British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Offerynnau Statudol 2001 Rhif 605 (Cy. 28)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010605w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 605 (Cy. 28)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
27 Chwefror 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod awdurdodi defnyddio cyfarthrebu electronig gan y Gorchymyn hwn at unrhyw ddiben yn gyfryw nes na fydd cofnodion o bethau a wneir at y diben hwnnw ar gael ar raddfa lai boddhaol (os o gwbl) mewn achosion lle caiff cyfarthrebu electronig ei ddefnyddio nag mewn achosion eraill. Gan hynny, mae'n gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8 a 10 (2), (3)(d),(3)(e), (4) a (5) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000[
1] a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn,
ystyr "Deddf 1989" yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[2].
Diwygiadau i Ddeddf 1989
2.
- (1) Mae'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1989 gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cyfathrebu Electronig) (Lloegr) 2000 [3] fel y'u nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru hefyd.
(2) Mae cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y diwygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2001
Rwy'n cydsynio i'r Gorchymyn hwn.
Paul Murphy
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
27 Chwefror 2001
ATODLENERTHYGL 2
Cyfathrebu'r penderfyniad terfynol ar swm cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai yn electronig
1.
Yn adran 80A o Ddeddf 1989[
5] (y penderfyniad terfynol ar swm cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai) ar ôl is-adran (1), mewnosodir yr is-adrannau canlynol -
"
(1A) Notification in writing of a decision under this section is to be taken as given to a local housing authority where notice of the decision is sent using electronic communications to such address as may for the time being be notified by that authority to the Secretary of State for that purpose.
(1B) Notification in writing of a decision under this section is also to be treated as given to a local housing authority where -
(a) the Secretary of State and that authority have agreed that notifications of decisions under this section required to be given in writing to that authority may instead be accessed by that authority on a web site;
(b) the decision is a decision to which that agreement applies;
(c) the Secretary of State has published the decision on a web site;
(d) that authority is notified, in a manner for the time being agreed for the purpose between it and the Secretary of State, of -
(i) the publication of the decision on a web site;
(ii) the address of that web site; and
(iii) the place on that web site where the notice may be accessed, and how it may be accessed.
(1C) A local housing authority which is no longer willing to accept electronic communications for the notification of decisions under this section, may withdraw a notification of an address given to the Secretary of State for the purposes of subsection (1A) above, and such a withdrawal shall take effect on a date specified by the authority being a date no less than one month after the date on which the authority informs the Secretary of State that it wants to withdraw the notification of the address given.
(1D) A local housing authority which has entered into an agreement with the Secretary of State under paragraph (a) of subsection (1B) above may revoke the agreement, and such revocation shall take effect on a date specified by the authority being a date no less than one month after the date on which the authority informs the Secretary of State that it wants to revoke the agreement.".
Cyfathrebu dyfarniadau a chyfarwyddiadau yn electronig
2.
Yn adran 87 o Ddeddf 1989[6] (penderfyniadau a chyfarwyddiadau) ar ôl is-adran (3), mewnosodir yr is-adrannau canlynol -
"
(4) References in this section to sending to a local housing authority a copy of a determination under this Part include references to using electronic communications for sending a copy of a determination to such address as may for the time being be notified to the Secretary of State by that authority for that purpose.
(5) For the purposes of this section a copy of a determination under this Part is also to be treated as sent to a local housing authority where -
(a) the Secretary of State and that authority have agreed to the authority instead having access to determinations on a web site;
(b) the determination is a determination to which that agreement applies;
(c) the Secretary of State has published the determination on a web site;
(d) that authority is notified, in a manner for the time being agreed for the purpose between that authority and the Secretary of State, of -
(i) the publication of the determination on a web site;
(ii) the address of that web site; and
(iii) the place on that web site where the determination may be accessed, and how it may be accessed.
(6) A local housing authority which is no longer willing to accept electronic communications for the notification of decisions under this section, may withdraw a notification of an address given to the Secretary of State for the purposes of subsection (4) above, and such a withdrawal shall take effect on a date specified by the authority being a date no less than one month after the date on which the authority informs the Secretary of State that it wants to withdraw the notification of the address given.
(7) A local housing authority which has entered into an agreement with the Secretary of State under paragraph (a) of subsection (5) above may revoke the agreement, and such revocation shall take effect on a date specified by the authority being a date no less than one month after the date on which the authority informs the Secretary of State that it wants to revoke the agreement.".
Dehongli Rhan VI o Ddeddf 1989 a'i chymhwyso
3.
