Wedi'u gwneud. | 5 Ebrill 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Mehefin 2001 |
1. | Enwi a chychwyn |
2. | Dehongli |
3. | Sefydlu Pwyllgorau Ymchwilio |
4. | Dirprwyo swyddogaethau Pwyllgorau Ymchwilio |
5. | Sefydlu Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol |
6. | Sefydlu Pwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol |
7. | Defnyddio'r Cod Ymarfer mewn materion disgyblu |
8. | Aelodaeth Pwyllgorau a'u gweithdrefn |
9. | Gwahardd neu gyfyngu pwerau Pwyllgorau |
10. | Trafodion Pwyllgorau Ymchwilio |
11. | Trafodion Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol |
12. | Yr hawl i ymddangos mewn gwrandawiadau a chael cynrychiolydd yno |
13. | Presenoldeb tystion |
14. | Gofyniad bod gwrandawiadau'n cael eu cynnal yn gyhoeddus |
15. | Gweinyddu llwon a chadarnhadau |
16. | Darpariaethau eraill ynghylch gweithdrefn Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol |
17. | Cyfeirio achosion at Bwyllgorau eraill |
18. | Gorchmynion disgyblu |
19. | Cyhoeddi gorchmynion disgyblu |
20. | Cais am amrywio amod mewn gorchymyn cofrestru amodol, neu am roi amod o'r neilltu |
21. | Canlyniadau methu â chydymffurfio â gorchymyn cofrestru amodol |
22. | Gorchmynion gwahardd |
23. | Adolygu gorchmynion disgyblu |
24. | Apelau |
25. | Gorchmynion disgyblu a wneir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr |
26. | Cyflwyno hysbysiadau a gorchmynion |
27. | Cyhoeddi dogfennau a darparu copïau ohonynt |
28. | Darparu gwybodaeth i'r Cyngor gan gyflogwyr |
ATODLEN | Yr wybodaeth sydd i'w rhoi i'r Cyngor gan gyflogydd athro neu athrawes gofrestredig |
(2) Yn rheoliadau 18 ac 28, ystyr "cyflogydd" ("employer") yw -
(b) awdurdod addysg lleol sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig i weithio fel athro neu athrawes heblaw mewn ysgol neu sefydliad sy'n dod o fewn is-baragraff (a);
(c) awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad sydd o fewn is-baragraff (a) sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig mewn gwaith heblaw gwaith athro neu athrawes sy'n dod ag ef neu hi yn rheolaidd i gysylltiad â phersonau nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg oed; ac
(ch) person sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig mewn ysgol annibynnol, neu berchennog ysgol annibynnol sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig, i weithio fel athro neu athrawes neu mewn gwaith arall sy'n dod ag ef neu hi yn rheolaidd i gysylltiad â phersonau nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg oed, ac mae'n cynnwys person sy'n rhoi gwaith i athro neu athrawes gofrestredig (neu'n trefnu rhoi gwaith iddynt) i ddarparu gwasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir "cyflogi" a "cyflogir" ("employed") yn unol â hynny.
(3)
(4) Yn rheoliadau 11 i 15 ystyr "gwrandawiad" ("hearing") yw gwrandawiad achos disgyblu yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, neu wrandawiad o dan reoliad 20, 21 neu 22.
(5) Yn rheoliadau 8 ac 28 ystyr "athro neu athrawes gofrestredig" ("registered teacher") yw person sydd am y tro wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998, ac yng ngweddill y Rheoliadau hyn mae'n golygu -
(6) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at -
(b) penderfynu, yng ngoleuni eu hymchwiliadau -
Dirprwyo swyddogaethau Pwyllgorau Ymchwilio
4.
- (1) Caiff Pwyllgor Ymchwilio ddirprwyo'r swyddogaethau canlynol i un o weithwyr cyflogedig y Cyngor -
(b) penderfynu a oes gan athro neu athrawes gofrestredig achos i'w ateb mewn perthynas â mater yr ymchwiliodd y gweithiwr cyflogedig iddo o dan is-baragraff (a);
(c) gollwng achos yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig os yw'r gweithiwr cyflogedig wedi penderfynu o dan baragraff (b) nad oes achos i'w ateb.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys wrth i un o weithwyr cyflogedig y Cyngor arfer swyddogaeth fel y byddent yn gymwys wrth i Bwyllgor Ymchwilio arfer y swyddogaeth honno.
Sefydlu Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol
5.
- (1) Rhaid i'r Cyngor sefydlu un neu ragor o bwyllgorau i'w galw'n Bwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol er mwyn cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).
