Wedi'u gwneud | 1 Mai 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Medi 2001 |
(2) Ni fydd marjarîn, menyn, brasterau eraill i'w taenu, olewau a brasterau coginio, dresin salad wedi'i seilio ar olew, mayonnaise, hufen salad, hufen, siocled, creision, bisgedi, teisennau, cacennau, pwdinau, hufen-iâ, sawsiau bras, grefi, jam, diodydd ysgafn siwgrllyd, melysion, siwgr a jeli yn perthyn i unrhyw un o'r grwpiau uchod o fwydydd .
Gofynion maeth plant sy'n mynychu ysgolion meithrin neu unedau meithrin mewn ysgolion cynradd
3.
Rhaid i fwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch fod ar gael bob dydd yn rhan o ginio ysgol disgyblion cofrestredig mewn ysgolion meithrin neu unedau meithrin mewn ysgolion cynradd.
Gofynion maeth disgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn ysgolion cynradd
4.
- (1) Rhaid cydymffurfio â'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd heblaw ysgolion arbennig.
(2) Rhaid trefnu bod bwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch ar gael bob dydd -
(b) o fewn gr p B, fel nad yw braster neu olew yn cael ei ddefnyddio yn y broses goginio ar fwy na dau ddiwrnod mewn unrhyw wythnos. Rhaid i'r braster neu'r olew a ddefnyddir fod o'r math aml-annirlawn neu fono-annirlawn;
(c) o fewn gr p C, fel bod:
(3) At ddibenion cinio i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd, gall ffynonellau protein yng ngr p C gynnwys cynhyrchion llaeth sy'n ffynonellau protein.
Gofynion maeth disgyblion mewn ysgolion uwchradd
5.
- (1) Rhaid cydymffurfio â'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion uwchradd heblaw ysgolion arbennig.
(2) Rhaid i ddau fath o fwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch fod ar gael bob dydd:
(b) o fewn gr p B, fel bod bwyd sydd heb ei goginio mewn braster neu olew ar gael hefyd ar bob dydd y bydd bwyd sydd wedi'i goginio mewn braster neu olew ar gael. Rhaid i'r braster neu'r olew a ddefnyddir fod o'r math aml-annirlawn neu fono-annirlawn;
(c) o fewn gr p C, fel bod
Gofynion maeth disgyblion mewn ysgolion arbennig cymunedol a sefydledig
6.
Rhaid cydymffurfio â gofynion naill ai Rheoliad 4 neu Reoliad 5 wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig cymunedol neu sefydledig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Mai 2001
[2] Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/627).back