British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012019w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2019 (Cy. 140)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
CADWRAETH PYSGOD MÔR
Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
17 Mai 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mehefin 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 15(3) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[
1], a phob p
er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw: -
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Mehefin 2001.
Diddymu
2.
Mae Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach 1992[
2] drwy hyn wedi'i ddiddymu mewn perthynas â Chymru fel y diffiniwyd yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach 1992 ("Gorchymyn 1992"), sydd eisoes wedi'i ddiddymu mewn perthynas â'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon (erthygl 2). Pennodd Gorchymyn 1992 isafswm maint ar gyfer glanio a gwerthu gwyniaid (
Merlangius merlangus) ym Mhrydain ac ar gyfer eu cludo ar gwch pysgota Prydeinig. Gwnaed darpariaeth gysylltiedig ynddo hefyd ar gyfer gorfodi.
Erbyn hyn, rhagnodir yr isafswm maint ar gyfer glanio, gwerthu, storio a chludo gwyniaid gan erthygl 19 (o'i darllen gydag erthygl 17) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.04.98, t.1). Mae'r Rheoliad hwnnw'n darparu ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol ar gyfer diogelu y rhai ifanc o organeddau morol. Mae darpariaethau ar gyfer gorfodi'r cyfyngiadau a'r rhwymedigaethau a geir yn y Rheoliad hwnnw wedi'u nodi yng Ngorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000, a ddaeth i rym ar 11 Medi 2000. [2000 Rhif 2230 (Cy. 148)].
Notes:
[1]
1967 p.84. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) adran 19(1), a'i diwygio gan baragraff 38(a) o Atodlen 13 i Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21) a pharagraff 43(2) a (3) o Atodlen 2 i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77) Atodlen 1, paragraff 38(3) a'i diwygio gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86) Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, paragraff 43(2)(b).
Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) cafodd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adrannau 1, 15(3) ac 20(1) o Ddeddf 1967 eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.
Diffiniwyd "Wales" yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) fel ei bod yn cynnwys "the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea". Mewn perthynas â dyfroedd y tu hwnt i Gymru mae'r swyddogaethau hyn yn dal yn arferadwy gan y Gweinidogion.
Gweler adran 22(2) o Ddeddf 1967 i gael diffiniadau o "the Ministers" at ddibenion adrannau 1 a 15(3). Diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d) a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, paragraff 43(12) o Atodlen 2.back
[2]
O.S. 1992/1212. Cafodd y Gorchymyn ei ddiddymu gan O.S. 2000/1234 ac eithrio i'r graddau yr oedd yn rhan o Gyfraith yr Alban neu yn effeithiol mewn perthynas â Chymru. Cafodd ei ddiddymu ymhellach mewn perthynas â'r Alban gan O.S.A. 2000/82.back
[3]
1998 p.38. (Gweler y diffiniad yn nhroednodyn (a) uchod.)back
English version
ISBN
0-11-090261-0
|
Prepared
12 July 2001