British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011408w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 1408 (Cy. 94)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
4 Ebrill 2001 | |
|
Yn dod i rym |
9 Ebrill 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[
1] a phob p
er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2]: -
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 9 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y swm y mae ei angen at anghenion personol
2.
Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw fydd £16.05 yr wythnos.
Diddymu
3.
Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2000[
3], drwy hyn wedi'u diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 ydd Ebrill 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r swm wythnosol y mae'r awdurdodau lleol yng Nghymru i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ei angen at eu hanghenion personol.
0 9 Ebrill 2001 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £16.05 yr wythnos at eu hanghenion personol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2000 (a oedd yn darparu ar gyfer y swm y rhagdybid bod ar breswylwyr ei angen o 10 Ebrill 2000 ymlaen) sy'n cael ei diddymu.
Notes:
[1]
1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael diffiniadau o "the Minister" a "prescribed" yn y drefn honno, ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2000/1145.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0-11-090204-1
|
Prepared
1 June 2001