Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011438w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif. 1438 (Cy.100)
HENEBION, CYMRU
Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 2001
|
Wedi'u gwneud |
5 Ebrill 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mai 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraffau 1(1), 2(1) a 2(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979[
1] fel y'i hymestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[
2] ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru[
3], a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 2001 a deuant i rym ar 1 Mai 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) 1981[
4]).
Ffurflenni rhagnodedig
3.
- (1) Y ffurflen a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy hyn yw'r fersiwn Gymraeg ragnodedig y gellir ei defnyddio yn hytrach na'r ffurflen gyfatebol yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau i'r diben a nodir yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau.
(2) Y ffurflenni a nodir yn Rhan I o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn drwy hyn yw'r fersiynau Cymraeg rhagnodedig y gellir eu defnyddio yn hytrach na'r ffurflennni cyfatebol yn Rhan I o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau i'r diben a nodir yn rheoliad 3(1) o'r prif Reoliadau.
(3) Y ffurflen a nodir yn Rhan II o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn drwy hyn yw'r fersiwn Gymraeg ragnodedig y gellir ei defnyddio yn hytrach na'r ffurflen gyfatebol yn Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau i'r diben a nodir yn rheoliad 3(2) o'r prif Reoliadau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].
5 Ebrill 2001
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
ATODLEN/SCHEDULE 1
FFURFLEN GAIS AM GYDSYNIAD HENEB GOFRESTREDIG CAIS AM GYDSYNIAD HENEB GOFRESTREDIG DEDDF HENEBION A MANNAU ARCHAEOLEGOL 1979
(I'w llenwi gan neu ar ran y ceisydd mewn LLYTHRENNAU BRAS neu deipysgrif)
1.
Y ceisydd
Enw
Cyfeiriad
Cod Post
Rhif ffôn
2.
Meddiannydd yr heneb - os nad y ceisydd
Enw
Cyfeiriad
Cod Post
Rhif ffôn.
3.
Yr heneb y mae'r cais yn berthnasol iddi
Enw'r heneb (os oes un)
Cyfeiriad neu leoliad
Rhif Sirol yr Heneb
Cyfeiriad y Grid Cenedlaethol
4.
Disgrifiad o'r gweithfeydd arfaethedig
5.
Rhestr o'r planiau a'r lluniadau sy'n cyd-fynd â'r cais
6.
Unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r cais
Yr wyf i/ ydym ni drwy hyn yn gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer y gweithfeydd a ddisgrifir yn y cais hwn ac a ddangosir ar y planiau a'r lluniadau sy'n cyd-fynd â'r cais.
Llofnod
Dyddiad
Ar ran
*
*Os yw'r cais yn cael ei drin a'i drafod gan asiant y dylid anfon gohebiaeth ato, nodwch y canlynol -
Enw'r asiant
Cyfeiriad yr asiant
Cod Post
Rhif ffôn
ATODLEN/SCHEDULE 2
RHAN/PART
I
FFURFLENNI AR DYSTYSGRIF AT DDIBENION PARAGRAFF 2(1) O ATODLEN 1 I'R DDEDDF
Tystysgrif yn unol â pharagraff 2(1)(a)
Ardystir drwy hyn nad oedd unrhyw berson arall heblaw'r ceisydd yn berchennog (x) yr heneb y mae'r cais sydd ynghlwm yn berthnasol iddi ar ddechrau'r cyfnod o un diwrnod ar hugain a oedd yn diweddu ar ddyddiad y cais.
Llofnod
Dyddiad
Tystysgrif yn unol â pharagraff 2(1)(b)
Ardystir drwy hyn fod y ceisydd wedi rhoi'r hysbysiad sy'n ofynnol am y cais sydd ynghlwm i bob person heblaw'r ceisydd a oedd, ar ddechrau'r cyfnod o un diwrnod ar hugain a oedd yn diweddu ar ddyddiad y cais, yn berchenogion (x) yr heneb y mae'r cais yn berthnasol iddi, sef (y).