(2) Swyddogaethau Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yw -
(b) pan fydd Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn dyfarnu bod athro neu athrawes -
ystyried a ddylid gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â'r athro hwnnw neu'r athrawes honno ac, os ydynt o'r farn y dylid gwneud gorchymyn o'r fath, gwneud gorchymyn o'r fath; ac
(c) penderfynu ar geisiadau o dan reoliad 20 neu 22 neu ar faterion sy'n codi mewn perthynas â gorchmynion disgyblu o dan reoliad 21 neu 23.
Sefydlu Pwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol
6.
- (1) Rhaid i'r Cyngor sefydlu un neu ragor o bwyllgorau i'w galw'n Bwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol er mwyn cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).
(2) Swyddogaethau Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol yw -
(b) pan fydd Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol yn dyfarnu bod athro neu athrawes -
ystyried a ddylid gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â'r athro hwnnw neu'r athrawes honno ac, os ydynt o'r farn y dylid gwneud gorchymyn o'r fath, gwneud gorchymyn o'r fath; ac
(c) penderfynu ar geisiadau o dan reoliad 20 neu 22 neu ar faterion sy'n codi mewn perthynas â gorchmynion disgyblu o dan reoliad 21 neu 23.
Defnyddio'r Cod Ymarfer mewn materion disgyblu
7.
Caiff Pwyllgor gymryd i ystyriaeth unrhyw fethiant gan athro neu athrawes gofrestredig i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer mewn unrhyw achos disgyblu yn erbyn yr athro hwnnw neu'r athrawes honno.
Aelodaeth Pwyllgorau a'u gweithdrefn
8.
- (1) Rhaid i'r Cyngor gynnwys ar Bwyllgor -
(2) Nid yw person nad yw, yn rhinwedd rheoliad 5(2) o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999[9], yn gymwys i fod yn aelod o'r Cyngor nac i bleidleisio mewn etholiad ar gyfer aelodau etholedig o'r Cyngor yn gymwys i fod yn aelod o Bwyllgor.
(3) Tri aelod fydd y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor, gan gynnwys un aelod lleyg, un aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig ac os nad oes aelod lleyg neu aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig sy'n bresennol yn aelod o'r Cyngor, un aelod o'r Cyngor.
(4) Rhaid peidio â phenodi person sy'n aelod o Bwyllgor Ymchwilio sy'n ymchwilio i achos yn aelod o'r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu'r Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol a fydd yn penderfynu ar yr achos hwnnw.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (4) a rheoliadau 20 a 22, caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth a welant yn dda ynghylch y canlynol -
(6) Yn y rheoliad hwn -
ac ni fydd aelod lleyg sy'n dod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n ymgymryd â swydd fel athro neu athrawes neu y rhoddir gwaith iddo neu iddi fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried yn aelod lleyg mwyach;
(b) ystyr "aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig" yw aelod o'r Pwyllgor -
ac ni fydd aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig ac sy'n peidio â bod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n rhoi'r gorau i swydd athro neu athrawes neu i waith a roddwyd iddo neu iddi fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried yn aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig mwyach; ac
(c) ystyr "aelod o'r Cyngor" yw aelod o'r Pwyllgor sy'n aelod o'r Cyngor.
Gwahardd neu gyfyngu pwerau Pwyllgorau
9.
(1) Mae swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan y Rheoliadau hyn wedi eu gwahardd mewn achos -
(2) Mae swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan y Rheoliadau hyn wedi eu gwahardd mewn achos
Trafodion Pwyllgorau Ymchwilio
10.
- (1) Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio'n penderfynu cynnal ymchwiliad mewn perthynas ag athro neu athrawes gofrestredig, rhaid iddynt, mewn unrhyw gam o'r ymchwiliad a welant yn dda -
(2) Caiff Pwyllgor Ymchwilio benderfynu gollwng ymchwiliad ar unrhyw adeg cyn i achos gael ei gyfeirio ar gyfer dyfarniad gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol.
(3) Pan fydd eu hymchwiliad wedi'i gwblhau, rhaid i'r Pwyllgor Ymchwilio gymryd un o'r camau canlynol -
(4) Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio'n penderfynu gollwng ymchwiliad neu achos, rhaid iddynt roi gwybod i'r athro neu'r athrawes gofrestredig o dan sylw, ac wrth wneud hynny rhaid iddynt roi gwybod i'r athro neu'r athrawes a ydynt wedi penderfynu nad oedd ganddynt achos i'w ateb.
