British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011396w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 1396 (Cy.91)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
29 Mawrth 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 41, 42, 43, a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ([
1]) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992[2];
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
2
Yn Rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli) yn lle'r diffiniad o "Charges Regulations" rhoddir y diffiniad canlynol yn y lle priodol -
"
"Charges Regulations" means the National Health Service (Charges for Drugs and Appliances) (Wales) Regulations 2001[3];"
Diwygio Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau
3.
- (1) Caiff Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (telerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr), ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff 3 (darparu gwasanaethau fferyllol) -
(a) yn is-baragraff (1C)(a)(i)[4] dilëwch y geiriau "any of sub-paragraphs (d) to (g) of regulation 6(1)" a mewnosodwch y geiriau "regulation 8(1)";
(b) yn is-baragraff (1C)(a) dilëwch y geiriau " (d), (e) or (f) of regulation 6(1)" a mewnosodwch y geiriau "(a), (b), (c), (d) or (e) of regulation 8(1)".
Diwygio Rhan III o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau
4.
- (1) Caiff Rhan III o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol) ei diwygiio yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff 11B[5] -
(a) yn is-baragraff (a)(i) dilëwch y geiriau "any of sub-paragraphs (d) to (g) of regulation 6(1)" a mewnosodwch y geiriau "regulation 8(1)";
(b) yn is-baragraff 11B(a) dilëwch y geiriau "(d), (e) or (f) of regulation 6(1)" a mewnosodwch y geiriau "(a), (b), (c), (d) or (e) of regulation 8(1)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 ("y prif Reoliadau") sy'n rheoli trefniadau sydd i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd 1977 mewn perthynas â'u hardaloedd.
Mae rheoliad 2 yn mewnosod diffiniad newydd o "Charges Regulations" yn rheoliad 2(1) (dehongli) o'r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 3 yn estyn yr amgylchiadau lle y mae'n ofynnol i fferyllydd ofyn i berson sy'n cyflwyno archeb ar gyfer cyffuriau a chyfarpar o dan baragraff 3(1) o delerau gwasanaeth y fferyllydd i ddarparu tystiolaeth benodedig i gadarnhau ceisiadau penodol sy'n ymwneud ag esemptiadau rhag ffioedd sy'n ddyledus o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001.
Mae rheoliad 4 yn yr un modd yn diwygio'r gofynion i feddygon ac awdurdod i ddarparu gwasanaethau fferyllol ar gyfer claf o dan reoliad 20 o'r prif Reoliadau.
Notes:
[1]
1977 p. 49 ("Deddf 1977"); gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".
Diwygiwyd adran 41 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p. 53), ("Deddf 1980"), adrannau 1 ac 20(1) ac Atodlen 1, paragraff 53 ac Atodlen 7, gan O.S.1985/39, erthygl 7(13); gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(1) ac Atodlen 10; gan Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc. 1992 (p.28), adran 2; gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 29; a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), ("Deddf 1997"), Atodlen 2, paragraff 13.
Amnewidiwyd adran 42 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1986 (p. 66), adran 3(1); ei hestyn gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 17; a'i diwygio gan O.S.1987/2202, erthygl 4; gan Ddeddf 1990, adran 12(3); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 30.
Diwygiwyd adran 43 gan Ddeddf 1980, Atodlen 9, paragraff 18(2); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 31; a chan Ddeddf 1997, adran 29(1) ac Atodlen 2, paragraff 14.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 41, 42, 43 a 126(4) o Ddeddf 1977 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2]
O.S.1992/662; dyma'r offferynnau diwygio perthnasol O.S.1993/2451, 1994/2402, 1995/644, 1996/698, 1998/681 a 2224 a 1999/696.back
[3]
O.S.2001/1358 (W.86)back
[4]
Mewnosodwyd is-baragraff (1C) gan O.S.1996/696.back
[5]
Mewnosodwyd paragraff 11B gan O.S.1999/696.back
[6]
1998 p.38back
English version
ISBN
0-11-090189-4
|
Prepared
15 May 2001