Llofnod
Dyddiad
Tystysgrif yn unol â pharagraff 2(1)(c)
Ardystir drwy hyn -
(1) na all y ceisydd roi tystysgrif yn unol â naill ai paragraff 2(1)(a) neu (b) o Atodlen 1 i Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979;
(2) bod y ceisydd wedi rhoi'r hysbysiad sy'n ofynnol am y cais sydd ynghlwm i'r personau canlynol a oedd, ar ddechrau'r cyfnod o un diwrnod ar hugain a oedd yn diweddu ar ddyddiad y cais, yn berchenogion (x) yr heneb y mae'r cais sydd ynghlwm yn berthnasol iddi, sef (y); a
(3) bod y ceisydd wedi cymryd y camau sydd ar gael yn rhesymol iddo i gael gwybod enwau a chyfeiriadau gweddill y personau a oedd, ar ddechrau'r cyfnod hwnnw yn berchenogion (x) yr heneb honno, a'i fod heb lwyddo i'w cael.
Llofnod
Dyddiad
Tystysgrif yn unol â pharagraff 2(1)(d)
Ardystir drwy hyn na all y ceisydd roi tystysgrif yn unol â pharagraff 2(1)(a) o Atodlen 1 i Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979, ond ei fod wedi cymryd y camau sydd ar gael yn rhesymol iddo i gael gwybod enwau a chyfeiriadau y personau eraill a oedd, ar ddechrau'r cyfnod o un diwrnod ar hugain a oedd yn diweddu ar ddyddiad y cais, yn berchenogion (x) yr heneb y mae'r cais sydd ynghlwm yn berthnasol iddi a'i fod heb lwyddo i'w cael.
Llofnod
Dyddiad
TROEDNODIADAU
(x) ystyr "perchennog" yw person sydd am y tro yn berchennog ystâd mewn perthynas â'r ffi syml yn yr heneb neu sydd â hawl tenantiaeth i'r heneb a roddwyd neu a estynnwyd am dymor sicr o flynyddoedd nad oes lai na saith mlynedd ohono yn weddill.
(y) Rhowch yr enwau a'r cyfeiriadau
ATODLEN/SCHEDULE 2
RHAN/PART
II
FFURFLENNI HYSBYSU AT DDIBENION PARAGRAFF 2(1) O ATODLEN 1 I'R DDEDDF
Hysbysiad o gais am gydsyniad heneb gofrestredig
(Dilëwch y geiriau mewn bachau petryal, fel y bo'n briodol, gan hepgor y bachau.)
Mae'r hysbysiad hwn yn ymwneud â'r heneb yn (x).
Bydd cais yn cael ei wneud [gan] [ar ran] (y) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am gydsyniad heneb gofrestredig o dan Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979 i gyflawni'r gweithfeydd canlynol: (z).
Rhoddir cyfle i gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r cais gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn penderfynu'r cais.
Llofnod
Dyddiad
TROEDNODIADAU
(x) Rhowch gyfeiriad neu leoliad yr heneb, a'r enw (os oes un).
(y) Rhowch enw a chyfeiriad y ceisydd.
(z) Rhowch ddisgrifiad byr o'r gweithfeydd arfaethedig.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Atodlen 1 i Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979, yn rhoi p
er i wneud rheoliadau i ragnodi'r ffurflenni sydd i'w defnyddio mewn ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig. Mae'r pwer hwn bellach yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Rhagnodwyd fersiwn Saesneg o'r ffurflenni gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, ar y cyd gydag Ysgrifennydd yr Amgylchedd trwy Reoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) 1981 ("y prif Reoliadau")
Mae adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg yn ymestyn y p
er a grybwyllir uchod i alluogi'r Ysgrifennydd Gwladol (neu yng Nghymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru) i ragnodi ffurf dogfen ar wahân, neu ffurf geiriau ar wahân, yn Gymraeg ac yn Saesneg ac, yn achos dogfen, ffurflen sy'n rhannol Gymraeg a rhannol Saesneg.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r fersiwn Gymraeg o'r ffurflenni perthnasol y gellir eu defnyddio yng Nghymru yn hytrach na fersiwn Saesneg y ffurflenni a ragnodwyd gan y prif Reoliadau.
Mae rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn yn darparu mai'r ffurflen a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn fydd fersiwn Gymraeg ragnodedig y Ffurflen Gais yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 3(2) o'r Rheoliadau hyn yn darparu mai'r ffurflenni a nodir yn Rhan I o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn fydd fersiynau Cymraeg rhagnodedig y Ffurflenni Tystysgrif yn Rhan I o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 3(3) o'r Rheoliadau hyn yn darparu mai'r ffurflen a nodir yn Rhan II o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn fydd fersiwn Gymraeg ragnodedig y Ffurflen Hysbysu yn Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Notes:
[1]
1979 p.46.back
[2]
1993 p.38.back
[3]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[4]
O.S. 1981/1301.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090314 5
|
Prepared
9 August 2001