British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011987w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 1987 (Cy. 138)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
15 Mai 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(1) a (3) a 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997[
1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Estyn darpariaethau adran 43(5) o Ddeddf Addysg 1997
2.
Bydd adrannau 43 a 44 o Ddeddf Addysg 1997 yn cael effaith fel petai'r cyfnod canlynol wedi'i roi yn lle'r cyfnod a bennir yn adran 43(5) fel y rhan berthnasol o addysg disgybl, sef y cyfnod -
(a) sy'n dechrau yr un pryd â'r flwyddyn ysgol y mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn ei ddosbarth yn cyrraedd 14 oed; a
(b) sy'n gorffen pan ddaw'r flwyddyn ysgol y mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn ei ddosbarth yn cyrraedd 19 oed i ben.
Y gofyniad i ddarparu addysg gyrfaoedd mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach
3.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy'n mynychu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach (p'un a ydynt yn eu mynychu'n amser llawn neu'n rhan amser) ac sydd wedi cyrraedd 16 oed ond nad ydynt wedi cyrraedd 20 oed.
(2) Rhaid i gyrff llywodraethu'r sefydliadau hynny a phrifathrawon neu benaethiaid eraill y sefydliadau hynny sicrhau bod rhaglen addysg gyrfaoedd yn cael ei darparu ar gyfer y personau hynny y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.
(3) Yn y rheoliad hwn -
ystyr "addysg gyrfaoedd" ("careers education") yw addysg sydd wedi'i llunio i baratoi personau ar gyfer gwneud penderfyniadau am eu gyrfaoedd a'u helpu i weithredu'r penderfyniadau hynny;
mae i "sefydliadau o fewn y sector addysg bellach" yr un ystyr ag "institutions within the further education sector" yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[3];
mae "gyrfaoedd" ("careers") yn cynnwys ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant, cyflogaeth neu alwedigaeth neu unrhyw gwrs addysg.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Mai 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwneud darpariaeth ar gyfer estyn y gofyniad i ddarparu rhaglen addysg gyrfaoedd i gynnwys disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol a myfyrwyr rhwng 16 a 19 oed sy'n mynychu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach.
Mae Rheoliad 2 yn estyn y gofyniad yn adran 43 o Ddeddf Addysg 1997 i ddarparu rhaglen addysg gyrfaoedd i gwmpasu disgyblion rhwng 14 a 19 oed, yn hytrach na 14 - 16 oed yn ôl gofyniad presennol adran 43.
Mae Rheoliad 3 yn gosod gofyniad hollol newydd ar gyfer darparu rhaglen addysg gyrfaoedd i fyfyrwyr 16 - 19 oed sy'n mynychu sefydliadau addysg bellach.
Notes:
[1]
1997 p.44. I gael ystyr "regulations" gweler adran 56(1), ac i gael ystyr "specified" gweler adran 46(5).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1992 p.13.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090274 2
|
Prepared
19 July 2001