British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Offerynnau Statudol 2001 Rhif 606 (Cy. 29)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010606w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 606 (Cy. 29)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
27 Chwefror 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2001 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 527A(4) a (5) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[
1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau
2.
Yn rheoliad 3 (ymgynghori) o Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998[
3] -
(i) Ym mharagraff (2)(n) yn lle'r geiriau "clerk to the justices" rhoddir y geiriau "justices' chief executive"; a
(ii) Dilëir paragraff (5) .
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4])
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998 mewn perthynas â Chymru i drosglwyddo swyddogaethau gweinyddol clercod ustusiaid i brif weithredwyr ustusiaid yn unol ag adran 90 o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 (p.22) ac Atodlen 13 iddi.
Mae is-adran (5) o'r adran honno yn darparu mai holl swyddogaethau clercod ustusiaid yw eu swyddogaethau gweinyddol at ddibenion yr adran honno ar wahân i'r rhai sy'n swyddogaethau cyfreithiol o fewn yr ystyr a roddir iddynt gan adran 48(2) o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 (p.25), fel y'i hamnewidiwyd gan adran 89(1) o Ddeddf 1999.
Notes:
[1]
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 527A gan adran 9 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac mae diwygiadau dilynol nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau presennol. Ar gyfer ystyr "prescribed" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1998/644.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0-11-090166-5
|
Prepared
26 March 2001