British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011543w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 1543 (Cy.108)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
29 Mawrth 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 28BB(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Swyddogaethau rhagnodedig yr Awdurdodau Iechyd yng Nghymru
2.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, y swyddogaethau canlynol yw swyddogaethau rhagnodedig Awdurdodau Iechyd yng Nghymru at ddibenion adran 28BB o'r Ddeddf (p
er yr awdurdodau lleol i wneud taliadau i gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ) -
(2) Mae unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â'r canlynol yn cael eu hepgor o'r swyddogaethau sy'n cael eu rhagnodi o dan baragraff (1) uchod -
(a) darparu llawfeddygaeth, radiotherapi, erthylu, endosgopi, defnyddio triniaethau laser Dosbarth 4[4] a thriniaethau trychiadol eraill;
(b) gwasanaethau ambiwlans argyfwng;
(c) darparu cyffuriau a sylweddau eraill sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 10 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[5]) neu sydd wedi'u rhestru yng ngholofn 1 o Atodlen 11 i'r Rheoliadau hynny, fel y mae'r Atodlenni hynny'n gymwys yng Nghymru ac, o ran Atodlen 11, o dan amgylchiadau lle nad yw'r amodau a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno wedi'u bodloni; ac
(ch) darparu cyfarpar nad yw wedi'i restru yn Rhan IX o'r datganiad a elwir "the Drug Tariff" a gyhoeddir ac a ddiwygir o dro i dro o dan reoliad 18(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992[6] fel y mae'r datganiad yn gymwys yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis Thomas
29 Mawrth 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi rhai o swyddogaethau Awdurdodau Iechyd yng Nghymru, at ddibenion adran 28BB o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae hyn yn galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru i wneud taliadau i Awdurdodau Iechyd tuag at wariant a dynnir ganddynt mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o'r swyddogaethau sydd wedi'u rhagnodi fel hyn.
Notes:
[1]
1977 p.49; mewnosodwyd adran 28BB gan adran 30 o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"). Cychwynnwyd adran 30 o Ddeddf 1999 mewn perthynas â Chymru gan Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2000, O.S. 2000/2991 (Cy. 191) (C.92), ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2) o adran 28BB o Ddeddf 1977 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol. Gweler adran 28BB(2) i gael diffiniad o "prescribed". Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 28BB a 126(4), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(4) a (5) o Ddeddf 1999.back
[2]
Diwygiwyd adran 5(1), a mewnosodwyd adrannau 5(1A) ac (1B), gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1998 (p.49), adran 10(1); diwygiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Addysg 1981 (p.60), Atodlen 3, paragraff 13, Deddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, Rhan I, paragraff 21, a Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), Atodlen 2, paragraff 7.back
[3]
1983 p.20.back
[4]
Gweler BS EN 60825-1: 1994 Safety of Laser Products. Diffinnir cynhyrchion laser dosbarth 4 drwy gyfeirio at 'British Standards' sy'n cael ei gyhoeddi gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ("BSI") ac y gellir ei gael oddi wrth BSI, Linford Woods, Milton Keynes, MK14 6LE.back
[5]
O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1995/3093, 1997/981, 1999/1627 a 2000/1887.back
[6]
O.S. 1992/662; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/2451, 1995/644 a 1999/696.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0-11-090214-9
|
Prepared
1 June 2001