British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011109w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 1109 (Cy.53)
ADDYSG , CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
15 Mawrth 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2001 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 434(1) a (3) a 551 o Ddeddf Addysg 1996[
1], sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio
3.
Diwygir Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995[
3] fel a ganlyn fel y maent yn gymwys i Gymru.
4.
Yn lle rheoliad 2 (Dehongli) rhoddir y rheoliad canlynol -
"
Interpretation
2.
In these Regulations -
"the 1998 Act" means the School Standards and Framework Act 1998[4];
"maintained school" means a school maintained by a local education authority;
"proprietor" in relation to a school, means the person or body of persons responsible for the management of the school (so that, in relation to a community, foundation or voluntary school, or community or foundation special school, it means the governing body);
"the relevant person" means -
(a) in relation to a pupil under the age of 18, a parent of the pupil;
(b) in relation to a pupil who has attained that age, the pupil.".
5.
Yn rheoliad 7 (Cynnwys y Gofrestr Bresenoldeb) -
(a) ym mharagraff (3)(c), yn lle'r geiraiu "who" hyd at "because" rhoddir "to whom regulation 10(3A) applies,";
(b) yn lle paragraff (4A)[5] rhoddir y canlynol-
6.
Yn rheoliad 8 (Absenoldeb gyda chaniatâd), ym mharagraff (2)(c), yn lle'r geiriau "a police magistrate as defined in paragraph (9) of that section" rhoddir y geiriau "a justice of the peace".
7.
Yn rheoliad 9 (Dileadau o'r Gofrestr Dderbyn), yn lle paragraff (4)(d) rhoddir y canlynol -
"
(d) the permanent exclusion of a pupil does not take effect until the governing body have discharged their duties under section 66 of the 1998 Act, and -
(i) the relevant person has stated in writing that he or she does not intend to bring an appeal under section 67 of the 1998 Act;
(ii) the time for bringing an appeal has expired and no appeal has been brought within that time; or
(iii) an appeal brought within that time has been determined or abandoned."
8.
Yn rheoliad 16 (Defnyddio Cyfrifiaduron), ym mharagraff (6), yn lle "Data Protection Act 1984" rhoddir "Data Protection Act 1998"[7].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cyrmru 1998[8]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995 fel y maent yn gymwys i Gymru.
Effaith rheoliad 5, yn achos disgybl sydd wedi'i gofrestru fel disgybl mewn mwy nag un ysgol (ac eithrio disgybl sydd heb gyfeiriad parhaol oherwydd natur deithiol masnach neu fusnes rhieni'r disgybl), yw newid y ffordd y mae absenoldeb y disgybl o un o'r ysgolion hynny o achos ei bresenoldeb mewn ysgol arall o'r fath yn cael ei gofnodi yn nghofrestr bresenoldeb ysgol. Yn yr amgylchiadau hyn bydd absenoldeb y disgybl yn cael ei gofnodi fel gweithgaredd addysgol a gymeradwywyd yn hytrach nag absenoldeb sydd wedi'i awdurdodi.
Mae rheoliad 6 yn cymryd i ystyriaeth y diwygiad i adran 25 o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 gan reoliad 5 o Reoliadau Plant (Eu Hamddiffyn yn y Gwaith) 1998.
Mae rheoliad 7 yn cymryd i ystyriaeth y darpariaethau yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ynghylch pryd y mae effaith gwaharddiad parhaol disgybl yn dechrau.
Notes:
[1]
1996 p.56. Gweler y diffiniad o "prescribed" a "regulations" yn adran 579(1).back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 434 a 551 o Ddeddf Addysg 1996, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r rheoliadau hyn.back
[3]
O.S. 1995/2089; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1997/2624. Diddymwyd y pwerau y cafodd y rheoliadau hyn eu gwneud odanynt gan Ddeddf Addysg 1996, adran 582(2) ac Atodlen 38 ac yn rhinwedd adran 582(3) o'r Ddeddf honno, a pharagraff 1(2) o Atodlen 39 iddi, mae'r Rheoliadau yn awr yn cael effaith o dan adrannau 434 a 551 o'r Ddeddf honno.back
[4]
1998 p.31.back
[5]
Mewnosodwyd paragraff (4A) gan O.S. 1997/2624.back
[6]
Bydd absenoldeb disgybl y mae rheoliad 10(3A) yn gymwys iddo (plentyn teithwyr) er mwyn mynd i ysgol arall lle mae ef neu hi yn ddisgybl cofrestredig yn cael ei gofnodi nid fel gweithgaredd addysgol a gymeradwywyd ond fel absenoldeb a awdurdodwyd; gweler y diwygiad i reoliad 7(3)(c) o O.S. 1995/2089 fel y rhoddir effaith iddo gan reoliad 5(a) o'r Rheoliadau hyn.back
[7]
1998 p.29.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090315 3
|
Prepared
9 August 2001