British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011231w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 1231 (Cy. 65 )
AER GLÂN, CYMRU
Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
22 Mawrth 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i fodloni bod y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn yn medru cael eu defnyddio i losgi tanwyddau heb fod yn danwyddau awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993 [
1]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio o adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993
2.
Mae'r dosbarthiadau o leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemtio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sydd yn gwahardd gollyngiadau mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
2].
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mawrth 2001
ATODLENErthygl 2
Dosbarth y Lle Tân
Y "Beech Wood Fired Pizza Oven" sy'n cael ei chynhyrchu gan Beech Wood Fired Ovens, Brisbane, Awstralia.
Amodau
1.
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwydd-iadau'r gwneuthurwyr dyddiedig 3 Mawrth 2000 ac y mae arnynt y cyfeirnod "BBP236UK"
2.
Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw pren caled sych sydd heb ei drin.
Dosbarth y Lle Tân
Y "Morsø 3400 Owl" Cyfres GB ar gyfer llosgi pren sy'n cael ei chynhyrchu gan Morsø Jernstøberi A/S, Denmarc.
Amodau
1.
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwydd-iadau'r gwneuthurwyr dyddiedig 1 Ionawr 2000 ac y mae arnynt y cyfeirnod "72345600"
2.
Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw -
(a) pren sych sydd heb ei drin, ac sydd wedi ei hollti, ei stacio a'i sychu yn yr aer; neu
(b) briceti pren sydd wedi eu sychu yn yr aer.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn gwahardd yn gyffredinol ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Gall Cynulliad Cenedaethol Cymru trwy orchymyn wedi'i wneud o dan adran 21 o'r Ddeddf esemptio dosbarthiadau penodedig o leoedd tân o ddarpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gellir eu defnyddio i losgi tanwyddau heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn eithrio o ddarpariaethau adran 20 y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu rhestru yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn, yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n cael eu rhestru yn ail golofn yr Atodlen honno.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Notes:
[1]
1993 p.11 Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau ) 1999 (OS 1999 Rhif 672).back
[2]
1998 p.38back
English version
ISBN
0-11-090237-8
|
Prepared
13 June 2001