British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012191w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2191 (Cy.153) (C.71)
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
12 Mehefin 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 8(2) a (3)(c) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000[
1] :
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Y Diwrnod Penodedig
2.
1 Hydref 2001 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfodiad i rym adrannau 1 i 3, 4 (ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2) o adran 24C o Ddeddf Plant 1989 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol), 5 a 7(1) i (4) o'r Ddeddf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol yn Neddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 ("y Ddeddf") i rym ar 1 Hydref 2001.
Mae'n dwyn i rym adrannau 1 i 5 o'r Ddeddf sy'n mewnosod darpariaethau yn Neddf Plant 1989 sy'n darparu ar gyfer pwerau a dyletswyddau newydd i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r darpariaethau yn ymwneud â chategorïau penodol o bobl ifanc a phlant 16 oed a throsodd sy'n derbyn gofal neu sydd wedi derbyn gofal gan yr awdurdodau hynny. Mae'r darpariaethau yn ymdrin ag asesu anghenion, paratoi cynlluniau a'u hadolygu, cadw cysylltiad a rhoi cymorth a chyngor i blant a phobl ifanc o'r fath ac ynghylch ystyried eu sylwadau (gan gynnwys eu cwynion). Maent hefyd yn gosod dyletswyddau ar gyrff eraill i hysbysu awdurdodau lleol pan fydd plant penodol wedi peidio â chael llety ganddynt. Mae cychwyn rhannau o adran 7 yn ymwneud â diwygiadau technegol i Ddeddf 1989.
Notes:
[1]
2000 p.35.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090343 9
|
Prepared
20 September 2001