British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011362w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 1362 (Cy.90)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
29 Mawrth 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1] a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "Rheoliadau 1997" ("the 1997 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[2];
ystyr "Rheoliadau 1986" ("the 1986 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 1986[3].
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
2.
Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster - cyflenwi cyfarpar optegol), ym mharagraffau (3)(c) (derbyn credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (g) (credyd treth pobl anabl), yn lle "£70" rhowch "£71".
Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997
3.
Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) -
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle "£42.80" rhowch "£43.90"; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle "£11.00" rhowch "£11.30".
Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
4.
- (1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau talebau a'u gwerth ar yr wyneb - cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) (gwerth y daleb ar ei hwyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhowch y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.
TABL
(1)
|
(2)
|
Yr hen swm
|
Y swm newydd
|
£ 29.30 |
£ 30.00 |
£ 44.50 |
£ 45.60 |
£ 60.60 |
£ 62.10 |
£ 136.90 |
£ 140.30 |
£ 50.50 |
£ 51.80 |
£ 64.30 |
£ 65.90 |
£ 77.30 |
£ 79.60 |
£ 150.50 (Yn y ddau fan lley'i gwelir) |
£ 154.30 |
£ 42.80 |
£ 43.90 |
Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, tintiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach ac arbennig a chyfarpar cymhleth) -
(a) ym mharagraff 1(1)(a) (prism - lens golwg sengl), yn lle "£6.10" rhowch "£6.30";
(b) ym mharagraff 1(1)(b) (prism -lens arall), yn lle "£7.00" rhowch "£7.20";
(c) ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg sengl â thint), yn lle "£3.10" rhowch "£3.20";
(ch) ym mharagraff 1(1)(d) (lens arall â thint), yn lle "£3.60" rhowch "£3.70";
(d) ym mharagraff 1(1)(e) (sbectolau bach), yn lle "£48.20" rhowch "£49.40", ac yn lle "£42.80" rhowch "£43.90", ac yn lle "£23.20" rhowch "£23.80";
(dd) ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau wedi'u gweithgynhyrchu'n arbennig) yn lle "£48.20" rhowch "£49.40";
(e) ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth - lensys golwg sengl), yn lle "£10.20" rhowch "£10.50".
(f) ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth - lensys eraill), yn lle "£25.90" rhowch "£26.50".
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
5.
Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (Profion Golwg - cymhwyster), ym mharagraffau (2)(c) (derbyn credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (2)(g) (derbyn credyd treth pobl anabl), yn lle "£70" rhowch "£71".
Defnyddio'r Rheoliadau hyn
6.
- (1) Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 5 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â dyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl sy'n cael eu gwneud ar neu ar ôl 10 Ebrill 2001 yn unig.
(2) Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 a 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliadau 12 neu 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 10 Ebrill 2001 yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001
ATODLEN Rheoliad 3(3)
ATODLEN 3 I REOLIADAU 1997 FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN
SCHEDULE 3Regulations 19(2) and (3)
VOUCHER VALUES - REPAIR
(1) |
(2) |
Nature of repair |
Letter Codes - Values |
|
A |
B |
C |
D |
E |
F |
G |
H&I |
|
£ |
£ |
£ |
£ |
£ |
£ |
£ |
£ |
Repair or replacement of one lens |
9.35 |
17.15 |
25.40 |
64.50 |
20.25 |
27.30 |
34.15 |
71.50 |
Repair or replacement of two lenses |
18.70 |
34.30 |
50.80 |
129.00 |
40.50 |
54.60 |
68.30 |
143.00 |
Repair or replacement of the front of a frame: |
9.60 |
9.60 |
9.60 |
9.60 |
9.60 |
9.60 |
9.60 |
9.60 |
the side of a frame |
5.70 |
5.70 |
5.70 |
5.70 |
5.70 |
5.70 |
5.70 |
5.70 |
the whole frame |
11.30 |
11.30 |
11.30 |
11.30 |
11.30 |
11.30 |
11.30 |
11.30 |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("Rheoliadau 1997") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986") . Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol. Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae
rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur a bennir ynddo ar gyfer yr "amount withdrawn" o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl.
Mae
rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) er mwyn cynyddu gwerth taleb optegol a roddir tuag at gost amnewid un lens cyffwrdd, ac er mwyn cynyddu uchafswm y cyfraniad a wneir drwy gyfrwng taleb tuag at gost trwsio ffrâm sbectol.
Mae
rheoliad 4(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at gost cyflenwi ac amnewid sbectolau a lensys cyffwrdd.
Mae
rheoliad 4(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerthoedd ychwanegol talebau ar gyfer prismau, tintiau, lensys ffotocromig a chategorïau penodol o gyfarpar.
Mae
rheoliad 4(3) a'r Atodlen yn gosod Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at drwsio ac amnewid cyfarpar optegol.
Rhyw 2.5% yw cyfradd y cynnydd, ar gyfartaledd.
Mae
rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur ar gyfer yr "amount withdrawn" o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl.
Yn rheoliad 6 ceir darpariaethau trosiannol.
Notes:
[1]
1977 p.49; Gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".
Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27.
Estynnwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) , adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52, gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6). Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1); mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3).
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2]
O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 a 3119.back
[3]
O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/486, 1989/395 a 1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705 a 2320, 1999/693 a 2481.back
[4]
1998 p.38back
English version
ISBN
0-11-090238-6
|
Prepared
13 June 2001