(5) Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio'n penderfynu nad oes gan athro neu athrawes gofrestredig achos i'w ateb, os bydd ef neu hi'n gwneud cais, rhaid iddynt gyhoeddi datganiad i'r perwyl hwnnw.
(6) Caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth arall a welant yn dda ynghylch y weithdrefn sydd i'w dilyn gan Bwyllgor Ymchwilio mewn cysylltiad â'u hymchwiliadau a'u trafodion eraill, ac o bryd i'w gilydd cânt ddiwygio unrhyw reolau gweithdrefn a wneir o dan y paragraff hwn.
Trafodion Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol
11.
- (1) Rhaid i Bwyllgor benderfynu achosion yn erbyn athrawon cofrestredig a gyfeirir atynt gan Bwyllgor Ymchwilio yn unol â pharagraffau (2) i (6), rheoliadau 12 i 15 a rheolau a wneir gan y Cyngor o dan reoliad 16.
(2) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (3), rhaid i Bwyllgor benderfynu ar bob achos, pob cais o dan reoliad 20 neu 22 neu bob mater sy'n codi mewn perthynas â gorchmynion disgyblu o dan reoliad 21 ar ôl gwrandawiad.
(3) Caiff Pwyllgor benderfynu ar achos, cais o dan reoliad 20 neu 22 neu fater sy'n codi mewn perthynas â gorchymyn disgyblu o dan reoliad 21 heb wrandawiad ar gais ysgrifenedig yr athro neu'r athrawes gofrestredig y mae'r achos disgyblu'n cael ei ddwyn yn eu herbyn neu y cafodd y gorchymyn disgyblu ei wneud yn eu herbyn onid yw'n ymddangos iddynt ei bod yn angenrheidiol cynnal gwrandawiad cyhoeddus er lles cyfiawnder neu er lles y cyhoedd.
(4) Ar unrhyw adeg ar ôl i achos gael ei gyfeirio atynt gan Bwyllgor Ymchwilio, caiff Pwyllgor benderfynu gollwng yr achos hwnnw, ac os penderfynant ollwng achos rhaid iddynt roi gwybod i'r athro neu'r athrawes o dan sylw, ac wrth wneud hynny rhaid iddynt roi gwybod ar yr un pryd i'r athro neu'r athrawes a ydynt wedi penderfynu nad oedd yna achos yn eu herbyn.
(5) Pan fyddant yn dyfarnu bod yr achos yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig heb ei brofi, os bydd yr athro neu'r athrawes gofrestredig yn gwneud cais, rhaid i Bwyllgor gyhoeddi datganiad i'r perwyl hwnnw.
(6) Pan fyddant yn dyfarnu bod athro neu athrawes gofrestredig -
caiff Pwyllgor wneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â'r athro hwnnw neu'r athrawes honno yn unol â rheoliad 18.
Yr hawl i ymddangos mewn gwrandawiadau a chael cynrychiolydd yno
12.
(1) Mae gan athro neu athrawes gofrestredig hawl i ymddangos a chyflwyno sylwadau llafar a chael eu cynrychioli gan unrhyw berson neu bersonau a ddymunant mewn unrhyw wrandawiad gan y Pwyllgor lle y mae eu hachos yn cael ei ystyried.
(2) Os nad yw athro neu athrawes gofrestredig yn ymddangos mewn gwrandawiad gan y Pwyllgor lle y mae eu hachos yn cael ei ystyried, mae gan yr athro neu'r athrawes hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Presenoldeb tystion
13.
Caiff Pwyllgor ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn bresennol ac yn rhoi tystiolaeth neu'n cyflwyno dogfennau neu dystiolaeth berthnasol arall mewn unrhyw wrandawiad.
Gofyniad bod gwrandawiadau'n cael eu cynnal yn gyhoeddus
14.
- (1) Rhaid i Bwyllgor gyhoeddi eu dyfarniad ar ganlyniad pob gwrandawiad yn gyhoeddus ac yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) rhaid cynnal holl wrandawiadau Pwyllgor yn gyhoeddus.
(2) Caiff Pwyllgor ystyried yn breifat ar unrhyw adeg ac at unrhyw ddiben yn ystod gwrandawiad neu ar ei ôl.
(3) Caiff Pwyllgor wahardd y cyhoedd o wrandawiad neu o unrhyw ran o wrandawiad -
Gweinyddu llwon a chadarnhadau
15.
Caiff Pwyllgor ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dyst mewn gwrandawiad roi tystiolaeth ar lw neu gadarnhad ac at y diben hwnnw gall llw neu gadarnhad ar ffurf briodol gael ei weinyddu.
