British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011076w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 1076 (Cy. 52)
TALIADAU CYMUNEDOL, CYMRU
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
13 Mawrth 2001 | |
|
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1 |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 13(b) o Atodlen 4 a pharagraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[
1] a pharagraffau 1(1) a 13(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[
2] a phob p
![](/wales/legis/num_reg/2001/images/wcirc.gif)
er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
3].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001 .
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2001.
(3) Daw rheoliad 3 i rym ar y diwrnod y daw adran 90 (trosglwyddo swyddogaethau clercod i brif weithredwyr) o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 i rym[
4]).
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio'r Rheoliadau
2.
- (1) Ym mhob un o'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, yn lle "stipendiary magistrate" rhowch "District Judge (Magistrates' Courts)"[
5].
(2) Dyma'r darpariaethau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt:
(a) rheoliad 47(2) o Reoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989[6];
(b) rheoliad 21(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989[7]); ac
(c) rheoliad 53(2) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992[8].
3.
- (1) Ym mhob un o'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, yn lle "clerk of the court" rhowch "justices' chief executive for the court" [9]).
(2) Dyma'r darpariaethau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt:
(a) rheoliad 52(4) o Reoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989 [10];
(b) rheoliad 23 (4) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989[11]); ac
(c) rheoliad 57(3) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992[12]).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13].
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau, sy'n dod i rym yn unol â rheoliad 1, yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, yr offerynnau canlynol, sef,
- Rheoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989;
- Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989;
- Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992;
a hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth ddyfodiad i rym adran 78 o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 (p.22), ac Atodlen 11 iddi, sy'n uno'r fainc ynadon cyflogedig ac yn ei hailenwi, ac adran 90 o'r Ddeddf honno ac Atodlen 13 iddi sy'n darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau gweinyddol clercod ustusiaid i brif weithredwyr ustusiaid.
Mewn perthynas â Lloegr mae darpariaeth gyfatebol wedi'i gwneud ar gyfer uno'r fainc ynadon cyflogedig a'i hailenwi gan Reoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/2026) ac i'w gwneud gan reoliadau pellach ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau gweinyddol clercod ustusiaid i brif weithredwyr ustusiaid.
Notes:
[1]
1988 p.41. Diddymwyd adran 22 yr oedd Atodlen 4 yn effeithiol odani gan adran 117(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14), ac Atodlen 14 iddi, ond o dan adran 118(1) o'r Ddeddf 1992 honno nid yw'r diddymu i effeithio ar weithrediad y darpariaethau hynny mewn perthynas ag unrhyw dâl cymunedol ar gyfer diwrnod cyn 1 Ebrill 1993 neu mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn y dyddiad hwnnw.back
[2]
1992 p.14.back
[3]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladoly cyfeirir atynt, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[4]
1999 p.22. Daw adran 90 i rym ar y diwrnod a bennir gan yr Arglwydd Ganghellor drwy orchymyn o dan adran 108(1).back
[5]
Mae Adran 78 o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 yn rhoi yn lle adrannau 11 i 20 o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 (p.25), sy'n darparu ar gyfer ynadon cyflogedig, adrannau 10A i 10E newydd sy'n darparu ar gyfer Barnwyr Rhanbarth (Llysoedd Ynadon) yn eu lle. Mae paragraff 22 o Atodlen 14 i'r Ddeddf 1999 honno yn darparu bod unrhyw berson sy'n ynad cyflogedig neu'n ynad cyflogedig metropolitanaidd yn union cyn y daw adran 78 i rym i gael ei drin (oni fyddai'n ofynnol ymddiswyddo bryd hynny oherwydd oedran) fel un sydd wedi'i benodi'n Farnwr Dosbarth (Llys Ynadon) bryd hynny.back
[6]
O.S. 1989/438, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[7]
O.S. 1989/1058, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[8]
O.S. 1992/613, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[9]
Mae adran 90(5) o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 yn darparu mai holl swyddogaethau clercod ustusiaid yw eu swyddogaethau gweinyddol at ddibenion yr adran honno ar wahân i'r rhai sy'n swyddogaethau cyfreithiol o fewn yr ystyr a roddir iddynt gan adran 48(2) o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 (p.25) fel y'i hamnewidiwyd gan adran 89(1) o'r Ddeddf 1999 honno.back
[10]
O.S. 1989/438, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[11]
O.S. 1989/1058, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[12]
O.S. 1992/613, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[13]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0-11-090233-5
|
Prepared
12 June 2001