British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011154w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 1154 (Cy.61)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud 22 Mawrth 2001 |
|
Yn dod i rym |
23 Mawrth 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 23 Mawrth 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Diffiniadau
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, bydd y termau a ddefnyddir fel y maent wedi'u diffinio yn Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001[
3] "y prif Reoliadau".
(2) Ystyr "arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano" ("
claimed forage area") yw tir sydd wedi'i gofnodi fel arwynebedd porthiant mewn cais cymorth arwynebedd ar gyfer y flwyddyn 2000.
Daliadau Trawsffiniol
3.
Bydd y prif Reoliadau yn gymwys i ddaliadau a leolir yn rhannol y tu allan i Gymru ac yn rhannol yng Nghymru, ac eithrio i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu fel arall ar eu cyfer a hynny fel y maent wedi'u haddasu gan y Rheoliadau hyn.
Diffiniad o awdurdod cymwys
4.
- (1) Yn y rheoliadau hyn ystyr "awdurdod cymwys" mewn perthynas â daliad yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am benderfynu'r cais am gymorth arwynebedd a gyflwynwyd mewn perthynas â'r daliad.
(2) Yr awdurdodau cymwys yw -
(a) yng Nghymru, y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) yn yr Alban, Gweinidogion yr Alban;
(c) yn Lloegr, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd; ac
(ch) yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.
Trefniadau asiantaeth
5.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, gyda chytundeb unrhyw awdurdod cymwys arall, drefnu bod unrhyw rai o'i swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw geisiadau yn cael eu harfer gan yr awdurdod cymwys hwnnw ar ei ran.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gytuno hefyd i arfer swyddogaethau sy'n cyfateb i'r rhai sy'n arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliadau hyn neu'r prif reoliadau ar ran awdurdod cymwys arall
(3) Rhaid i unrhyw drefniant o'r fath fod yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan neu ar ran yr awdurdodau cymwys perthnasol a gall trefniant o'r fath fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau (gan gynnwys amodau yn ymwneud â'r costau a chodi tâl am gostau) y cytunir arnynt.
Gwrth-gyfrifiad
6.
Heb ragfarnu cyfanswm unrhyw swm sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol i unrhyw awdurdod cymwys arall, gellir gosod unrhyw swm sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol, p'un ai fel penadur neu fel asiant, fel taliad penodedig yn erbyn cyfanswm unrhyw swm y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei adennill, naill ai fel penadur neu fel asiant.
Dyrannu unedau da byw sy'n pori ar ddaliadau a leolir yn rhannol y tu allan i Gymru
7.
Pan fydd unrhyw ddaliad y gwnaed cais ar ei gyfer wedi'i leoli yn rhannol y tu allan i Gymru, rhaid cyfrifo nifer yr unedau da byw sy'n pori ar y rhan honno o'r daliad a leolir yng Nghymru fel a ganlyn:
ac
"N" yw nifer yr unedau da byw sy'n pori ar y rhan honno o'r daliad a leolir yng Nghymru;
"U" yw cyfanswm yr unedau da byw sy'n pori ar y daliad hwnnw;
"X" yw arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano y rhan honno o'r daliad a leolir yng Nghymru mewn hectarau; ac
"Y" yw cyfanswm arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano y daliad hwnnw mewn hectarau.
Dyrannu swmp cyfeiriol unigol o laeth ar ddaliadau a leolir yn rhannol y tu allan i Gymru
8.
Pan fydd unrhyw ddaliad y mae cais wedi'i wneud mewn perthynas ag ef wedi'i leoli yn rhannol y tu allan i Gymru, rhaid cyfrifo'r swmp cyfeiriol unigol o laeth a ystyrir fel pe bai ar gael i geisydd mewn perthynas â'r tir yng Nghymru fel a ganlyn: -
ac
"X" yw arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano y rhan honno o'r daliad a leolir yng Nghymru mewn hectarau;
"Y" yw cyfanswm arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano y daliad hwnnw mewn hectarau;
"B" yw cyfanswm swmp cyfeiriol unigol o laeth sydd ar gael i'r ceisydd mewn perthynas â'r daliad hwnnw; ac
"A" yw'r swmp cyfeiriol unigol o laeth a ystyrir fel pe bai ar gael i'r ceisydd mewn perthynas â'r rhan honno o'r daliad a leolir yng Nghymru.
Y dyddiad cau terfynol
9.
Yn rheoliad 10 o'r prif Reoliadau, ychwanegir y canlynol: -
"
(4) Os oes cais wedi'i wneud am un neu ragor o daliadau chwyddo o dan Elfen 2 o'r Cynllun am 2001, ond nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael gwybodaeth ategol i gadarnhau'r cais er ei foddhad erbyn 31 Mawrth 2001, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod y cais a dosbarthu cyllideb Elfen 2 ymhlith ceiswyr y mae eu ceisiadau wedi'u cadarnhau erbyn y dyddiad hwnnw.
(5) Ni chaiff ceisiadau am daliadau chwyddo Elfen 2 eu gwneud wedi 31 Mawrth 2001."
Ceisiadau HLCA yn unig
10.
Yn rheoliad 3 o'r prif Reoliadau, ychwanegir y canlynol: -
"
(9) Er gwaethaf darpariaethau paragraff 3(1)(c) o'r rheoliad hwn, bydd ceisydd yn gymwys i gael taliadau o dan y cynllun Tir Mynydd hyd yn oed os nad oes cais o'r fath am gymorth da byw wedi'i gyflwyno:
(a) os gwnaeth y ceisydd gais am Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel am y flwyddyn 2000 a chael taliadau; a
(b) os yw wedi gwneud cais am daliadau o dan y cynllun Tir Mynydd am unrhyw flynyddoedd wedyn yn y cyfamser ac wedi cael taliadau ar eu cyfer."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
22 Mawrth 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Cafodd Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Chwefror 2001.
Esboniodd Rheoliad 15 o'r prif Reoliadau nad yw'r "Rheoliadau hyn yn gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir mewn un neu fwy o'r canlynol, sef Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Chymru."
Mae'r Rheoliadau presennol yn ymdrin yn awr â chymhwyso'r prif Reoliadau at "ddaliadau trawsffiniol".
Mae'r prif Reoliadau yn gymwys i ddaliadau o'r fath ac eithrio i'r graddau y mae y rheoliadau hyn yn amrywio ar sut y maent yn gymwys.
Mae darpariaethau tebyg mewn perthynas â daliadau trawsffiniol wedi'u cynnwys mewn rheoliadau sydd wedi'u gwneud yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Achubwyd ar y cyfle i wneud yn eglur dau bwynt mewn perthynas â'r prif Reoliadau: -
(a) Yn rheoliad 9 rhoddir dyddiad cau, sef 31 Mawrth 2001, ar gyfer cyflwyno ceisiadau a thystiolaeth ategol i ganiatáu cyfrifo taliadau chwyddo Elfen 2 a'u talu i'r ceiswyr mewn perthynas â'r cynllun am 2001.
(b) Mae rheoliad 10 yn cadarnhau y gall taliadau Tir Mynydd gael eu talu i geiswyr a gafodd Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel am 2000 hyd yn oed os nad ydynt wedi gwneud cais am gymorth da byw mewn perthynas â defaid neu fuchod sugno neu'r ddau yn ystod y flwyddyn y cyflwynir y cais Tir Mynydd. Bydd yn dal yn angenrheidiol bodloni gofynion stocio Tir Mynydd.
Notes:
[1]
Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S.1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae per y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir y tu allan i Gymru, wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S.. 2001/496 (Cy.23).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090268 8
|
Prepared
18 July 2001