British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012070w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2070 (Cy. 142)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
24 Mai 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 12(1)(i), 17(1)(j) a 27(1)(j) a 146(2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[
1], sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Ni fydd i'r Gorchymyn hwn unrhyw effaith mewn perthynas â chais am grant a wnaed cyn 1 Gorffennaf 2001.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Grantiau adnewyddu
3.
At ddibenion adran 12 o'r Ddeddf (grantiau adnewyddu: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.
Grantiau rhannau cyffredin
4.
At ddibenion adran 17 o'r Ddeddf (grantiau rhannau cyffredin: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.
Grantiau tai mewn aml-feddiannaeth
5.
At ddibenion adran 27 o'r Ddeddf (grantiau tai mewn aml-feddiannaeth: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
Mae adrannau 12, 17 a 27 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("Deddf 1996") yn nodi'r dibenion y gall grantiau ar gyfer adnewyddu tai yn y sector preifat gael eu rhoi ar eu cyfer. Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol b
hwnnw'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu diben ychwanegol y gall grant gael ei roi ar ei gyfer o dan adrannau 12 (grantiau adnewyddu), 17 (grantiau rhannau cyffredin) a 27 (grantiau ar gyfer tai mewn aml-feddiannaeth) o Ddeddf 1996. Gwella effeithlonrwydd ynni yw'r diben hwnnw ym mhob achos.
Notes:
[1]
1996 p.53back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672)back
[3]
1998 p.38back
English version
ISBN
0-11-090249-1
|
Prepared
3 July 2001