Darpariaethau eraill ynghylch gweithdrefn Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol
16.
Caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth arall a welant yn dda ynghylch y weithdrefn sydd i'w dilyn gan Bwyllgor mewn cysylltiad â'u dyfarniadau ac achosion eraill, ac o bryd i'w gilydd cânt ddiwygio unrhyw reolau gweithdrefn a wneir o dan y paragraff hwn.
Cyfeirio achosion at Bwyllgorau eraill
17.
- (1) Caiff Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol gyfeirio achos ar gyfer dyfarniad gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, a chaiff Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol gyfeirio achos ar gyfer dyfarniad gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol.
(2) Caiff Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol gyfeirio achos at Bwyllgor Ymchwilio.
Gorchmynion disgyblu
18.
- (1) Rhaid i orchymyn disgyblu gofnodi penderfyniad y Pwyllgor, y dyddiad y gwneir y gorchymyn, a'r dyddiad y mae effaith y gorchymyn yn dechrau.
(2) Yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i orchymyn cofrestru amodol bennu'r holl amodau sy'n berthnasol i'w cyflogaeth fel athro neu athrawes y mae'n rhaid i'r athro neu'r athrawes gofrestredig gydymffurfio â hwy, ac mewn perthynas â phob amod o'r fath, naill ai'r cyfnod y mae'n effeithiol, neu ei fod yn effeithiol heb derfyn amser (yn ôl fel y digwydd).
(3) Yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i orchymyn atal bennu ymhen pa gyfnod (heb fod yn fwy na dwy flynedd) y daw'r athro neu'r athrawes yn gymwys ar gyfer cofrestru eto.
(4) Yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i orchymyn gwahardd bennu'r cyfnod (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na dwy flynedd yn dechrau ar y dyddiad y bydd effaith y gorchymyn yn dechrau) pryd na chaiff cais gael ei wneud am ddyfarniad bod yr athro neu'r athrawes yn gymwys ar gyfer cofrestru.
(5) Ac eithrio lle bydd Pwyllgor yn penderfynu fel arall, bydd effaith gorchymyn disgyblu'n dechrau ar y dyddiad y caiff hysbysiad amdano ei gyflwyno i'r person y mae'n cael ei wneud mewn perthynas ag ef.
(6) Rhaid i Bwyllgor -
(b) cyflwyno hysbysiad o'r gorchymyn i'w gyflogydd presennol neu ddiwethaf; ac
(c) anfon copi o'r gorchymyn i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Ar ôl i Bwyllgor ddyfarnu ar achos, os penderfynant beidio â gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas ag athro neu athrawes gofrestredig, rhaid i'r Pwyllgor roi gwybod am eu penderfyniad i'r athro neu'r athrawes gan gynnwys y rhesymau dros wneud y penderfyniad ac wrth wneud hynny rhaid iddynt roi gwybod iddynt ar yr un pryd a ydynt wedi penderfynu nad yw'r achos yn eu herbyn wedi'i brofi.
(8) Os nad ydynt yn dyfarnu bod yr achos yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig wedi'i brofi, os yw'r athro neu'r athrawes gofrestredig yn gwneud cais, rhaid i'r Pwyllgor gyhoeddi datganiad i'r perwyl hwnnw.
Cyhoeddi gorchmynion disgyblu
19.
- (1) Caiff y Cyngor gyhoeddi'r wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas â gorchymyn disgyblu -
(2) Yr wybodaeth sydd i gael ei chyhoeddi yw -
Cais am amrywio amod mewn gorchymyn cofrestru amodol, neu am roi amod o'r neilltu
20.
- (1) Caiff athro neu athrawes gofrestredig y mae gorchymyn cofrestru amodol wedi'i wneud mewn perthynas â hwy wneud cais i'r Cyngor am amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a phennu ar ba sail y mae'r athro neu'r athrawes gofrestredig yn gofyn am amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn, a chyda'r cais rhaid anfon pob dogfen y dibynnir arni i ategu'r cais.
(3) Os cafodd gorchymyn cofrestru amodol y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.
(4) Os cafodd gorchymyn cofrestru amodol y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.
Canlyniadau methu â chydymffurfio â gorchymyn cofrestru amodol
21.
Os yw Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol wedi'u bodloni bod athro neu athrawes gofrestredig y mae gorchymyn cofrestru amodol wedi'i wneud yn eu herbyn wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw amod ynddo, gallant wneud gorchymyn gwahardd neu atal mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes.
Gorchmynion gwahardd
22.
