British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010607w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 607 (Cy.30)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
27 Chwefror2001 | |
|
Yn dod i rym |
Dydd Gwyl Dewi 1af Mawrth 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y p
er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 189(2) o Ddeddf Tai 1996[
1] sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru[
2]; ar ôl ymgynghori ag unrhyw gymdeithasau sy'n cynrychioli'r awdurdodau perthnasol ac unrhyw bersonau eraill sy'n briodol ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 189(3) :
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar Ddydd Gwyl Dewi, Mawrth 1af 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Personau y mae arnynt angen blaenoriaethol i gael llety
2.
Mae ar y disgrifiadau o berson a bennir yn erthyglau 3 i 7 angen blaenoriaethol i gael llety o dan adran 189 o Ddeddf Tai 1996.
Person sy'n ymadael â gofal neu berson sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol, ac sy'n 18 oed neu drosodd ond o dan 21 oed
3.
- (1) Person Sydd
(a) yn 18 oed neu'n hyn ond o dan 21 oed; a
(b) a oedd ar unrhyw adeg pan oedd yn dal yn blentyn, ond nad yw bellach, yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu; neu
(c) sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol.
(2) Ym mharagraff (1)(b) uchod, ystyr "yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu" yw:
(a) yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;
(b) yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol neu ar ei ran;
(c) yn cael ei letya mewn cartref preifat i blant;
(ch) yn cael ei letya am gyfnod di-dor o dri mis o leiaf -
(i) gan unrhyw awdurdod iechyd, awdurdod iechyd arbennig neu awdurdod addysg lleol, neu
(ii) mewn unrhyw gartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl neu mewn unrhyw lety a ddarperir gan un o Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; neu
(d) yn cael ei faethu'n breifat.
Person 16 neu 17 oed
4.
Person sy'n 16 neu'n 17 oed.
Person sy'n ffoi rhag trais yn y cartref neu rhag bygythiad trais yn y cartref
5.
Person heb blant dibynnol sydd wedi bod yn destun trais yn y cartref neu sydd mewn perygl trais o'r fath, neu a fydd mewn perygl trais yn y cartref os bydd ef neu hi'n dychwelyd yno.
Person sydd heb lety ar ôl ymadael â'r lluoedd arfog
6.
- (1) Person sydd yn y gorffennol wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r lluoedd hynny.
(2) Ym mharagraff (1) uchod, mae i'r ymadrodd "lluoedd arfog rheolaidd y Goron" yr ystyr a roddir i "regular armed forces of the Crown" yn adran 199(4) o Ddeddf Tai 1996.
Cyn-garcharor sydd heb lety ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa
7.
- (1) Cyn-garcharor sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r ddalfa ac sydd â chysylltiad lleol gydag ardal yr awdurdod tai lleol.
(2) Ystyr "carcharor" yw unrhyw berson sydd am y tro yn cael ei gadw yn y ddalfa yn gyfreithlon o ganlyniad i ofyniad a osodwyd gan lys iddo ef gael ei gadw neu iddi hi gael ei chadw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan Ran VII o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996"), mae ar yr awdurdodau tai lleol ddyletswydd i ddarparu llety ar gyfer y rhai sy'n ddigartref, yn gymwys i gael cymorth, ac arnynt angen blaenoriaethol.
Mae adran 189 o Ddeddf 1996 yn nodi disgrifiadau o bersonau y mae arnynt angen blaenoriaethol ac mae hefyd yn rhoi p
er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu rhagor o ddisgrifiadau.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu rhagor o ddisgrifiadau o bersonau y mae arnynt angen blaenoriaethol:
- person sy'n ymadael â gofal neu berson sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol, ac sy'n 18 oed neu drosodd ond o dan 21 oed (erthygl 3)
- person 16 neu 17 oed (erthygl 4)
- person sy'n ffoi rhag trais yn y cartref neu rhag bygythiad trais yn y cartref (erthygl 5)
- person sydd heb lety ar ôl ymadael â'r lluoedd arfog (erthygl 6)
- cyn-garcharor sydd heb lety ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa (erthygl 7).
Notes:
[1]
1996 p.52back
[2]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[3]
1998 p.38back
English version
ISBN
0-11-090222-X
|
Prepared
8 June 2001