Wedi'u gwneud | 8th Mawrth 2001 | ||
Yn dod i rym | 16 Ebrill 2001 |
ystyr "diwrnod ysgol" ("school day") yw unrhyw ddiwrnod y mae sesiwn ysgol yn digwydd yn yr ysgol;
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw.
Ystyr cofnodion addysgol
3.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "cofnod addysgol" ("educational record") yw unrhyw gofnod o wybodaeth -
heblaw gwybodaeth a brosesir gan athro at ddefnydd yr athro yn unig.
(2) Dyma'r ysgolion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) -
(3) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c) -
athro neu weithiwr cyflogedig arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerir ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);
(c) y disgybl y mae'r cofnod yn berthnasol iddo; ac
(ch) rhiant i'r disgybl hwnnw[4].
Dyletswyddau pennaeth - cofnodion cwricwlaidd
4.
Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ac eithrio ysgol feithrin, a phob ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly, gadw cofnod cwricwlaidd, a ddiweddarir o leiaf unwaith y flwyddyn, mewn perthynas â phob disgybl cofrestredig yn yr ysgol.
Dyletswyddau pennaeth - cofnodion addysgol
5.
- (1) Ar ôl cael cais ysgrifenedig gan riant i ddatgelu cofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ac eithrio ysgol feithrin, a phennaeth ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly, o fewn pymtheng niwrnod ysgol, drefnu ei fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, i'r rhiant.
(2) Ar ôl cael cais ysgrifenedig gan riant am gopi o gofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol o'r fath, o fewn pymtheng niwrnod ysgol, roi copi ohono i'r rhiant pan delir ffi (nad yw'n fwy na chost ei gyflenwi), os oes ffi, fel y caiff y corff llywodraethu ei ragnodi.
(3) Ym mhob achos lle'r ydys yn ystyried derbyn y disgybl i ysgol arall (gan gynnwys ysgol annibynnol) neu i sefydliad addysg bellach neu addysg uwch neu i unrhyw le addysg neu le hyfforddiant arall, rhaid i'r pennaeth drosglwyddo cofnod cwricwlaidd y disgybl i'r person cyfrifol, yn rhad ac am ddim, os yw'r person yn gwneud y cais hwnnw, cyn pen pymtheng niwrnod ysgol ar ôl cael y cais.
(4) Ni fydd y cofnod a roddir o dan baragraff (3) yn cynnwys canlyniadau unrhyw asesiad o gyraeddiadau'r disgybl.
(5) Wrth gydymffurfio ag unrhyw gais i ddatgelu neu i gael copi o gofnod addysgol disgybl o dan baragraff (1) neu (2) o'r rheoliad hwn, rhaid i'r pennaeth beidio â datgelu unrhyw ddogfennau sy'n destun unrhyw orchymyn o dan adran 30(2) o Ddeddf Diogelu Data 1998[5].
Cyfieithu
6.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol trefnu ei bod ar gael i'w harchwilio neu ei rhoi o dan reoliad 5(1), (2) neu (3).
(2) Os yw'n ymddangos i bennaeth yr ysgol ei bod yn ofynnol cyfieithu unrhyw ddogfen o'r fath i Gymraeg neu Saesneg, rhaid i'r pennaeth drefnu ei chyfieithu ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd rheoliad 5 yn gymwys i'r ddogfen a gyfieithwyd fel ag y mae'n gymwys i'r ddogfen wreiddiol.
(3) Os yw'n ymddangos i bennaeth yr ysgol ei bod yn ofynnol cyfieithu unrhyw ddogfen o'r fath i iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, rhaid i'r pennaeth drefnu ei chyfieithu ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd rheoliad 5 yn gymwys i'r ddogfen a gyfieithwyd fel ag y mae'n gymwys i'r ddogfen wreiddiol.
(4) Pan godir tâl am gopi o'r ddogfen wreiddiol, rhaid peidio â chodi tâl uwch am gopi o'r ddogfen a gyfieithwyd fel hyn.
Diddymu
7.
Mae Rheoliadau Addysg (Cofnodion Ysgol) 1989[6] wedi'u diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2001
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back
[3] 1988 p.40 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 49 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).back
[4] Yr un diffiniad yw hwn â'r diffiniad o "educational record" a geir yn Atodlen 11 i Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29).back