Yn adran 88(1) o Ddeddf 1989 -
(1) ar ddiwedd paragraff (c) dilëir "and";
(2) ar ôl paragraff (d) mewnosodir -
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 8 o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 ("Deddf 2000") yn rhoi p
er i'r Gweinidog priodol (fel y'i diffinnir yn adrannau 9(1) a 10(1) o Ddeddf 2000) addasu deddfwriaeth er mwyn awdurdodi neu hwyluso defnyddio dulliau cyfathrebu electronig neu ddulliau storio electronig.
Mae adran 10 o Ddeddf 2000 yn nodi o dan ba amgylchiadau ac ym mha fodd y mae'r p
er yn Adran 8 yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae adrannau 80A, 87 ac 88 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("Deddf 1989") yn cael eu diwygio gan y Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1989 (gyda rhai eithriadau) yn arferadwy yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd darpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Gan hynny, mae pob cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y diwygiadau i Ddeddf 1989 yn gyfeiriadau i bob pwrpas (yng Nghymru) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r diwygiadau'n cael eu gwneud drwy gymhwyso'r diwygiadau i Ddeddf 1989 sydd wedi'u gwneud gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cyfathrebu Electronig) (Lloegr) 2000 (OS 2000/3056) at Gymru. Nodir y diwygiadau hynny yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Effaith y Gorchymyn hwn yw diwygio adran 80A o Ddeddf 1989 er mwyn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddefnyddio dulliau cyfathrebu electronig:
- i hysbysu awdurdod tai lleol o'i benderfyniad terfynol ar faint o gymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai sy'n daladwy i'r awdurdod am y flwyddyn, neu
- i gyhoeddi'r penderfyniad ar wefan a hysbysu'r awdurdod ei fod wedi gwneud hynny, ym mha le y gellir dod o hyd i'r penderfyniad a sut y gellir cael gafael arno (os yw wedi cytuno felly gyda'r awdurdod).
Effaith y Gorchymyn hwn hefyd yw diwygio adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, i ganiatàu i'r Cynulliad:
- defnyddio dulliau cyfathrebu electronig i anfon copi at awdurdod tai lleol o unrhyw ddyfarniad a wneir o dan Ran VI o Ddeddf 1989 (dyfarniad ar faint o gymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai sy'n daladwy o dan adran 80 o Ddeddf 1989, neu ddyfarniad ar fformwla y dylai credydau a debydau gael eu cyfrifo yn unol â hi o dan Eitem 8 o Ran I ac Eitem 8 o Ran II o Atodlen 4 i Ddeddf 1989).
Mae'r diwygiad hwn hefyd yn caniatàu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyflawni ei rwymedigaeth i anfon copi o ddyfarniad at awdurdod drwy gyhoeddi'r dyfarniad ar wefan a hysbysu'r awdurdod y gellir dod o hyd iddo yno, a sut y gellir cael gafael arno yno (os yw wedi cytuno felly gyda'r awdurdod).
Caiff awdurdod nad yw mwyach yn fodlon derbyn dyfarniad neu benderfyniad drwy ddull electronig hysbysu ei fod yn tynnu ei hysbysiad ynghylch y cyfeiriad y gall gohebiaeth electronig gael ei hanfon ato yn ôl, a'i fod yn diddymu cytundeb y gellir ei hysbysu drwy edrych ar wefan. Daw'r tynnu'n ôl neu'r diddymu i rym ar ddyddiad a bennir gan yr awdurdod sy'n gorfod bod o leiaf fis o'r dyddiad y mae'r awdurdod yn rhoi'r hysbysiad ynghylch y tynnu'n ôl neu'r diddymu.
Yn olaf, effaith y Gorchymyn hwn yw diwygio adran 88 o Ddeddf 1989 drwy fewnosod diffiniad o ddulliau cyfathrebu electronig a diffiniad o gyfeiriad at ddibenion cyfathrebu electronig.
Notes:
[1]
2000 p.7. I gael y diffiniad o "the appropriate Minister" gweler adrannau 9(1) a 10(1).back
[2]
1989 p.42.back
[3]
OS 2000/3056back
[4]
1998 c.38.back
[5]
Mewnosodwyd adran 80A gan baragraff 5 o Atodlen 18 i Ddeddf Tai 1996 (1996 p.52). Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 80A yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan y Cynulliad yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (1999 Rhif 672).back
[6]
Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 87 yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan y Cynulliad yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.back
[7]
1984 p.12.back
English version
ISBN
0-11-090165-7
|
Prepared
26 March 2001