- (1) Caiff person y mae gorchymyn gwahardd wedi'i wneud mewn perthynas ag ef wneud cais i'r Cyngor am ddyfarniad ei fod yn gymwys i'w gofrestru.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a phennu ar ba sail y mae'r person yn gofyn am y dyfarniad, a chyda'r cais rhaid anfon pob dogfen y dibynnir arni i ategu'r cais.
(3) Os cafodd gorchymyn gwahardd y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.
(4) Os cafodd gorchymyn gwahardd y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.
Adolygu gorchmynion disgyblu
23.
Caiff Pwyllgor benderfynu eu hunain ar unrhyw adeg i ddiddymu gorchymyn disgyblu a wnaed ganddynt -
Apelau
24.
Bydd gan unrhyw berson a dramgwyddir gan orchymyn disgyblu sydd wedi'i wneud mewn perthynas ag ef hawl i apelio yn erbyn y gorchymyn i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y caiff hysbysiad y gorchymyn ei gyflwyno iddo.
Gorchmynion disgyblu a wneir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr
25.
Bydd gorchymyn disgyblu a wneir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr neu gan un o bwyllgorau'r Cyngor hwnnw yn gymwys mewn perthynas â Chymru fel y mae'n gymwys mewn perthynas â Lloegr.
Cyflwyno hysbysiadau a gorchmynion
26.
- (1) Gall unrhyw beth y mae'n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion achos disgyblu -
(2) At ddibenion rheoliadau 18(5) a 24 cymerir bod hysbysiadau gorchymyn disgyblu wedi'u cyflwyno i'r person y cafodd ei wneud mewn perthynas ag ef -
Cyhoeddi dogfennau a darparu copïau ohonynt
27.
- (1) Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi -
unrhyw reolau am y gweithdrefnau a wneir o dan reoliadau 10(6) neu 16 ac unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan reoliad 8(5), ac os bydd unrhyw athro neu athrawes gofrestredig yn gofyn, rhaid iddynt roi copi iddynt o'r rheolau hynny neu'r ddarpariaeth honno yn ddi-dâl.
(2) Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol iddynt ei gyhoeddi o dan reoliad 10(5), 11(5) neu 18(8) ar wefan a gedwir ganddynt ar y rhyngrwyd, ac os dymunant cânt gyhoeddi'r datganiad mewn unrhyw fodd arall a welant yn dda.
(3) Rhaid i'r Cyngor drefnu bod yr holl wybodaeth a roddir iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae "cyflogydd" yn cynnwys cyn-gyflogydd.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Ebrill 2001
Mae Rhan II hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad y Pwyllgorau hyn ac i'r Cyngor wneud darpariaeth bellach ynghylch materion cyfansoddiadol (rheoliad 8). Mae rheoliad 9 yn gwahardd Pwyllgorau Ymchwilio rhag arfer eu swyddagaethau mewn rhai achosion. Mae Rheoliadau 10 i 15 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodion y Pwyllgorau, gan gynnwys gwrandawiadau, ac mae rheoliad 16 yn galluogi'r Cyngor i wneud darpariaeth bellach ynghylch trafodion. Mae rheoliadau 18 i 23 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion disgyblu. Mae rheoliad 24 yn darparu bod gan berson y gwnaed gorchymyn disgyblu yn ei erbyn hawl i apelio i'r Uchel Lys.
Mae Rhan III yn ei gwneud yn ofynnol i rai cyflogwyr penodol athrawon cofrestredig roi'r wybodaeth a restrir yn yr Atodlen i'r Cyngor pan fyddant yn diswyddo athro neu athrawes gofrestredig ar sail anghymhwysedd neu lle y byddent wedi eu diswyddo neu wedi ystyried eu diswyddo pe na baent wedi ymddiswyddo gyntaf.
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] O.S. 2000/1979 (Cy. 140).back
[6] 1996 p.36; diwygiwyd adran 463 gan baragraffau 57 a 124 o Atodlen 30 a chan Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back
[7] 1996 p.36; diwygiwyd adran 337(1) gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back
[8] 1992 p.13; diwygiwyd adran 65 gan Ddeddf Camwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p.50) a Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).back
[9] O.S. 1999/1619 a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/3185 (Cy.43).back
[10] 1988 p.40. Diwygiwyd adran 218(6) gan adran 290(3) o Ddeddf Addysg 1993 (p.35) a chan adran 5(4) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14). Y rheoliadau a oedd mewn grym adeg gwneud y rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) 2000, O.S. 2000/2419, sy'n gymwys i Gymru a Lloegr.back