British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011359w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 1359 (Cy.87)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
29 Mawrth 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(2), 35(1), 36(1), 78, 79A, 83A, 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1] a pharagraff 3(2) o Atodlen 12 iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "Rheoliadau 1992" ("the 1992 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992[2];
ystyr "Rheoliadau 1989" ("the 1989 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989[3].
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992
2.
Yn Rhan II o Atodlen 4 i Reoliadau 1992 (triniaeth â chymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mharagraff 1 a 2, yn lle "£230" rhowch "£260".
Diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 1989
3.
- (1) Mae rheoliad 3 o Reoliadau 1989 yn cael ei ddiwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ar ôl paragraff 2(e) ychwanegwch -
"
(f) Subject to regulation 5A, the clinical examination and any report on that examination where, on the day upon which the examination is performed the patient -
(i) is under the age of 25 years; or
(ii) has attained the age of 60 years."
Diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 1989
4.
- (1) Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau 1989 mewnosodwch y rheoliad newydd canlynol -
"
5A.
Conditions of entitlement under regulation 3(2)(f)
(1) It is a condition of entitlement under regulation 3(2)(f) that -
(a) a written declaration, on a form provided for that purpose by the National Assembly for Wales, shall be made to the effect that the patient is, on the day upon which the examination takes place, within one of the categories specified in regulation 3(2)(f); and
(b) where the National Assembly for Wales so requires, evidence of entitlement shall be supplied by or on behalf of the patient.
(2) The declaration referred to in paragraph (1)(a) shall be made by the patient for whom the examination will be provided, except that where the application is made by another person on the patient's behalf, it shall be made instead by that person.
(3) In this regulation "evidence of entitlement" means the patient's birth certificate.
(4) Nothing in paragraphs (1)(b) or (3) prevents the National Assembly for Wales from accepting evidence other than that referred to in paragraph (3) as a means of establishing that a patient is within one of the categories referred to in regulation 3(2)(f)."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 ("Rheoliadau 1992") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 ("Rheoliadau 1989").
Mae Rheoliadau 1992 yn rheoleiddio'r telerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae Rheoliadau 1989 yn cynnwys darpariaethau ynghylch y ffioedd a godir am wasanaethau deintyddol cyffredinol
Mae Rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992 er mwyn cynyddu'r swm a bennir ynddi fel cost uchaf, neu gost debygol, y gofal a'r driniaeth y caiff deintydd ymgymryd â hwy heb ofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Bwrdd Ymarfer Deintyddol (o £230 i £260).
Mae Rheoliad 3 yn estyn rheoliad 3 o Reoliadau 1989 ac yn ychwanegu Rheoliad 5A newydd iddynt fel y bydd gan bersonau o dan 25 oed a'r rhai sydd wedi cyrraedd 60 oed hawl i gael archwiliadau deintyddol yn rhad ac am ddim, os caiff yr archwiliad ei roi ar neu ar ôl 1 Ebrill 2001, cyhyd ag y caiff datganiad o'r hawl ei wneud ar y ffurf a ragnodir.
Notes:
[1]
1977 p. 49 ("Deddf 1977"); gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".
Cafodd adran 35(1) ei hamnewid gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), a'i diwygio gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 24.
Cafodd adran 36(1) ei rhifo felly gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 3, paragraff 5(1) a'i diwygio gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1984/39, erthygl 7(10); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), Atodlen 2, paragraff 4; gan Ddeddf 1990, adran 24 a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 25(a).
Diwygiwyd adran 78 gan adrannau 11 a 25 o Ddeddf 1988 ac Atodlen 2, paragraff 25 iddi.
Mewnosodwyd adran 79A gan Ddeddf 1988, adran 11(3).
Mewnosodwyd adran 83A gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7); a'i diwygio gan Ddeddf 1988, adran 25 ac Atodlen 2, paragraff 6; gan Ddeddf 1990, adran 66 ac Atodlen 9; gan Ddeddf 1995, adran 2 ac Atodlen 1 a chan O.S. 1998/2835, erthygl 2.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.9) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1(2), 3591), 36(1), 78, 79A, 83A a 126(4) o Ddeddf 1977, a pharagraff 3(2) o Atodlen 12 iddi eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2]
O.S.1992/661; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1992/1509 a 1998/1648.back
[3]
S.I.1989/394; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1991/581 a 1998/2221.back
[4]
1998 (c.38)back
English version
ISBN
0-11-090229-7
|
Prepared
11 June 2001