British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011272w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 1272 (Cy.71)
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
29 Mawrth 2001 | |
|
Yn dod i rym |
30 Ebrill 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 [
1] ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru[
2]) a phob p
er arall sy'n galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y cyswllt hwnnw:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "darpar fabwysiadydd" ("prospective adopter") yw person sy'n preswylio fel arfer yn Ynysoedd Prydain[3] sydd, ar unrhyw adeg, yn dod â phlentyn sy'n preswylio fel arfer y tu allan i'r ynysoedd hynny i mewn i'r Deyrnas Unedig er mwyn ei fabwysiadu (heblaw mabwysiadu gan riant, gwarcheidwad neu berthynas);
mae i "panel mabwysiadu" yr un ystyr ag "adoption panel" yn Rheoliadau 1983;
ystyr "Rheoliadau 1983" ("the 1983 Regulations") yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983[4];
ystyr "Rheoliadau 2001" ("the 2001 Regulations") yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor 2001[5].
Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu a swyddogaethau panel mabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd
3.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys -
(a) i awdurdod lleol[6] y mae darpar fabwysiadydd wedi cyflwyno cais iddo am gael ei asesu yn unol â rheoliad 3(2)(a) o Reoliadau 2001; a
(b) i gymdeithas fabwysiadu a gymeradwywyd[7]) sydd wedi cytuno i asesu darpar fabwysiadydd sydd wedi cyflwyno cais iddi yn unol â'r rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu[8] asesu darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliadau 8 (dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd[9] ac 8A (collfarnau troseddol darpar fabwysiadydd)[10] o Reoliadau 1983.
(3) Rhaid i banel mabwysiadu y cyfeirir achos darpar fabwysiadydd ato ystyried yr achos a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu sy'n cyfeirio'r achos ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu, yn unol â rheoliad 10 (swyddogaethau panel mabwysiadu)[11] o Reoliadau 1983.
(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu -
(a) gwneud penderfyniad ynghylch addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu a hysbysu'r darpar fabwysiadydd am y penderfyniad, yn unol â rheoliad 11A (penderfyniadau a hysbysiadau asiantaethau mabwysiadu - darpar fabwysiadwyr)[12] o Reoliadau 1983; a
(b) pan fydd yr asiantaeth wedi penderfynu cymeradwyo'r darpar fabwysiadydd yn un sy'n addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu, hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig am y penderfyniad hwnnw a darparu iddo -
(i) yr holl wybodaeth a ystyriwyd gan y panel mabwysiadu cyn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu; a
(ii) unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas ag achos y darpar fabwysiadydd y bydd arno ei hangen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13].
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Mawrth 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan asiantaethau mabwysiadu a phaneli mabwysiadu yng Nghymru mewn perthynas ag asesu person sy'n dymuno mabwysiadu plentyn o wledydd tramor a'i gymeradwyo. Mae'r gweithdrefnau asesu a chymeradwyo yr un fath â'r rhai a nodir yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 mewn perthynas â darpar fabwysiadydd sy'n dymuno mabwysiadu plentyn sy'n preswylio fel arfer yn Ynysoedd Prydain.
Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru ddarparu gwybodaeth benodedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru pan fyddant yn penderfynu cymeradwyo darpar fabwysiadydd plentyn o wledydd tramor yn un sy'n addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu.
Notes:
[1]
1976 p.36 ("Deddf 1976"). Mae swyddogaethau'r Gwasanaeth Mabwysiadu sydd wedi'u nodi yn adran 1 o Ddeddf 1976, y mae'r pwerau o dan adran 9(2) a (3) o Ddeddf 1976 yn cael eu harfer mewn perthynas â hwy, wedi'u diwygio gan adran 9 o Ddeddf Mabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 (p.18)("Deddf 1999"). Deuir ag adran 9 o Ddeddf 1999 i rym ar 30 Ebrill 2001 gan O.S. 2001/1279.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 9(2) a (3) o Ddeddf 1976 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[3]
Drwy gyfeirio at adran 5 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30) ac Atodlen 1 iddi, ystyr "Ynysoedd Prydain" yw Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.back
[4]
O.S. 1983/1964, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/649 ac O.S. 1997/2308.back
[5]
O.S. 2001/1251.back
[6]
Mae i "awdurdod lleol" yr un ystyr ag i "local authority" yn adran 72(1) o Ddeddf 1976.back
[7]
Mae i "cymdeithas fabwysiadu a gymeradwywyd" yr un ystyr ag i "approved adoption society" yn adran 72(1) o Ddeddf 1976.back
[8]
Mae i "asiantaeth fabwysiadu" yr un ystyr ag i "adoption agency" yn adran 1(4) o Ddeddf 1976, sef awdurdod lleol neu gymdeithas fabwysiadu a gymeradwywyd.back
[9]
Diwygiwyd rheoliad 8 gan O.S. 1997/2308.back
[10]
Mewnosodwyd rheoliad 8A gan O.S. 1997/2308.back
[11]
Diwygiwyd rheoliad 10 gan O.S. 1997/649.back
[12]
Mewnosodwyd rheoliad 11A gan O.S. 1997/649 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2308.back
[13]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090184 3
|
Prepared
26 April 2001