardaloedd sydd yn union gyfagos at y rhanbarthau penodedig ac yn dynodi'r corff cymwys i ymdrin â gwin o'r fath (rheoliadau 14 i 18); a

      (xii) yn rhagnodi tramgwyddau a chosbau ac yn darparu amddiffyniadau (rheoliadau 19 i 23).

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] 1990 p.16.back

[4] 1993 p.51.back

[5] OJ Rhif L291, 19.11.79, t.17.back

[6] OJ Rhif L302, 15.11.85, t.23.back

[7] OJ Rhif C241, 29.8.94, t.1; nid yw'r diwygiadau a wnaed gan Benderfyniad y Cyngor 95/1 yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[8] OJ Rhif L179, 14.7.1999, t.1.back

[9] OJ Rhif L149, 14.6.91, t.1.back

[10] O.S. 1996/696.back

[11] O.S. 1997/542.back

[12] O.S. 1998/453.back

[13] O.S. 1999/482.back

[14] O.S. 1993/517, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/3071 a'i ddiddymu gan O.S. 1994/674.back

[15] O.S. 1994/674, a ddiddymwyd gan O.S. 1995/615.back

[16] O.S. 1995/615 a ddiddymwyd gan O.S. 1996/696.back

[17] OJ Rhif L309, 8.11.90, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 2770/98 (OJ Rhif L346, 22.12.98, t.25); nid yw'r diwygiadau'n berthnasol i Erthygl 14(7)(b) o'r Rheoliad.back

[18] OJ Rhif L143, 16.6.2000, t.1.back

[19] 1984 p.60.back

[20] OJ Rhif L185, 25.7.2000, t.17.back

[21] 1998 c.38.back

[22] Gweler hefyd y Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Protocolau 1 (OJ Rhif L1, 3.1.94, t.37) a 47 (OJ Rhif L1, 3.1.94, t.210)back



English version



ISBN 0 11 090312 9


  Prepared 13 August 2001

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010