British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) (Diwygio) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010889w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 889 (Cy. 40)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) (Diwygio) 2001
|
Wedi'i wneud |
8 Mawrth 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 356(2)(c), (5), (6) ac (8) a 568(5) a (6) o Ddeddf Addysg 1996[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2].
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) (Diwygio) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2001.
Diwygio'r Gorchymyn
2.
- (1) Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997[
3] yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3(1) yn lle "references to levels of attainment, attainment targets, end of key stage descriptions and programmes of study are references to the levels, targets, descriptions and programmes set out in the associated documents" rhowch "references to levels of attainment, attainment targets and programmes of study are to the levels, targets and programmes set out in the associated documents.".
(3) Yn lle erthygl 8 rhowch -
"
Teacher assessment: geography, history, art music and physical education
8.
In the case of geography, history, art, music and physical education, the purpose of the assessment shall be to determine the level of attainment achieved by the pupil in the subject, and the record of the results shall consist of a statement of that level.".
(4) Hepgorir erthygl 9.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997 yn sgîl newidiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol a ddaeth i rym yn Awst 2000. Cyn y newidiadau hynny, nid oedd darpariaeth ar gyfer mesur lefelau cyrhaeddiad disgyblion mewn celf, cerddoriaeth ac addysg gorfforol yng nghyfnod allweddol 3 drwy gyfrwng graddfa ffurfiol. Yn hytrach, i fesur cyraeddiadau disgyblion yng nghyfnod allweddol 3, yr oedd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys yr hyn a elwid "Disgrifiadau diwedd cyfnod allweddol" ar gyfer pob targed cyrhaeddiad. O dan y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd, mae yna ddarpariaeth erbyn hyn ar gyfer mesur lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn y pynciau hyn drwy gyfrwng graddfa. Mae'r diwygiadau a wneir yn sgîl y Gorchymyn hwn i Orchymyn 1997 yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.
Notes:
[1]
1996 p.56.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1997/2010 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1976.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090188 6
|
Prepared
15 May 2001